English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Comin i Gomin

Dau lwybr ar hyd ffyrdd y wlad sy'n eich tywys heibio i rai o gynefinoedd mwyaf diddorol y gors

Dau lwybr ar dir tonnog sy'n mynd a chi drwy ddyffrynnoedd Canolbarth Sir Gaerfyrddin â llethrau serth a heibio i rai o gorsydd anhygoel y sir, cafodd un ohonynt ei ffurfio 9000 o flynyddoedd yn ôl (ar ôl yr oes iâ diwethaf). Mae'r llwybrau yn mynd â chi ar hyd lonydd cul troellog i fyny dringfeydd sydd wedi'u categoreiddio ac i lawr disgynfeydd serth, cysylltwch y ddau lwybr â'i gilydd i gael taith anodd iawn. Eich gwobr fydd rhai o olygfeydd ysblennydd Sir Gaerfyrddin; o Fannau Brycheiniog i Sir Benfro a thu hwnt.

Mae gan yr holl gorsydd fynediad agored felly cymerwch seibiant a mwynhewch y cynefinoedd naturiol gwych hyn - defnyddiwch y codau QR ar yr arwyddion ym mhob safle i ddarganfod mwy am y corsydd a’r cyfrinachau y maent wedi'u datgelu am hanes ein tirwedd. Argymhellir bod gennych deiars a breciau da ar gyfer y lonydd gwledig hyn lle rydych yn debygol o ddod ar draws cerbydau mawr ac anifeiliaid felly beiciwch yn ofalus a dilynwch reolau'r ffordd fawr.

Gellir lawlwytho ffeiliau GPX files yma neu drwy  Strava Llwybr  1, Llwybr 2, Llwybrau 1 a 2 gyda’i gilydd  ac yna dilyn y nodwyr llwybr ar gyfer bob un. 

 

Llwybr 1

Arwyddion pinc, dechrau yn Neuadd yr Eglwys ym Mrechfa, lle mae maes parcio

Trowch i'r dde allan o faes parcio neuadd yr eglwys ac i'r dde eto yn syth ar ôl ichi fynd heibio i'r Forest Arms. Ewch ar hyd y ffordd fach sydd ag arwyddion am Lanllawddog a byddwch ar y llwybr sydd wedi'i farcio. Ar ôl tair milltir, trowch i'r chwith oddi ar y ffordd hon, gan groesi afon fach. Peidiwch â mynd yn rhy gyflym i fyny'r bryn, sef dringfa egnïol Llanllawddog ar Strava (fe'i mesurwyd yn 10%). Gallwch fwynhau rhan fwy gwastad o lawer wrth ichi feicio rhwng y pedwar comin ar y llwybr hwn, cyn ymuno â'r B4310 sy'n eich arwain yn ôl i lawr y bryn i Frechfa.

 

Llwybr 2

Arwyddion du, dechrau yn Abergorlech, lleoedd parcio yn y Black Lion ac ym maes parcio'r fforest

O Abergorlech, ewch ar hyd y B4310, tuag at Frechfa, drwy Ddyffryn Cothi trawiadol. Ar ôl oddeutu 6km, trowch i'r chwith tuag at Lanfynydd, gan ddilyn afon Cothi eto. Mae'n daith drawiadol a hawdd. Cymerwch y tro cyntaf i'r chwith oddi ar y ffordd hon a bydd y dringo dwys yn dechrau – mae'r darn uwchben y pentref yn 5% yn ôl Strava. Galwch yn Llanfynydd a'r Penybont Inn, yna trowch i'r dde ar ôl yr eglwys, tuag at Abergorlech. Wrth ichi ddringo i fyny i diroedd comin Figyn a Mynydd Figyn, fe welwch ochr fwy gwyllt Sir Gaerfyrddin. Mae Figyn oddi ar ffordd ymyl a byddwch yn beicio ar hyd ochr Mynydd Figyn, lle mae golygfeydd anhygoel dros Ddyffryn Tywi tuag at Fannau Brycheiniog. Cwblhewch ddolen fach o amgylch y comin hwn cyn disgyn ar hyd ffordd serth iawn yn ôl i Abergorlech, gan wybod eich bod wedi gweld canran uchel o gefn gwlad Sir Gaerfyrddin o'ch cyfrwy. Cymerwch ofal gan fod y ddisgynfa yn hir ac yn serth iawn!

Llwybr 1 & 2

Dechrau yn Abergorlech, lleoedd parcio yn y Black Lion ac ym maes parcio'r fforest. Neu gallech ddechrau ym Mrechfa

Ewch ar hyd y B4310 o Abergorlech i'r Forest Arms ym Mrechfa a dilynwch Lwybr 1 (pinc). Ewch cyn belled â chroesffordd Horeb, lle mae'r llwybr yn ymuno â'r B4310. Yn y man hwn, croeswch y B4310 a dilynwch y saethau pinc a du i fyny'r bryn i ddechrau, gan ddisgyn wedyn i afon Cothi ym Mhontynyswen. Trowch i'r chwith ar ôl croesi'r afon dros bont fetel, ac ar ôl 1km trowch i'r dde, gan ymuno â'r llwybr du yn y man hwn. Ewch i fyny'r bryn tuag at Lanfynydd ac ewch yn eich blaen fel y nodir uchod.

Trowch i’r chwith ar ôl croesi’r afon ar y bont fetel, ac ar ôl 1km trowch i’r dde gan ymuno â’r llwybr du yn y fan hon a mynd i fyny’r bryn i gyfeiriad Llanfynydd. Dyma ddechrau'r ddringfa go iawn.

Galwch yn Llanfynydd a'r Penybont Inn, yna trowch i'r dde ar ôl yr eglwys, tuag at Abergorlech. Wrth ichi ddringo i fyny i diroedd comin Figyn a Mynydd Figyn, fe welwch ochr fwy gwyllt Sir Gaerfyrddin. Mae Figyn oddi ar ffordd ymyl a byddwch yn beicio ar hyd ochr Mynydd Figyn, lle mae golygfeydd anhygoel dros Ddyffryn Tywi tuag at Fannau Brycheiniog. Cwblhewch ddolen fach o amgylch y comin hwn cyn disgyn ar hyd ffordd serth iawn yn ôl i Abergorlech, gan wybod eich bod wedi gweld canran uchel o gefn gwlad Sir Gaerfyrddin o'ch cyfrwy. Cymerwch ofal gan fod y ddisgynfa yn hir ac yn serth iawn!

Mannau aros

 

Abergorlech - Black Lion
Brechfa - Forest Arms
Llanfynydd - Penybont

Gwybodaeth defnyddiol

Cranc Cyclesport – Siop Feiciau, Caerfyrddin
Beiciau Hobbs Bikes – Siop Feiciau, Caerfyrddin