5 Llwybr i'r Ci a Chi
Boed yn deithiau cerdded ar hyd y traeth neu'n deithiau cerdded mynyddig, mae cannoedd o filltiroedd o lwybrau yn Sir Gaerfyrddin ichi eu mwynhau gyda'ch ci.
Rydym ni i gyd yn gwybod bod eich cyfaill pedwar coes yn mwynhau wâc dda. Mae Sir Gaerfyrddin yn lle delfrydol i unrhyw gerddwr, p'un a ydych yn chwilio am daith gerdded hamddenol ar hyd yr arfordir neu yng nghefn gwlad neu am daith sy'n fwy heriol ar gyrion gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae nifer o'n teithiau cerdded yn haws nag erioed ar gyfer perchenogion cŵn yn sgil gosod sticlau a gatiau sydd wedi'u hadeiladu'n bwrpasol sy'n golygu y gallwch chi fwynhau diwrnod di-drafferth yn y wlad.
Llwybr 1
Castell Carreg Cennen
Yn sefyll yn urddasol oddeutu 900 troedfedd uwchlaw Afon Cennen ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, prin y gall unrhyw gastell arall yn Ewrop honni lleoliad mwy ysblennydd na Charreg Cennen. Mae dau lwybr yma y gallwch chi eu dilyn sy’n addas i gŵn. Mae un yn arwain i’r castell ar frig y bryn lle cewch eich rhyfeddu gan y golygfeydd eang a phanoramig. Mae'r llwybr arall yn eich tywys chi o amgylch troed y bryn lle saif y castell ac ar hyd glannau tawel Afon Cennen.
DS: Byddwch yn ofalus o amgylch y defaid a’r gwartheg yn y caeau cyfagos. Dylid cadw cŵn dan reolaeth dynn neu ar dennyn.
Dilynwch yr arwyddion Coch ar gyfer y llwybr hirach a'r arwyddion Melyn ar gyfer y llwybr byrrach.

Llwybr 2
Rhodfa Glan yr Afon Dyffryn Aman
Mae rhodfa glan yr afon yn Nyffryn Aman yn baradwys i gerddwyr cŵn. Llwybr tarmac heb draffig yw hwn sy'n ymestyn o Rydaman i Frynaman sef pellter o oddeutu 14 cilometr. Mae'r llwybr yn dilyn afon Aman ar hyd y dyffryn sy'n swatio rhwng y Mynydd Du i'r gogledd a Mynydd y Betws i'r de.

Llwybr 3
Parc a Chastell Dinefwr
Ceir yma deithiau cerdded gwych i ymestyn cymalau cŵn a phobl a hynny dros dirweddau bendigedig - taith hamddenol o amgylch gwartheg gwynion y parc er mwyn cael cipolwg ar y gwartheg a’r lloi, neu daith gerdded fwy heriol i fyny at Gastell Dinefwr lle gallwch chi a’ch ci fwynhau golygfeydd o ddyffryn Tywi. Gallwch hefyd alw yn y ciosg sy'n gwerthu byrbrydau yn y maes parcio. Er mwyn sicrhau bod pawb yn mwynhau eu hamser yn y parc gofynnir i chi gadw eich ci ar dennyn a chodi ei faw. Yr unig ardaloedd na chaniateir cŵn iddynt (ac eithrio cŵn tywys) yw'r parc ceirw hynafol, y rhodfa bren a Phlas Dinefwr. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fwthyn gwyliau yn Ninefwr sef Penparc, sy'n croesawu cŵn. Trwy aros yno gall ymwelwyr gael mynediad hwylus i'r teithiau cerdded hyn sy'n croesawu cŵn. www.nationaltrust.org.uk

Llwybr 4
Fforest Brechfa
Os ydych chi'n dyheu am fwynhau'r awyr iach mewn tirwedd amrywiol, gwisgwch eich esgidiau cerdded a dewch i grwydro Fforest Brechfa. Mae'r golygfeydd, fel y dyffrynnoedd serth, yn ddramatig a chan nad oes unrhyw dda byw yma mae Fforest Brechfa, yng nghanol cefn gwlad Sir Gaerfyrddin, yn ddelfrydol ar gyfer teithiau cerdded gyda chŵn. Mae teithiau gwych sy’n addas i gŵn hefyd ar gael gerllaw yn Abergorlech.

Llwybr 5
Parc Gwledig Pen-bre
Yn un o brif atyniadau ymwelwyr yng Nghymru mae Parc Gwledig Pen-bre sy’n ffinio â thraeth wyth milltir Cefn Sidan, yn ffordd i fwynhau’r arfordir a chefn gwlad. Mae llu o weithgareddau i deuluoedd yn y parc sy'n cynnwys ardal chwarae antur, trên bach, llethr sgïo sych, rhedfa dobogan, cwrs golff pitsio a phytio a golff giamocs. Ar gyfer cŵn mae’r erwau o goedwigoedd godidog a pharcdir eang agored yn ei wneud yn lle chwarae delfrydol iddynt. Mae Parc Gwledig Pen-bre yn croesawu cŵn sy’n cael eu cadw dan reolaeth. Ceir yma nifer o finiau sbwriel ac ynghyd â'r traeth, does dim amheuaeth bod y parc yn lle arbennig i'r sawl sy'n berchen ar gŵn. Hefyd, bob mis Medi cynhelir "Diwrnod Allan i Gŵn", yn y Parc.
DS: Ni chaniateir cŵn yn llecyn Baner Las y traeth rhwng 1 Mai a 30 Medi.
