Cilycwm
Taith i Langadog ac yn ôl trwy Gilgwyn
Cychwyn: Llanymddyfri
Cyfanswm Pellter: 19km/12 milltir
Cyfanswm Dringo: 200m/650tr
Lefel Anhawster: 3/10
Amcangyfrif Amser: 45 munud i 2 awr
Route map for Cilgwyn - Llandoery (S2) by Discover Carmarthenshire on plotaroute.com
Cyfarwyddiadau
O Faes Parcio Llanymddyfri ewch allan i’r A40 a throwch bron yn syth i’r chwith i’r A4069, arwydd Llangadog. Dilynwch am 10 cilomedr i bentref Llangadog. Yn fuan wedi pasio’r ysgol, trowch ar ongl lem i’r chwith i ffordd fechan ddi-ddosbarth, arwydd Myddfai (Heol Pendref). Dilynwch yr isffordd trwy Gilgwyn am 5 cilomedr. Wrth i’r ffordd droi i’r dde, ewch yn syth yn eich blaen ac at y bryn y gallwch ei weld o’ch blaen.
Dilynwch am 2.5km i’r gyffordd-t lle y byddwch yn troi i’r dde ac yn mynd yn ôl i Lanymddyfri. Yn y gyffordd ewch yn syth ar ei thraws a bron yn syth wedyn trowch i’r dde yn ôl i’r maes parcio.
Gan fod gan Lanymddyfri 2 briffordd yn mynd trwyddi mae nifer fawr o lonydd gwledig yn cysylltu â hi hefyd. Mae’r daith hon yn gadael Llanymddyfri ac yn mynd i Langadog, sy’n agos at Afon Tywi ac yn 6 milltir i ffwrdd.
Rydych yn gadael y dref ac i ffordd-A, er ei bod yn ffordd weddol dawel ac yn un y mae llawer o yrwyr yn ei ffafrio; er ei bod yn syth a rhwydd mae llawer llai o draffig a chyflymdra arni na’r brif A40 sydd ar ochr arall y Tywi. Mae’r 6 milltir i Langadog yn reid ddymunol, gydag ambell fryn tonnog ond dim byd fydd yn herio’r rhan fwyaf o reidwyr. Ceir golygfeydd braf o’r bryniau cyfagos, ac yn fuan wedi “Tro Glasallt” bydd y Mynydd Du a thiroedd uchaf Bannau Brycheiniog i’w gweld ar ddiwrnod clir.
Wrth ichi fynd i mewn i Langadog a chroesi dros y bont grwb mae’r llwybr yn troi ychydig cyn mynd i mewn i’r pentref ei hun. Gan fod nifer o siopau bychain yn y pentref gallai fod yn lle da i gael hoe a chael tamaid i’w fwyta cyn cychwyn ar y daith yn ôl. Mae’r daith yn ôl yn dawelach ac yn cynnig golygfeydd gwell fyth, y cyfan ar lonydd gwledig tawel sydd weithiau’n gul. Rhaid bod yn ofalus ar un gornel arbennig yng Nglansefin lle y mae’r ffordd yn troi 180 gradd ac yn aml yn llithrig.
Yn fuan wedyn ewch trwy ardal Cilgwyn, lle y mae coedwig yn fan cerdded poblogaidd ac yn fuan ar ôl mynd heibio’r maenordy o’r un enw. Mae un bryn mawr ar y llwybr sy’n dod yn fuan wedi’r darn mwyaf serth ar y dechrau gan wastatáu cyn un ddringfa olaf i’r copa.
Mae’r disgyniad sy’n dilyn yn gyflym a hwyliog, er bod angen gofal gan ei fod oll dan orchudd coed a gall fod yn dywyll. Wrth i’r coed ddod i ben mae’r ffordd yn ail-ymuno â’r ffordd-b yr aethoch arni ar ddechrau’r daith cyn cwblhau’r 2km gwastad olaf yn ôl i Lanymddyfri i orffen..

Uchafbwyntiau
Bryn Cilgwyn – Bryn serth a gweddol heriol yn arwain at ddisgyniad difyr
Llangadog – Pentref hanesyddol yn cynnwys nifer o siopau bychain allai fod yn lle defnyddiol i gael hoe
Cyfle am hoe
Llangadog – Siop bentref Mace
Llangadog – Swyddfa Bost a Siop y Pentref
Llanymddyfri – Ystafelloedd Te Penygawse
Llanymddyfri – Caffi’r Ganolfan Grefftau
Llanymddyfri – West End Cafe
Gwybodaeth ddefnyddiol
County Cycles – Siop feiciau, Cross Hands
Cycle-tec – Siop feiciau – Llanfair-ym-Muallt