English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Penwythnos 1

Arfordir a chestyll

Mae'r dref sirol, Caerfyrddin, yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer cyfuno dau o lwybrau ffordd harddaf Sir Gaerfyrddin. Mae'r llwybrau yn gymedrol heriol ac yn dilyn dyffrynnoedd afon tawel a llwybrau arfordirol am benwythnos o dirweddau gwyllt a gloddesta.

Drwy gyfuno dau o'n llwybrau sydd wedi'u mapio ar-lein, rydym wedi sicrhau penwythnos deniadol, gyda chyfarwyddiadau byr i'ch helpu i archwilio'r ardal, a syniadau am lefydd i aros, bwyta, yfed ac ymweld â nhw.

Hyd: Dau i dri diwrnod
Cyfanswm Pellter: 157km/97 milltir
Man cychwyn: Caerfyrddin
Lefel Anhawster: 5/10

Download 

Diwrnod 1: Taith o amgylch Cestyll Dyffryn Tywi

Pellter: 95km/59 milltir
Amcangyfrif o'r Amser: 4 i 7 awr

Mae'r daith hyfryd hon, sy'n llawn perlau hanesyddol a naturiol, yn adrodd hanes dau ddyffryn. Lleolir Wright’s Food Emporium i'r gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin ar hyd Dyffryn Tywi ym mhentref Llanarthne ac mae'n amhosibl ei anwybyddu – arhoswch am goffi o leiaf, er bydd angen ewyllys gref i adael heb lenwi basgedi gyda danteithion o'r Deli. Wrth fynd yn eich blaen ar hyd y dyffryn mae siâp nodedig Tŵr Paxton, ffoli o ddechrau'r 19eg ganrif a adeiladwyd i anrhydeddu'r Arglwydd Nelson, i'w weld yn amlwg yn erbyn yr awyr, yna gwelir waliau adfeiliedig Castell Dryslwyn sy'n dyddio o'r 13eg ganrif. Gerllaw, mae'r Gerddi Botaneg Cenedlaethol ac Aberglasne, sydd ill dwy o fewn taith fer i'r llwybr, yn uchafbwyntiau ar gyfer y sawl sy'n dwlu ar erddi. Tuag at Landeilo, mae Castell Dinefwr yn sefyll yn drawiadol uwchben dolen yn Afon Tywi.

Mae tref Llandeilo ei hun, gyda'i bwa o dai lliwgar, wedi dod yn enwog am fwyd da - mae mwy o goffi gwych a danteithion deli i'w cael yn Ginhaus, a brecwastau hwyr/cinio cynnar yn yr Hangout; os oes chwant rhywbeth melys arnoch, rhowch gynnig ar Siop Siocled Heavenly.

Ewch yn eich blaen i'r gogledd-ddwyrain, heibio i'r grib uwchben Bethlehem gyda'i bryngaer ddwbl o Oes yr Haearn sef Garn Goch y Gaer Fawr, i Lanymddyfri; yma, o dan drem adfeilion y Castell, ceir nifer o gaffis a thafarndai sy'n cynnig ymborth i feicwyr – gall y barista ardderchog yn Ystafelloedd Te Fictoraidd Penygawse hyd yn oed ysgrifennu eich enw yn yr ewyn ar eich latte.

Wrth wyro i'r gogledd ac yna i'r gorllewin o Lanymddyfri, byddwch yn llosgi rhai o'r calorïau hynny wrth ddringo allan o Ddyffryn Tywi, ac yn wobr am hynny cewch olygfeydd ysblennydd. Mae'r wlad yn mynd yn fwy coediog wrth i chi fynd i lawr i Ddyffryn Cothi, gan fynd heibio i Abergorlech a Brechfa. Mae'r ddau bentref hyn yn bwyntiau mynediad ar gyfer llwybrau beicio mynydd cyffrous yn Fforest Brechfa; mae'r Forest Arms yn dafarn glyd dros ben i fwynhau peint braf neu rywbeth mwy sylweddol.
Mae yna riw heriol arall dros y grib rhwng y dyffrynnoedd i ddychwelyd i Ddyffryn Tywi a throwch i'r dde i fynd yn ôl dros eich llwybr i Gaerfyrddin.

 

Diwrnod 2: Llwybr Arfordirol Bae Caerfyrddin

Pellter: 62km/38 milltir
Amcangyfrif o'r Amser: 2.5 i 5 awr

Er bod y llwybr yn dechrau'n swyddogol ym Mharc Gwledig Pen-bre, mae'n hawdd ymuno yng Nghwm-ffrwd, sydd 5km/3 milltir i'r de-ddwyrain o Gaerfyrddin. Mae'n dechrau fel taith hamddenol ar hyd ffyrdd gwledig, ond cyn hir byddwch chi'n wynebu rhiwiau serth a hir nes eich bod yn cyrraedd Pen y Mynydd – a byddwch chi'n ddiolchgar am y cwymp cyson tuag at Lanelli. Trowch oddi ar y llwybr i ymweld â Phlas Llanelly, y Tŷ Sioraidd gorau yng Nghymru (gyda bwyty uchel ei barch), a thretiwch eich hun i gael coffi neu fyrbryd yn St Elli’s Bay, cyn gwyro i'r dde ar hyd Bae Caerfyrddin ar lwybr gwastad Llwybr Arfordirol y Mileniwm.

Mae natur esmwyth y llwybr di-draffig hwn yn golygu eich bod chi'n gallu edrych o gwmpas a mwynhau'r golygfeydd: yr adar gwylltion yn heidio ym Mharc Dŵr y Sandy; y plac wrth ymyl y llwybr sy'n dynodi'r man lle glaniodd Amelia Earhart ar ôl hedfan dros yr Iwerydd am y tro cyntaf yn 1928; y cudyllod coch a chorhedyddion y waun yn hofran yng Ngwarchodfa Natur y Pwll Lludw. Mae Porth Tywyn yn cynnig treftadaeth ddiwydiannol a mwy o gyfleoedd i gael ymborth – mae'r cacennau yn Whitford’s, ger cofeb arall i Earhart, yn siŵr o dynnu dŵr o'ch dannedd, ac mae Siop Goffi Daisy yn union i'r gorllewin wrth y fynedfa i Barc Gwledig Pen-bre; ewch i'r parc i ddod o hyd i'r Orsaf, sy'n gweini pob math o brydau bwyd a the prynhawn i'ch temtio.
Wrth fynd tua'r mewndir, mae un o amddiffynfeydd mwyaf trawiadol de Cymru i'w gweld sef Castell Cydweli: y gaer ganoloesol enfawr a wnaeth ymddangosiad cameo yn Monty Python and the Holy Grail. Mae'r llwybr yn mynd ar hyd yr arfordir, gan ddarparu golygfeydd ysgubol ar draws aber Afon Tywi tuag at adfeilion llawn awyrgylch Castell Llansteffan gyda'i furiau o'r 12fed ganrif sy'n cwmpasu bryngaer o Oes yr Haearn. Rydych bron â chyrraedd nôl yn y dref sirol, yn barod i gynnig llwncdestun i'ch penwythnos o grwydro dyffrynnoedd, bryniau ac arfordir Sir Gaerfyrddin.

Ble i aros

Mae gan feicwyr ddigon o ddewis yn Sir Gaerfyrddin, gydag amrywiaeth o opsiynau llety addas i feicwyr ar draws y Sir, o westai a thafarndai croesawgar mewn trefi marchnad bywiog i fflatiau hunanarlwyo a bythynnod clyd, sydd i gyd â llefydd storio beiciau diogel, rhai yn cynnig cyfleusterau golchi beiciau, ystafelloedd sychu a gwybodaeth am y llwybrau lleol gorau. Chwiliwch yr ystod lawn o lety ar-lein trwy fynd i. 

 

Sut i gyrraedd yma


Mae Caerfyrddin 34km/21 milltir o ben gorllewinol yr M4 ger Abertawe. Mae gorsaf reilffordd Caerfyrddin lai na dwy awr ar drên o Gaerdydd, ac yn hygyrch o bob cwr o'r DU trwy Gasnewydd.

 

 

Beth i'w weld a'i wneud

Taith o amgylch Cestyll Dyffryn Tywi

Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol

Safle eang gyda chanolfan adar ysglyfaethus gyfareddol.

Aberglasne

Gerddi treftadaeth hyfryd sy'n amgylchynu plasty rhestredig Gradd II* 500 oed.

Dinefwr

Parc ceirw wedi'i dirlunio'n hardd a chastell adfeiliedig o amgylch Plas Dinefwr (Tŷ Newton) o'r 17eg ganrif sydd â chaffi deniadol.

 

 

Llwybr Arfordirol Bae Caerfyrddin

Plas Llanelly

Adeilad Sioraidd gorau Cymru, gydag arddangosfeydd diddorol dros ben ac ystafelloedd o'r cyfnod a bwyty uchel ei barch.

Castell Cydweli

Cadarnle canoloesol nerthol gyda thyrau a muriau mewn cyflwr da.