Taith Merched Prydain 2022
Ddydd Gwener 10 Mehefin bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnal cymal pump Taith Merched Prydain 2022 - sef diwrnod o rasio a fydd yn dechrau ym Mharc Gwledig Pen-bre ac yn gorffen ar ben y Mynydd Du ar ochr orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Dyma'r ail dro i Sir Gaerfyrddin gynnal y ras hon ac rydym yn gobeithio sicrhau ei fod yn brofiad bythgofiadwy i bawb. Yn flaenorol cynhaliwyd Grand Départ Taith Dynion Prydain ym Mharc Gwledig Pen-bre ac yno hefyd y gorffennodd Taith y Merched yn 2019 a phrawf amser i dimau Taith Prydain yn 2021.
Eleni, cymal Sir Gaerfyrddin fydd yr anoddaf o'r ras gyfan a'r unig gymal sy'n gorffen ar ben mynydd yn 2022, felly dyma'ch cyfle i weld beicwyr gorau'r byd yn brwydro yn erbyn ei gilydd ar y ddringfa saith cilometr i fyny'r mynydd. Neu beth am ymuno â ni yn y man cychwyn ym Mharc Gwledig Pen-bre lle gallwch gwrdd â'r beicwyr cyn iddynt ddechrau'r cymal 105km (65 milltir) a fydd yn mynd drwy Bont-iets, Pontyberem, Llanymddyfri a Llangadog yn ystod y dydd. Disgwylir i 97 o feicwyr gymryd rhan yn y ras a fydd yn cael ei darlledu ar ITV4.
Mae Taith y Merched yn gadael ddydd Llun, 6 Mehefin ac yn cyd-fynd â diwrnod olaf penwythnos Gŵyl y Banc pedwar diwrnod o hyd yn y DU i ddathlu Jiwbilî Platinwm Brenhines Elizabeth yr II. Bydd y ras yn dod i ben gyda chymal terfynol mawreddog chwe diwrnod yn ddiweddarach ar ddydd Sadwrn, 11 Mehefin.
Mae modd gweld yr amserlen lawn ar gyfer Cymal Pump ar wefan Taith Merched Prydain, ynghyd â manylion am y cymal, gwybodaeth am feicwyr a thimau, gwybodaeth i wylwyr a lletygarwch.
Gwybodaeth i Wylwyr
I'r rhai sy'n bwriadu gwylio'r ras ar hyd llwybr y daith yn Sir Gaerfyrddin, cofiwch gyrraedd y mannau hyn o leiaf awr cyn i'r ffordd gau a pheidiwch â pharcio ar y briffordd. Sicrhewch eich bod yn cadw pellter addas oddi wrth y beicwyr. Byddant yn teithio ar gyflymder o tua 40mya mewn rhai ardaloedd.
Mae'r ras yn dechrau am 11am ym Mharc Gwledig Pen-bre. Mae angen i bob cerbyd fod y tu mewn i'r parc cyn 10.30am. Mae llawer o leoedd parcio ym Mharc Gwledig Pen-bre; gofynnir i chi ddilyn yr arwyddion parcio ar gyfer y digwyddiad. Sylwer, ni fydd mynediad i'r parc ar ôl 10.30am tra bydd y ras yn dechrau. Bydd pobl yn gallu gwylio dechrau'r ras drwy ymgynnull yn y Cae Saethyddiaeth. Gallwch wylio'r beicwyr yn gwneud lap o'r gylchffordd gaeedig, yn mynd heibio i Yr Orsaf a gwneud un lap o'r parc cyn gadael y gylchffordd gaeedig.
Rydym yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bynnag y bo modd.
Ar hyd y llwybr:
Mae croeso i bobl wylio'r ras ar hyd y llwybr, ond cymerwch ofal ychwanegol gan y bydd y ras yn teithio ar gyflymder uchel.
Bydd y beicwyr sy'n cystadlu am y teitl yn mynd drwy (amseroedd bras) Pinged (11.06), Carwe (11.16), Pontyberem (11.42), Horeb (12.15), Llansawel (12.42), Siloh (13.05), Llangadog (13.27).
Bydd y timau'n cyrraedd diwedd y ras ar y Mynydd Du o tua 13.45 ymlaen, a disgwylir i bob beiciwr orffen erbyn tua 2.30pm. Bydd y ffordd ar gau'n llwyr rhwng 5am a 5pm.
Mae'r amserlen lawn ar gyfer Cymal Pump i'w gweld ar wefan Taith Prydain.



Parchu Diogelu Mwynhau
Dyma gyfle anhygoel lle y bydd beicwyr gorau'r byd yn cystadlu yn Sir Gaerfyrddin. Mae angen i CHI ddod â'r bwrlwm, y gefnogaeth a'r croeso y mae Sir Gaerfyrddin yn enwog amdanynt. Mwynhewch y ras, ond cofiwch ystyried y gymuned leol.
• peidiwch â rhwystro gatiau, tramwyfeydd neu ffyrdd.
• peidiwch â sbwriela, gan adael yr ardal mor lân ag yr oedd ar y cychwyn.
• am eich gilydd, gofalwch am ein cymunedau, a gofalwch am ein tiroedd prydferth.
• ag anghofio cynllunio a byddwch yn barod.

• eich ci ar dennyn. Mae hyn mor bwysig, yn enwedig yn agos at y ras. Mae damweiniau wedi bod yn y gorffennol lle y mae cŵn wedi dianc ac wedi mynd ar lwybr y ras.
• luniau ond gwnewch hynny'n ofalus a pheidiwch â rhwystro'r beicwyr. Byddwch yn arbennig o ofalus wrth ddefnyddio ffon hun-lun.
• defnyddio dronau yn llwyr yn ystod yr holl Bencampwriaeth.
• ymylon ffyrdd yn gartref i rywogaethau o flodau gwyllt a bywyd gwyllt a warchodir. Dylech osgoi parcio arnynt, neu'n agos atynt, lle y gallech achosi difrod.
• yn wyliadwrus ac os nad yw rhywbeth yn edrych yn iawn, siaradwch â stiward neu'r Heddlu a fydd yn cymryd camau priodol.
Rhannu eich lluniau

Dilynwch Daith Merched Prydain yn Sir Gaerfyrddin ar Facebook, Twitter ac Instagram.
Rhannwch eich lluniau a'ch profiadau gan ddefnyddio #beiciosirgar #carmscycling.
Meysydd Parcio

Mae llawer o leoedd parcio ym Mharc Gwledig Pen-bre. Gofynnir i chi ddilyn yr arwyddion parcio ar gyfer y digwyddiad. Sylwch y bydd angen i chi barcio cyn 10:30am ac na fyddwch yn gallu gadael tan 11.30am. Mae'n hanfodol eich bod yn archebu lle felly archebwch eich lle cyn cyrraedd.
Cliciwch yma i ddod o hyd i'r maes parcio agosaf ar hyd y llwybr. Cliciwch yma i gael gwybodaeth am unrhyw dâl a gaiff ei godi.
Cau ffyrdd

Bydd rhannau o'r ffyrdd ar gau rhwng 10.45am a 13.50pm wrth i'r ras fynd yn ei blaen ar hyd y llwybr 65 milltir.
Bydd y ffordd ar gau'n llwyr rhwng 5am a 5pm ar y Mynydd Du. Bydd trefniadau rheoli traffig ar waith, ond fe'ch cynghorir i gyrraedd yn gynnar a hynny ar droed neu ar feic os yw'n bosibl.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffyrdd, cliciwch yma
Gwasanaethau Bysiau
Bydd y ffyrdd sydd angen eu cau yn eu tro yn effeithio ar rai llwybrau bysiau. Bydd hyn yn effeithio ar deithiau'r gwasanaethau isod.
B1 - Ni fydd gwasanaeth cylchol Porth Tywyn (gadael am 10:20) yn gwasanaethu Waun Sidan am 10:38. Dylai teithwyr ddefnyddio safle bws Trenel yn lle hynny.
X11 - Bydd y gwasanaeth o Abertawe (gadael am 9:45) i Gaerfyrddin yn dod i ben ym Mhorth Tywyn am 10:55
NI FYDD y gwasanaeth o Gaerfyrddin (gadael am 11:45) i Borth Tywyn yn weithredol
Bydd y gwasanaeth o Gaerfyrddin (gadael am 10:45) i Abertawe yn weithredol – dylai teithwyr ddisgwyl oedi ym Mhen-bre oherwydd y ffyrdd a fydd yn cael eu cau, gallai hyn effeithio ar amserau'r gwasanaeth am weddill y diwrnod
195 - Bydd y gwasanaeth o Gaerfyrddin (gadael am 11:15) i Lanelli yn weithredol – dylai teithwyr ddisgwyl oedi ar hyd y llwybr oherwydd y ffyrdd a fydd yn cael eu cau, gallai hyn effeithio ar amserau'r gwasanaeth am weddill y diwrnod
281 - Bydd y gwasanaeth o Gaerfyrddin (gadael am 12:20) i Lanymddyfri yn weithredol, ond NI FYDD yn gwasanaethu Llangadog am 13:22. Man codi/gollwng agosaf - Square & Compass
Make a weekend of it
Gwnewch benwythnos ohoni
Ni allai cyrraedd Sir Gâr fod yn haws. Mae gennym gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol i mewn i'r sir, boed yn well gennych deithio yma ar fws, trên neu gar. Mae yma lety sy'n addas ar gyfer pob chwaeth a chyllideb - o dai gwledig i wersylla!

Mae digonedd o leoedd aros i chi ddewis ohonynt yn Sir Gaerfyrddin. Plastai penigamp yn y wlad, tai cwbl gyfoes yn y trefi, darpariaeth gwely a brecwast â chryn steil, gwestai bach moethus a mannau gwersylla hamddenol.

Cynhelir llu o ddigwyddiadau beicio drwy gydol y flwyddyn, cofiwch edrych ar ein tudalen Beth sy' Mlaen.

P'un a ydych am archwilio llwybr Taith Merched Prydain, reidio llwybr beicio mynydd cyffrous neu fynd am daith feicio i'r teulu, mae yna lwybr beicio i bawb yn Sir Gaerfyrddin.
Dolenni defnyddiol
- Taith Merched Prydain
- Y Dudalen Newyddion
- Parc Gwledig Pen-bre
- Sut i gyrraedd
- Llefydd i Aros
- Be sy' Mlaen
- Ffyrdd ar gau
Dilynwch Daith Merched Prydain yn Sir Gaerfyrddin ar Facebook, Twitter ac Instagram. Rhannwch eich lluniau a'ch profiadau gan ddefnyddio #beiciosirgar #carmscycling.