Traethau sy'n Croesawu Cŵn
O fis Hydref tan fis Mai, bydd arfordir Sir Gâr yn croesawu cŵn a bydd hawl ganddynt grwydro'n rhydd gan na fydd unrhyw derfynau na chyfyngiadau i'w cerddwyr.
Anodd meddwl am unman gwell i fynd â’ch ci am dro nag ar draethau euraid hyfryd Sir Gaerfyrddin. Mae ein traethau ymhlith y rhai hwyaf ym Mhrydain ac yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf (o 1 Hydref i 30 Ebrill) nid oes unrhyw waharddiadau ac mae holl hyd y traethau ar agor i gerddwyr cŵn. Hyd yn oed yn ystod misoedd yr haf mae’r rhan fwyaf o’r traethau ar agor i gerddwyr cŵn. Edrychwch am yr arwyddion!
Yn sicr mae gan Sir Gaerfyrddin ddigon o dywod i redeg trwyddo, ei dyrchu a rholio ynddo; gweler traethau Sir Gaerfyrddin i gael mwy o wybodaeth.
Cefn Sidan
Mae traeth hiraf Cymru, Cefn Sidan, yn ymestyn am wyth milltir ysblennydd ar hyd arfordir deheuol Sir Gaerfyrddin. Gan mai milltir yn unig o’r traeth sy’n barth di-gŵn rhwng dechrau mis Mai a diwedd mis Medi, mae saith milltir o draeth godidog ar agor i’w fwynhau gan gŵn a’u perchenogion hyd yn oed yn ystod misoedd yr haf. Dilynwch yr arwyddion (Llwybr y Cŵn i'r Traeth).

Parc Arfordirol y Mileniwm
Mae traeth Llanelli yn rhan o Barc Arfordirol y Mileniwm. Yn 11 filltir o hyd mae’r Parc yn croesawu cŵn ac felly hefyd y traeth hwn nad oes unrhyw gyfyngiadau arno ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae'r ardal hon, sy'n cynnwys cynifer o bethau i'w gwneud, yn lle delfrydol i dreulio amser gyda’ch ci, naill ai yn y parc neu ar y traeth. Mae'r Ganolfan Ddarganfod, sydd ger y traeth, yn cynnwys caffi a chiosg hufen iâ ac ar gais, byddant yn darparu powlen o ddŵr i’ch ci.

Llansteffan
Mae'r traeth tywodlyd euraid hwn yn ddelfrydol ar gyfer cerddwyr cŵn ac mae'r tir o amgylch y castell yn wych ar gyfer mynd â'r ci am dro.
Mae cyfyngiadau mewn grym ar draeth Llansteffan lle mae stribyn o'r traeth ar gau i gŵn ac wedi'i farcio'n glir ag arwyddion.

Pentywyn
Ceir yma saith milltir o dywod euraid gogoneddus sy’n edrych dros Benrhyn Gŵyr. Mae'r cyfyngiadau ar gŵn ar Draeth Pentywyn yn berthnasol i'r rhan rhwng y ddwy lithrfa, sy'n dal i roi digon o le chwarae i gŵn.
DS: Mae rhan o'r traeth godidog saith milltir o hyd yn cael ei defnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer tanio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 16:15 a chodir baneri coch pan fydd hyn yn digwydd. Cysylltwch â Rheolwr y Maes Tanio er mwyn cael gwybod amser tanio drwy ffonio 01994 452310 neu drwy fynd i pendine.qinetiq.com
