English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Y tonnau ewynnog yn chwalu i'r lan. Arogl hallt yr awel. Sŵn rhythmig y llanw. Y tywod rhwng bodiau eich traed. Er bod pobl yn anghytuno am nifer o bethau y dyddiau hyn, mae'n siŵr fod un peth y gallwn fod yn gytûn yn ei gylch, sef bod mynd i'r traeth yn gwneud inni deimlo'n dda. Roedd ein hynafiaid Celtaidd yn credu mai dyma lle roedd dimensiynau'r môr, y tir a'r awyr yn cwrdd, a bod gan y lle briodweddau iachusol a glanweithiol arbennig.

Beth bynnag fo'ch rheswm dros fynd i'r traeth, bydd gan Sir Gaerfyrddin un addas ar gyfer yr achlysur fwy na thebyg. Ydych chi am dreulio penwythnos yn gwneud chwaraeon dŵr gyda'ch ffrindiau? Ewch i Draeth Pentywyn. Ydych chi am gael amser ar eich pen eich hun i glirio'r meddwl? Rhowch gynnig ar draeth Morfa Bychan. Ydych chi am ddangos i'ch plentyn bach y grefft o greu'r castell tywod perffaith? Ewch i Lansteffan. Ydych chi am gael diwrnod i'r teulu heb sgrin? Ewch i Gefn Sidan, ac yna i Barc Gwledig Pen-bre.

Mae tirweddau arfordirol amrywiol Sir Gaerfyrddin yn rhoi nodweddion unigryw i'n traethau. Mae creigiau trawiadol yn nodweddiadol o draethau fel Trwyn Telpyn, yr aber afon a'i anheddiad yw nodwedd bwysig Glanyfferi, a'r system o dwyni tywod yng Nghefn Sidan. Mae pob tirwedd yn cynnal ei ecosystem ei hun, felly byddwch yn gweld llawer o rywogaethau prin o blanhigion a ffawna, gan gynnwys rhai sy'n unigryw i'r ardal. Byddwch hefyd yn gweld digon o dystiolaeth o'r modd y mae pobl wedi rhyngweithio â'r arfordir trwy hanes. 

Dyma ddetholiad o rai o'n hoff draethau, yn dibynnu ar yr achlysur a'r hwyl. 

Bae Scott

Cyfleusterau

Yn llechu y tu ôl i'r pentir yn Llansteffan y mae Bae Scott, sef cildraeth delfrydol i gael picnic rhamantus.

Nid oes mynediad uniongyrchol iddo – mae modd ei gyrraedd naill ai trwy gerdded o draeth Llansteffan yn ystod llanw isel neu drwy fynd dros y pentir ar ran o Lwybr Arfordir Cymru. Mae hyn yn golygu eich bod yn eithaf tebygol o gael y traeth cyfan i chi eich hun.

Yn ystod llanw isel datgelir darn enfawr o draethlin y gallwch gerdded ar ei hyd, gwerthfawrogi'r golygfeydd dros Aber Afon Taf ac efallai hyd yn oed ddatgan eich cariad yn y tywod.

Ewch yn ôl i'r pentref trwy Riw'r Castell i archwilio adfeilion ysblennydd Castell Llansteffan o'r 12fed ganrif – os nad yw eich cariad eisoes wedi'i syfrdanu, bydd y golygfeydd o'r fan honno'n sicr o blesio! 

Cefn Sidan

Dyma un o'r eangderau gorau o draeth yng ngorllewin Cymru, ac mae twyni a thraeth Cefn Sidan (Pen-bre) yn ymestyn am 8 milltir o Borth Tywyn i Drwyn y Tywyn, ger Cydweli. Mae'r traeth euraidd wedi ennill mwy o wobrau mawreddog y Faner Las am lendid a diogelwch nag unrhyw draeth arall yng Nghymru. Ar ddiwrnod clir gallwch weld draw dros Fae Caerfyrddin i'r gorllewin i Ynys Bŷr, draw i Ynys Wair, ac yna i'r dwyrain i Benrhyn Gŵyr. 

Dyma un o hoff fannau torheulwyr ac archwilwyr, ac mae'r ardal dywodlyd a gwastad yn addas ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys nofio, caiacio a physgota, sy'n digwydd mewn ardaloedd â pharthau (ac sy'n cael eu patrolio gan achubwyr bywyd yn yr haf). Hefyd cynhelir cystadlaethau adeiladu cestyll tywod ar y traeth ynghyd â digwyddiadau rasio mewn bygi barcud a bad hwylio ar dywod. Un peth na fyddwch yn ei wneud yma yw ymladd am wagle – mae mwy na digon o le i neilltuo ardal ar gyfer gemau teuluol a dod o hyd i'r llecyn perffaith am bicnic yn y twyni. 

Ond mae'r tywod meddal yn cuddio gorffennol tywyll ac mae grym y gwynt a'r llanw yn ei ddatgelu'n araf. Ym mhen gogleddol y traeth, mae gweddillion llawer o longau yn ymwthio i'r wyneb yn ystod llanw isel – rhai sydd naill ai wedi dod i ddiwedd anffodus ar fanciau tywod peryglus Môr Hafren neu rai a gafodd eu hudo i'r glannau gan gangiau o ysbeilwyr er mwyn dwyn eu cargo. Byddai angen ichi gerdded tua 10 milltir i'w gweld nhw i gyd. Credir bod tua 300 o longddrylliadau yn yr ardal, felly nid yw'n syndod bod y tywod weithiau'n datgelu rhagor o ysbail. Mae'r ddau angor sydd i'w gweld ger y brif fynedfa i'r traeth yn gofeb i hanes morwrol Cefn Sidan. 

Cyfleusterau

Glanyfferi

Cyfleusterau

Tua 10 milltir i'r de o Gaerfyrddin, wrth aber Afon Tywi, roedd Glanyfferi yn hanesyddol yn bentref pysgota a oedd yn brif gyrchfan y diwydiant hel cocos ym Mae Caerfyrddin. Fel y mae'r enw'n ei awgrymu, roedd hefyd yn groesfan ganoloesol, a oedd yn cysylltu Cydweli â Llansteffan. Yn 2018, roedd Glansteffan, y gwasanaeth fferi newydd, wedi adfer y groesfan 1,000 mlwydd oed ar ôl bwlch o 70 mlynedd. 

Er bod y rhan fwyaf o'r diwydiant wedi dod i ben yng Nglanyfferi, mae rhai pobl yn dal i hel cocos a physgota gan ddefnyddio rhwydi 'sân' traddodiadol. Mae'r cyfuniad o draethau llydan, bas a digonedd o fwyd y môr ym Mae Caerfyrddin yn gyfle delfrydol i chwilota am eich cinio eich hun. Gair o rybudd yma: pan fyddwch yn mynd i chwilota, ewch gydag arbenigwr lleol bob amser. Bydd yr arbenigwr yn deall natur y llanw a'r cerrynt lleol ac yn gwybod beth sy'n ddiogel i'w fwyta a beth nad yw'n ddiogel i'w fwyta. 

Ewch i grwydro ar hyd traethlin Glanyfferi gyda'ch tywysydd a byddwch yn dysgu sut i ddod o hyd i fwyd fel cocos, cregyn cylchog, wystrys a llysiau'r môr, gan gynnwys llyrlys. Pan fydd y llanw'n isel iawn, efallai y byddwch yn dod o hyd i gorgimychiaid, crancod a hyd yn oed cimwch. Os aiff popeth yn hwylus, byddwch yn cael coginio eich cinio organig diwastraff eich hun, ar garreg Solfach wedi’i saernïo â llaw, a'i fwyta ymhlith yr egin-dwyni ar y traeth.

Llanelli

Am nifer o flynyddoedd roedd y traeth yn Llanelli yn lle a oedd yn hysbys i'r bobl leol yn unig, ond mae creu Parc Arfordirol y Mileniwm bellach wedi'i wneud yn lle poblogaidd hefyd ymysg ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd.

Yng nghanol y parc, mae'r traeth yn ymestyn am tua milltir ar hyd glan yr aber. Mae modd i fygis a chadeiriau olwyn gael mynediad hwylus o'r promenâd gan ddefnyddio ramp.

Mae bistro, brasserie a gelateria St Elli's Bay ar ymyl y traeth ac mae'n lle gwych i gael coffi neu hufen iâ a mwynhau'r golygfeydd dros Benrhyn Gŵyr. Mae hefyd yn darparu mynediad i gadeiriau olwyn.

Cyfleusterau

Llansteffan

Cyfleusterau

Mae pentref prydferth Llansteffan yn swatio rhwng glannau Aber Tywi a bryniau tonnog Sir Gaerfyrddin. Saif castell Normanaidd o'r 12fed ganrif ar y bryn, a oedd yn rheoli hen groesfan bwysig yr afon. Daeth y gwasanaeth fferi olaf rhwng Llansteffan a Glanyfferi i ben yn y 1940au, ond yn 2018, roedd gwasanaeth fferi newydd Glansteffan wedi adfer y groesfan 1,000 oed.

Daeth yn gyrchfan wyliau ffasiynol yng nghanol y 19eg ganrif, pan ddechreuodd pobl gyfoethog o'r dref o Oes Fictoria gyrraedd ar Reilffordd y Great Western a oedd newydd agor. Ar ddechrau'r 20fed ganrif, byddai glowyr o gymoedd de Cymru yn mynd i'r gorllewin gyda'u teuluoedd ar gyfer 'Pythefnos y Glowyr', sef wythnos olaf mis Gorffennaf ac wythnos gyntaf mis Awst yn draddodiadol. Y dyddiau hyn, Llansteffan yw'r pentref glan môr delfrydol i'r rheiny sydd am gael diwrnod hwyliog gwych ar lan y môr. 

Mae gan y traeth dywod euraidd, sy'n feddal i eistedd arno ond sy'n ddigon cadarn i adeiladu cestyll tywod gwerth chweil. Ar gyrion deheuol y traeth ger y pentir, mae pyllau glan môr i'w harchwilio sy'n llawn bywyd môr. Mae The Beach Shop yn ddefnyddiol dros ben ar gyfer mynd yn ôl ac ymlaen i gael diodydd oer, lolipops a hufen iâ – gallwch hyd yn oed gael te hufen. Ond y lle mwyaf poblogaidd yn Llansteffan, o bosib, yw Florries, sef y caban pysgod a sglodion ar ymyl y traeth. Ar ôl diwrnod ar lan y môr, allwn ni ddim meddwl am ddim byd gwell na phenfras mewn cytew ffres a sglodion gyda halen a finegr, allwch chi?

Morfa Bychan

Rhwng pentiroedd Trwyn Gilman i'r dwyrain a Thrwyn Ragwen i'r gorllewin mae Morfa Bychan, sef traeth bach cysgodol a thywodlyd. Y tu cefn i'r traeth hwn y mae marian, sy'n frith o gerrig mân, a rhai pyllau glan môr i'w harchwilio. Bu Lluoedd y Cynghreiriaid yn ymarfer ar y traeth hwn wrth baratoi ar gyfer glanio yn Normandi yn 1944 – gallwch weld olion yr atgynhyrchiad o'r Wal Iwerydd o hyd. 

O'r man hwn mae golygfeydd o Fae Caerfyrddin tuag at Ddinbych-y-pysgod a Phenrhyn Gŵyr, ond gan fod y traeth ar hyd rhan mwy anghysbell o arfordir Sir Gaerfyrddin mae'n bosibl, os ewch i'r llecyn hyfryd hwn, na fydd neb arall ar gyfyl y lle. Mae'r mynediad o'r ffordd ar hyd trac garw a nifer fach o leoedd parcio sydd yno, felly byddai'n gallach ichi gerdded oddeutu milltir o Bentywyn, naill ai trwy gerdded ar hyd y lan yn pan fydd y llanw'n isel, neu drwy ddilyn Llwybr Arfordir Cymru dros y pentir. 

Cyfleusterau

Parc Arfordirol y Mileniwm

Cyfleusterau

Ganrif yn ôl, tun, glo a chopr oedd yn cyrraedd y rhan hon o Sir Gaerfyrddin. Y dyddiau hyn, ymwelwyr sy'n dod yma, a hynny yn eu miloedd. Mae Parc Arfordirol y Mileniwm yn ymestyn am 13 milltir ochr yn ochr ag Aber Afon Llwchwr, gan gynnig golygfeydd godidog o Benrhyn Gŵyr. Mae'r parc yn brosiect arloesol, a ariennir gan Gomisiwn y Mileniwm, i drawsnewid tua 1,000 hectar o dir gwastraff diwydiannol yn barcdir gwyrdd – gan ddychwelyd yr arfordir i'r bobl. 

Un o brif nodweddion y parc yw Llwybr Arfordirol y Mileniwm, sef llwybr cerdded a beicio, gwastad yn bennaf, sy'n hawdd ei gyrraedd a heb draffig, sy'n mynd ar hyd y parc. Mae'r llwybr hwn yn ffurfio rhan o lwybr beicio Llwybr Arfordir Cymru a'r Llwybr Celtaidd ac mae wedi'i ddisgrifio fel 'un o'r rhannau gorau o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol’. Hefyd mae nifer o atyniadau i ymwelwyr ar hyd y ffordd, gan gynnwys Canolfan Gwlyptir Llanelli, y Ganolfan Ddarganfod, Doc y Gogledd a Pharc Dŵr y Sandy.

Mae sawl traeth euraidd yn y parc.

Pentywyn

Mae ymwelwyr yn dod i bentref Pentywyn oherwydd ei draeth gogoneddus 7 milltir o hyd. Ar y pen gorllewinol mae pyllau glan môr, ynghyd â chlogwyni trawiadol a llwybrau deniadol sy'n rhan o Lwybr Arfordir Cymru. I gyfeiriad y dwyrain mae traeth gwastad, euraidd, lle bu ymdrechion i dorri record cyflymder y byd dros dir dros y ganrif ddiwethaf, ac ar y penwythnosau mae pobl fentrus yn dal i chwilio am gyffro. 

Mae cychod hwylio tir yn cynnig y cyffro o deithio ar gyflymder o dros 30km yr awr ychydig fodfeddi uwchben y tywod. Neu gallwch fynd i'r dŵr ar gaiac môr neu fwrdd padlo sefyll. Mae Morfa Bay Adventure yn cynnig pob un o'r 3 gweithgaredd hyn, ynghyd â nifer o rai eraill ar y safle yn y ganolfan yn y pentref. Chad 'n' Olly's Beach Hut, sydd wedi'i leoli yn y ganolfan fasnachol glan môr, yw'r lle i logi padlfyrddau, byrddau syrffio, corff-fyrddau, siwtiau gwlyb a chymhorthion arnofio. 

Os ydych yn hoffi marchnerth sy'n cynnwys pedair coes yn hytrach nag olwynion, ewch i Ganolfan Farchogaeth Marros lle mae'r rhai profiadol yn cael cyfle i farchogaeth ceffyl ar y tywod a chael taith fywiog ar hyd ewyn y don. 

Y Weinyddiaeth Amddiffyn sy'n berchen ar ben dwyreiniol y traeth, felly efallai y bydd y darn hwn wedi'i gau yn ystod yr wythnos ac ar y penwythnos yn achlysurol.

Cyfleusterau

Porth Tywyn

Cyfleusterau

Mae Porth Tywyn yn nodedig am ei oleudy, sydd wedi'i leoli ar yr harbwr ers 1842, ac mae ymhlith yr ychydig bethau sy’n ein hatgoffa bod hwn yn ddoc allforio glo pwysig yn y gorffennol. Mae mynd am dro ar hyd yr harbwr hefyd yn ddymunol.

Yn dechnegol, mae dau draeth yma gan fod eangderau o dywod ar y naill ochr i'r harbwr.

Caniateir cŵn arnynt drwy'r flwyddyn, ac felly maent yn boblogaidd iawn gyda'r bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Unwaith y bydd chwant bwyd ar y bobl a bydd y rhai blewog wedi defnyddio'u holl egni, bydd Harbour Light Tea Room ar yr harbwr, ynghyd â Chaffi Lolfa a The Pemberton Arms yn y dref yn rhoi croeso cynnes ichi. 

Trwyn Telpyn

Mae Trwyn Telpyn a'i draeth yn nodi ffin y sir rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae'n draeth tywodlyd helaeth rhwng y clogwyni tywodfaen trawiadol a'r marian.

Mae'r platfform o greigiau llyfn, a dorrwyd gan y tonnau, yn lle gwych i dorheulo (cofiwch ddefnyddio eli haul yn gyfrifol), ond oherwydd ei fod yn gymharol anghysbell, nid yw'r lle byth yn orlawn.

Yn ystod llanw isel, gallwch gerdded o gwmpas y trwyn i'r dwyrain i draeth Marros neu i'r gorllewin i Amroth yn Sir Benfro.

Cyfleusterau

Gweler Ameer yn datgelu rhai o berlau arfordirol Sir Gaerfyrddin.