Myddfai
Reid fer ond heriol i bentref Myddfai
Cychwyn: Llanymddyfri
Cyfanswm Pellter: 13km/8 milltir
Cyfanswm Dringo: 200m/985tr
Lefel Anhawster: 4/10
Amcangyfrif Amser: 30 munud i 90 munud
Route map for Myddfai - Llandovery (S3) by Discover Carmarthenshire on plotaroute.com
Cyfarwyddiadau
O Faes Parcio Llanymddyfri ewch allan i’r A40 a throwch i’r chwith bron yn syth i’r A4069, arwydd Llangadog. Ewch ymlaen am 1.5km, ac yn fuan ar ôl croesi pont, trowch i’r chwith, arwydd Myddfai. Ewch ymlaen am 2.5km, ac yn y gyffordd-t wedi disgyniad serth trowch i’r chwith.
Ewch ymlaen i bentref Myddfai ac yn y pentref yn y gyffordd-t trowch i’r chwith. Dilynwch yn ôl i Lanymddyfri am bron i 5km. Yn y gyffordd trowch i’r chwith ac ewch ymlaen am 300 metr, gan droi i’r chwith yn union cyn y Castle Hotel i fynd yn ôl i’r maes parcio.
Mae pentref Myddfai yn gyforiog o hanes a chwedlau a gafodd eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae stori Meddygon Myddfai a Morwyn y Llyn yn rhannau annatod o ddiwylliant y pentref. Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi ym Myddfai yn lleoedd gwych i alw ynddynt a dysgu am y trysorau sydd gan y pentref hwn. Yn fwy diweddar, daeth yr ardal yn un frenhinol, ac erbyn hyn mae fferm a stad Llwynywermod yn eiddo i Ddugiaeth Cernyw.
Mae’r llwybr hwn yn gadael Llanymddyfri ac yn fuan byddwch ar lonydd tawelach cefn gwlad. Wedi croesi afon Brân mae’n dringo’r cyntaf o nifer o riwiau ar y llwybr sydd, er eu bod yn fyr, yn sicr yn gadael ei ôl gan nad yw Myddfai yn lle hawdd i’w gyrraedd.
Mae disgyniad cyflym, byr i faenordy a choetir Cilgwyn yn cynnig cyfle byr i gael eich gwynt yn ôl ar ffyrdd mwy gwastad, cyn cychwyn ar ddringfa arall, yr un olaf cyn cyrraedd y pentref diolch byth. Wrth fynd i mewn i’r pentref rydych yn pasio capel ac yn mynd ymlaen heibio’r hen ysgol, ac mae’r ganolfan ymwelwyr yn ddargyfeiriad byr ar y dde. Mae’n werth mynd i’w gweld, os oes gennych ddiddordeb mewn hanes neu os nad ydych ond yn chwilio am luniaeth.
Mae’r daith yn ôl ar i fyny i ddechrau, gan ddringo allan o’r pentref i fan uchel ger stad Llwynywermod. Mae’r disgyniad olaf i Lanymddyfri i lawr yr hyn a elwir yn lleol yn Rock Hill yn serth a gall fod yn beryglus, ac mae angen bod yn ofalus ond mae’n ddiwedd bywiog a boddhaus iawn i lwybr gwych.

Uchafbwyntiau
Myddfai – Pentref mewn lleoliad hyfryd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Cyfle am hoe
Myddfai – Neuadd Gymuned, canolfan ymwelwyr a chaffi
Llanymddyfri – Ystafelloedd Te Penygawse
Llanymddyfri – Caffi’r Ganolfan Grefftau
Llanymddyfri – West End Cafe
Gwybodaeth ddefnyddiol
County Cycles – Siop feiciau, Cross Hands
Cycle-tec – Siop feiciau – Llanfair-ym-Muallt