5 Peth i Ddiddanu'r Ci a Chi
Does dim yn well na gweld eich ci wrth ei fodd yn rhedeg yma a thraw gan wynto arogleuon newydd rif y gwlith, cyn gwrando arno'n chwyrnu'n fodlon ar ddiwedd diwrnod hwyliog ar grwydr.
Y 5 uchaf
1. Wrth i'r tymhorau newid, mae'r dirwedd yn gwneud hefyd. Mae'n anodd curo wâc hir yn yr hydref drwy Goedwig Brechfa a sŵn y sgidie glaw'n crensian drwy garped o ddail coch, oren a melyn, a hynny yng nghwmni ci sy'n cael modd i fyw. Mae'r Black Lion yn Abergorlech yn lle da i gael seibiant, gan gynnig croeso i gŵn a gardd gwrw ar lan yr afon. Beth gewch chi well?

2. Mae’r ardal wyllt a garw o amgylch Llyn y Fan, ar gyrion dwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, wedi bod yn adnabyddus ers canrifoedd.
Mae’r daith gerdded heriol 10 milltir o hyd yn mynd â chi o amgylch y llynnoedd lle gellir gweld rhai o'r golygfeydd mwyaf godidog. Diwrnod allan gwych i chi a’ch cyfaill gorau.

3. Hufen iâ arbennig ar gyfer cŵn yn 'Heavenly' Llandeilo- Beth am sbwylio eich hun a'ch ci ym mharlwr hufen iâ 'Heavenly' yn Llandeilo, sy'n cynnig hufen iâ unigryw i gŵn. Mae'r hufen iâ â sylfaen o soia, ac, er mwyn diogelu'r dannedd, does dim siwgr ychwanegol. Bydd y podiau fanila'n rhoi iddo'r cic melys y bydd eich ci'n dwlu arno. Hefyd mae'r parlwr yn cynhyrchu siocledi â llaw, pwdinau, a hufenau iâ blasus i bobl eu mwynhau. I roi cynnig ar yr hufen iâ i gŵn, a fyddech cystal â ffonio i archebu ymlaen llaw cyn galw heavenlychoc.co.uk

4.
Mae bob dydd Llun yn Ddiwrnod i'r Cŵn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Yn dilyn galw mawr, clustnodwyd penwythnosau arbennig yn y calendr ar gyfer perchenogion anifeiliaid anwes i ddod â'u cŵn gyda hwy wrth iddynt ymweld â'r Ardd. Beth am gofrestru eich ci ar gyfer Aelodaeth Cŵn i'r Ardd Fotaneg? Mae'n costio £10 ac mae pob ci yn cael cerdyn aelodaeth arbennig i'r Ardd a phecyn teithio arbennig i anifeiliaid anwes (gwerth £10). Bydd arbenigwyr anifeiliaid anwes hefyd wrth law i gynnig cymorth a chyngor. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch i www.garddfotaneg.cymru

5. Mae Rhaeadrau Cenarth wedi bod yn llecyn prydferth poblogaidd ers oes Fictoria. Mae'r afon yn enwog am eogiaid yn llamu! Arhoswch am ennyd ar y bont garreg a gwylio'r eogiaid ar eu ffordd i fyny'r afon i fwrw grawn. Beth am ymweld yn yr hydref i weld rhyfeddod byd natur, yn enwedig ar ôl glaw trwm. Mae Cenarth yn llecyn hardd a chartrefol y mae modd ymweld ag ef drwy'r flwyddyn ac mae yno dafarnau ac ystafelloedd te cyfforddus er mwyn i chi gael saib haeddiannol o'ch wâc.
