Llanymddyfri a Bannau Brycheiniog

Yn lleol, y Mynydd Du yw’r enw ar yr ucheldir bryniog uwchlaw Llanymddyfri, Llandeilo a Dyffryn Tywi. Mae naws unigryw yn perthyn i’r gopa fygythiol hon sy'n unig a thymhestlog, yn wyllt a chyffrous.

Darganfod Llanymddyfri a Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw un o destunau balchder mwyaf Sir Gâr. Mae llawer o'r farn mai pen gorllewinol y Bannau, sydd o fewn Sir Gâr, yw'r gwir drysor, ac mae'n gartref i lawer o'r rhannau o'r parc cenedlaethol sydd wedi'u harchwilio lleiaf.  Yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod y Mynydd Du yn rhan o Geoparc Fforest Fawr, sef yr unig safle yng Nghymru i'w restru ymhlith y safleoedd daearegol mwyaf eithriadol yn Ewrop. 

Mae Llanymddyfri yn dref farchnad bert a thawel dyddiau hyn ond ar un adeg, arferai 30,000 o anifeiliaid basio drwy'r dref bob blwyddyn ar eu ffordd i farchnadoedd pell. Rhoddwyd llawer o gyfoeth yng ngofal y porthmyn, eu cynorthwywyr a'u cŵn. Adeilad crand Pen y Brenin yw'r man lle agorodd Banc yr Eidion Du am y tro cyntaf yn 1799 er mwyn i'r porthmyn wneud addunedau yn hytrach na throsglwyddo sofrenni aur. Roedd porthmyn yn ffigurau allweddol yng nghefn gwlad Cymru cyn i'r rheilffyrdd gynnig dull newydd o gludo anifeiliaid. Yn Llanymddyfri, ceir cerflun ysblennydd i anrhydeddu'r porthmyn, gwesty bach o'r enw The Drovers (Y Porthmyn) a bwyty ymyl y ffordd o'r enw Drover's Diner.

Mae'r daith gerdded fer i fyny i Gastell Llanymddyfri yng nghanol y dref yn werth yr ymdrech er mwyn gweld y golygfeydd gwych gan basio heibio i'r cerflun dur enfawr o Lywelyn ap Gruffydd Fychan sydd yn edrych dros y maes parcio. Gwyddwn i Lywelyn ap Gruffydd Fychan gefnogi Owain Glyndŵr, sef dewis y bobl i fod yn Dywysog Cymru.

Peidiwch â'i fethu

2922

Y Barcud Coch

Mae stori'r aderyn gwych hwn a oedd bron â diflannu yn un eithaf arbennig. Ychydig cyn y mileniwm, roedd llai na 30 pâr magu o'r barcudiaid hyn sydd ag arlliw o goch nodedig a chynffon daen fforchog drawiadol. Bellach, amcangyfrifir bod mwy na 500 o barau magu yno. Mae cyfle i chi brofi golygfa odidog yng Nghanolfan Bwydo Barcudiaid Coch ym mhentref hynod Llanddeusant.

2923

Llyn Brianne

Heddiw mae Llanymddyfri yn ganolbwynt ar gyfer cerddwyr, beicwyr, naturiaethwyr a haneswyr ac mae'r rheswm dros boblogrwydd y dref yn amlwg wrth ymweld â gwarchodfeydd natur megis Gwenffrwd - gwarchodfa natur Dinas (RSPB), llyn rhewlifol hudol Llyn y Fan Fach sydd gerllaw a chronfa ddŵr Llyn Brianne sef yr uchaf ym Mhrydain sy'n 229 troedfedd (91m) o uchder - argae craidd clai mwyaf y byd.

2924

Rheilffordd Calon Cymru 

Mae Rheilffordd Calon Cymru yn rhedeg 120 milltir o Abertawe i'r Amwythig drwy rai o olygfeydd mwyaf trawiadol Cymru.  Mae'r rheilffordd yn teithio drwy ochr ddwyreiniol y sir drwy Rydaman, Llandybïe, Llandeilo, Llangadog, Llanwrda, Llanymddyfri, Cynghordy ac ymlaen i sir Powys.

2921

Mwyngloddiau Aur Dolau Cothi

Beth am gamu'n ôl mewn amser yn y mwyngloddiau aur Rhufeinig hynaf yn y Deyrnas Unedig. Gall y Rhufeiniaid honni i fod y twristiaid cyntaf i'r rhan hon o'r byd.  Heddiw, mae mwyngloddiau aur Dolaucothi yn atyniad Ymddiriedolaeth Genedlaethol gwych lle gall ymwelwyr fynd ar daith ddifyr dan ddaear neu hyd yn oed gloddio am aur!

Llanymddyfri a Bannau Brycheiniog

Gweld pethau i’w gwneud yma