English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Gwychder y Gwanwyn

Wrth i'r diwrnodau ymestyn a'r haul dywynnu ychydig yn dwymach, mae'n fwrlwm i gyd yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n amser dilyn yr haul a theithio tua'r gorllewin. Mae byd natur yn dod yn fyw. P'un ai y byddwch yn dewis crwydro'r mynyddoedd neu'r arfordir, mae digonedd o ddewis yma i ddeffro'ch synhwyrau.​

Ffres, pêr a bywiog. Dyma'r geiriau sy'n aml yn gysylltiedig â'r gwanwyn ac maent yn ddisgrifiad da o Sir Gaerfyrddin yr adeg hon o'r flwyddyn.  Mae'r gwanwyn yn gyfnod o ailddeffro ac adnewyddu. Ac nid oes unman gwell i orffwys ac adfywio na'n sir hardd, llawn natur ar ddiwedd yr M4.

Ydy, mae'n amser chwilio am yr haul cynnes a mynd tua'r gorllewin. Mae'r gwynt ysgafn o'r Iwerydd yn golygu bod y gwanwyn yn cyrraedd ychydig yn gynt yn y gorllewin na llawer o lefydd eraill yn y DU. Mae'r gwyntoedd yn dod â chynhwysion bywyd newydd, cynhesrwydd a dŵr, sy'n sbarduno tymor newydd bywiog a hyfryd.

Adnewyddwch eich corff ar ôl gaeafgysgu. Llenwch eich ysgyfaint ag awyr iach yn ystod taith gerdded haeddiannol yn y gwanwyn. Mae ein coetiroedd hynafol yn garpedi gwyn a glas wrth i'r garlleg gwyllt a chlychau'r gog ymddangos a chystadlu am sylw ymwelwyr sy'n cerdded ac yn mwynhau bywiogrwydd y gwanwyn.  I fwynhau golygfeydd godidog y sir, mae digonedd o fynyddoedd i'w dringo. Mae Bannau Sir Gâr ar ymyl dwyreiniol Bannau Brycheiniog ac yng ngogledd y sir, saif mynyddoedd Cambria yn gefnlen gref i'r machlud. 

​I'r de, mae'r dirwedd yn llai serth ac mae'r gwanwyn yn amser gwych i gerdded neu feicio ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm. Nid yw'n syndod taw yn y gwanwyn mae'n gerddi'n llawn lliwiau llachar. Beth am brofi'r arlwy arbennig o gynnyrch lleol, ffres sydd gan ein bwytai, tafarndai a'n marchnadoedd i'w cynnig yn nhymor y gwanwyn? Cewch chi ddim eich siomi.