English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Traeth Pentywyn

 

Lleoliad picnic 

Mae sawl man picnic ar hyd y traeth hwn sy'n bum milltir o hyd. Gallwch fynd am ychydig fetrau hyd at un o'r meinciau ar lan y môr neu gallwch roi blanced ar y tywod. Dylai'r rhai sydd â mwy o egni fynd tua'r gorllewin i archwilio pyllau glan môr neu ddringo clogwyni dramatig ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Mae'r golygfeydd o'r fan hon ar draws Bae Caerfyrddin yn wych ond os ydych yn dymuno bwyta eich picnic yma, dewch â blanced gan nad oes yma feinciau! Mae Traeth Pentywyn yn gartref i osod recordiau cyflymder y byd ar dir, ac mae'n berffaith ar gyfer hedfan barcud a chasglu cregyn. Ar adegau penodol y flwyddyn, gallwch hyd yn oed yrru ar hyd y traeth fel y rhai a fu'n torri'r recordiau yno yn y gorffennol!

Cyngor am bicnic: Edrychwch i weld pryd y gallwch yrru ar y traeth a llwythwch y car ar gyfer y profiad gorau o giniawa ar y traeth.

Sut i gyrraedd: Mae maes parcio ar lan y môr ym Mhentywyn.

Taith gerdded a awgrymir: Pentywyn

 

Deli gerllaw ar gyfer picnic:

 

The Ferryman Deli 

Mae'r Deli hwn yng nghanol tref Talacharn, lle mae'r fwydlen ar y bwrdd du yn newid yn barhaus, yn nefoedd i fwydgarwyr. Yno, gweinir coffi masnach de gan farista arbennig, platiaid o gawsiau o Gymru, cacennau cartref a phot o de, heb anghofio peis a thartenni lleol. Mae'r Ferryman Deli ar stryd fawr tref hanesyddol Talacharn, yn agos at y castell a chartref Dylan Thomas ac yn fan delfrydol i brofi hyfrydwch Talacharn.

The Ferryman Deli, Talacharn