Cronfa Ddŵr Wysg
Taith ddeniadol i Fannau Brycheiniog yn ardal Llanymddyfri
Cychwyn: Llanymddyfri
Cyfanswm Pellter: 46km/28 milltir
Cyfanswm Dringo: 636m/2085tr
Lefel Anhawster: 4/10
Amcangyfrif Amser: 2 i 3.5awr
Route map for Usk Reservoir - Llandovery (M1) by Discover Carmarthenshire on plotaroute.com
Cyfarwyddiadau
O Faes Parcio Llanymddyfri ewch allan i’r A40 a throwch yn syth i’r dde i’r A4069, arwydd Llangadog. Ewch yn eich blaen am 10km i bentref Llangadog a throwch i’r chwith ynghanol y pentref, arwydd Brynaman (A4069). Ewch yn eich blaen am 4.5km, yna trowch i’r chwith ar groesffordd dros bont garreg, arwydd Llanddeusant.
Ewch yn eich blaen ar y ffordd yma am 18km i bentref Trecastell. Yn y gyffordd-t, trowch i’r chwith i’r A40, arwydd Llanymddyfri. Dilynwch am 14km yn ôl i Lanymddyfri. Ynghanol y dref, trowch i’r chwith yn union cyn y Castle Hotel yn ôl i’r maes parcio i orffen.
Mae tref Llanymddyfri wedi’i nythu rhwng Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria ac mae digonedd o ffyrdd gwledig a thirwedd i’w crwydro yn y naill ardal a’r llall. Mae’r llwybr yn mynd tuag at Fannau Brycheiniog, gan gymryd ffyrdd sy’n cynnig golygfeydd y bydd reidwyr yn teimlo fod rhaid iddynt gael hoe i’w mwynhau.
O Lanymddyfri i bentref Llangadog, taith o tua 10 cilomedr, mae’r ffordd yn donnog ac yn cynnig golygfeydd braf a chyfle i ddechrau mwynhau’r ardal. Wrth droi yn Llangadog mae’r ffordd yn dechrau troelli wrth iddi ddilyn afon Sawdde ar i fyny cyn troi i’r chwith a thros bont sy’n croesi’r afon. Oddi yma mae’r ffordd yn mynd ar i fyny, ac ar y cychwyn mae’n ddringfa heriol, gyda graddiannau dros 10% am gyfnod cyn iddi ddechrau ysgafnhau. Yn gyffredinol, mae’r ddringfa’n un hir, 7km o ffordd, sy’n codi’n araf i uchder o dros 350 metr.
Ar ei ffordd i fyny mae’r ffordd yn mynd trwy bentrefi bychain a heibio llecyn bwydo lleol ar gyfer y Cudyll Coch lle y dylai fod yn hawdd gweld yr adar ar unrhyw adeg o’r dydd, ond yn enwedig felly o gwmpas 2-3pm pan mae’r bwydo’n digwydd. Mae hanes yr aderyn yn yr ardal yn dyddio’n ôl i gyfnod pan oedd yn fregus, a’r sôn oedd bod y Fyddin yn gwarchod safleoedd nythu yn Nyffryn Tywi.
O’r llecyn bwydo yn Cross Inn mae’r ffordd yn fuan yn cyrraedd gweundir agored ac mae’r ffordd i’w gweld am bellter o’ch blaen. Mae’r ardal hon yn pasio rhwng Mynydd Myddfai ar y chwith a Fan Brycheiniog ar godiad uchel ar y dde, un o’r mynyddoedd mwyaf eiconig a chofiadwy yng Nghymru gyfan. Yn guddiedig yn y coed ceir Cronfa Ddŵr Wysg, ac er nad yw bron byth i’w gweld mae’r llwybr yn pasio o fewn ychydig gannoedd o fetrau mewn un man.
Er bod y dringo di-baid yn ysgafnhau gydag ambell ddisgyniad byr, mae’n parhau’n ffordd donnog a heriol am ychydig gilomedrau eto nes bod y ffordd yn mynd ar i lawr am ddigon o amser i roi’r gorau i bedlo a mwynhau’r llif. Yn fuan wedyn mae’r llwybr yn cyrraedd Trecastell ac yn ymuno â’r A40. Oddi yma yn ôl i Lanymddyfri efallai fod y ffordd yn brysurach ond mae’n dal yn ddifyr, gyda digon o droeon i’w mwynhau ar hyd y ffordd yn ogystal â bod yn ddisgyniad graddol bron yr holl ffordd.
Uchafbwyntiau
Cwm Sawdde – Ffordd sy’n dringo’n araf gan ddilyn llwybr yr afon islaw
Fedw Fawr – Darn hyfryd o darmac gyda golygfeydd o’r Bannau yn y pellter a thirwedd agored ar y ddwy ochr
Cudyll Coch – Byddwch yn pasio’n agos at lecyn bwydo poblogaidd ar gyfer y Cudyll Coch, ac rydych bron yn sicr o weld un.
Cyfle am hoe
Llangadog – Siop bentref Mace
Llangadog – Swyddfa Bost a siop y pentref
Llanymddyfri – Ystafelloedd Te Penygawse
Llanymddyfri – Caffi’r Ganolfan Grefftau
Llanymddyfri – West End Cafe
Gwybodaeth ddefnyddiol
County Cycles – Siop feiciau, Cross Hands
Cycle-tec – Siop feiciau – Llanfair-ym-Muallt