Ty'r Castell

Canolfan Croeso

 

Hefyd mae Tŷ'r Castell yn gartref i'r Ganolfan Groeso, sy'n gwasanaethu tref Caerfyrddin a'r sir gyfan. Mae yno wybodaeth helaeth am ardaloedd gwledig ac atyniadau'r sir, ac rydym yn cynnig gwasanaeth lle rhoddir gwybodaeth am ddim ynghyd â chyngor arbenigol am sut mae manteisio i'r eithaf ar eich ymweliad â'r ardal.

Os bydd angen llety arnoch byddwn yn falch o gael eich helpu i ddod o hyd i rywle addas ar gyfer eich anghenion, a hynny nid yn unig yng Nghaerfyrddin ond yn genedlaethol.

Teithiau Cerdded

Tŷ'r Castell yw'r man cychwyn ar gyfer Teithiau Tref am ddim, sy'n digwydd ar ddydd Mercher yn ystod misoedd yr haf - os yw'r tywydd yn ffafriol hynny yw.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu lle ar gyfer grwpiau, ffoniwch 01267 231557.

 

 

Yr Oriau Agor

Dydd Llun tan ddydd Sadwrn 10.00am – 4.00pm

Tŷ'r Castell, Castell Caerfyrddin, Rhiw'r Castell, Caerfyrddin, SA31 1AD

Mae llefydd parcio ar gael ar benwythosau neu fel arall y maes parcio agosaf yn ystod yr wythnos yw Maes Parcio San Pedr, SA31 1LN.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

+44 (0)1267 231557

carmarthentic@sirgar.gov.uk
www.darganfodsirgar.com

Ty'r Castell

Cyn 1860 nid oedd celloedd yng Nghaerfyrddin o fewn cyrraedd hwylus i'r carchar a'r llys. Safai hen ysbyty rhwng muriau consentrig y castell, ac roedd hwn yn lleoliad delfrydol ar gyfer y celloedd. 

Cafodd y gwaith o addasu'r hen ysbyty ei gwblhau erbyn tua 1860, ac felly bu hwn yn is-orsaf Heddlu’r Fwrdeistref (a sefydlwyd yn 1843) ac i'r Heddlu Sirol (a sefydlwyd yn 1836).

Y rheswm dros wneud hyn oedd osgoi cludo carcharorion drwy'r dref brysur wrth fynd â

nhw i'r carchar ac i'r llys, oherwydd arferai'r celloedd fod yn y 'Roundhouse' yn Heol Ioan (lle mae M&S heddiw) a oedd sawl canllath o'r llys.

Dengys cofnodion o'r cyfnod i'r celloedd gael eu defnyddio hefyd i gadw carcharorion wrth eu symud o le i le. Ar ôl i'r ddau Heddlu uno yn 1947 ac i'r carchar gau, rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r celloedd.

Gelwir y man hwnnw'n Dŷ'r Castell bellach, ac o bosibl yr hen gelloedd hyn yw'r unig rai o'u math yng Nghymru i oroesi.

Yr Hen Garchar

Gellir olrhain bodolaeth carchar yng Nghaerfyrddin hyd at 1532, a datblygodd y carchar i fod yn agwedd bwysig ar fywyd y dref yng Nghaerfyrddin. Addaswyd y Castell yn 1789 i fod yn Garchar Sirol newydd wedi'i ddylunio gan John Nash, a chafodd ei helaethu yn 1869. Fe'i dymchwelwyd yn 1936. 

Roedd y carchar cyntaf wedi'i gyfyngu i'r Beili mewnol ac roedd yn cynnwys 8 cell, ystafell ddydd, ac iard ymarfer.

Codwyd fersiwn John Nash yn y ddeunawfed ganrif wedi i John Howard ymyrryd gyda golwg ar wella'r amodau i garcharorion Caerfyrddin. Gwnaed hyn drwy ddymchwel dau garchar Caerfyrddin ac adeiladu un newydd yn eu lle i wasanaethu'r Fwrdeistref a'r Sir.

Trosedd a Chosb

Yn y ddeunawfed ganrif gellid defnyddio'r gosb eithaf (dienyddio) fel cosb ar gyfer mwy na 200 o droseddau. Erbyn 1832 roedd y nifer hwn wedi gostwng i 120 o droseddau. Ar ôl 1861 cyfyngwyd y gosb eithaf i'r troseddau canlynol: llofruddiaeth, brad, môr-ladrata treisgar a llosgi bwriadol ar longau, yn arfdai, neu yn iard longau'r frenhiniaeth.

Bryd hynny roedd dienyddio'n ddigwyddiad cyhoeddus. Y lleoliad ar gyfer dienyddiadau sirol oedd Rhiw'r Babell, Pen-sarn (safle Capel y Babell bellach), sydd ryw filltir i'r de o'r dref. Ar y comin (Royal Oak) yn Nhre Ioan y cynhelid yr holl ddienyddiadau trefol.

Yn 1817 y digwyddodd y crogi cyhoeddus diwethaf yno. Ar ôl hynny aethpwyd ati i chwilio am safle mwy diogel a chodwyd crocbren cyhoeddus y tu mewn i wal flaen carchar y sir, yn wynebu Heol Spilman. Cynhaliwyd crogi cyhoeddus am y tro olaf yng Ngharchar Caerfyrddin yn 1829, ac yn 1894 y bu'r crogi diwethaf mewn man nad oedd yn gyhoeddus.

Roedd y gosb am droseddau eraill yn dal yn llym. Roedd y felin draed yng Nghaerfyrddin yn ne-orllewin y dref, uwchben Ffordd y Cwrwg a Heol Fach y Bont, a byddai'r troseddwyr yn gorfod pwmpio dŵr o'r ffynnon i'r tanciau yn y to. Cosb arall oedd y 'Cranc', a oedd yn hollol ddidostur a thorcalonnus. Roedd y Cranc yn rhan o'r gell ac yn cynnwys bocs mawr wedi'i ffitio i'r wal neu i'r llawr ac wedi'i lenwi â thywod a graean. Ymestynnai dolen fawr o ochr y bocs ac roedd padl y tu mewn iddo. Rhaid oedd gwthio'r padl drwy'r tywod a  byddai'n rhaid i'r carcharorion wneud hynny rhwng 10,000 a 12,000 o weithiau'r dydd.

"Hen" Dref Caerfyrddin

Cydnabyddir mai Caerfyrddin yw'r "dref hynaf yng Nghymru y mae pobl wedi bod yn byw'n barhaus ynddi". Mae ei hanes yn dyddio'n ôl ymhellach na dyfodiad y Rhufeiniaid, a gododd 'Moridunum' yn yr ail ganrif ar safle hen fryngaer. 

Codwyd wal o amgylch y dref newydd hon, a Chaerfyrddin oedd cadarnle mwyaf gorllewinol yr Ymerodraeth Rufeinig ym Mhrydain.

Mae'r rhan fwyaf o'r bensaernïaeth Rufeinig wedi hen ddiflannu, ond mae modd gweld enghreifftiau da o hyd o gynllun stryd ac amffitheatr Rufeinig yn chwarter de-ddwyreiniol y dref, ynghyd ag adeiladau diddorol eraill ar hyd a lled iddi.