English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Cefn Sidan

 

Lleoliad picnic

Traeth Cefn Sidan yw un o'r hiraf yng Nghymru, bron i wyth milltir o hyd, ac mae'n edrych dros Benrhyn Gŵyr sy'n ymddangos fel cawr yn y môr ar adegau, gan dwyllo'ch llygaid. Wrth edrych tua'r bryniau teg a'r twyni tywod ym Mhen Pyrod mae machlud yr haul yma yn y gaeaf yn hudol o artistig, ac yn parhau am filltiroedd dros dywod sidan a rhubanau o ewyn. Caewch eich llygaid a gwrando ar daran y môr sydd i'w chlywed o hyd yn y man diamser hwn. Mae'r twyni tywod hyn yn gysgodfa berffaith am bicnic. Does unman well i hedfan barcud, rhedeg y ci neu chwilota glan môr â'r plant. Neu beth am orffwys yn y tywod i fwynhau'r tawelwch a'r lleoliad yng nghwmni fflasg o de, rhôl selsig a phicen ar y maen o'r picnic.

Cyngor am bicnic: Dewch â llawer o flancedi i'ch cadw'n glyd a'ch binocwlars. Ar adegau, gallwch edrych ar draws wyth milltir o dywod, o Ynys Bŷr hyd at Ynys Wair o amgylch Penrhyn Gŵyr. Mae'r tywod fel byrddau gwledda i bob math o adar y môr ac adar gwyllt yma, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf wrth iddynt fwydo ar bysgod cregyn ar y traeth er mwyn casglu egni yn barod i fudo unwaith eto o amgylch y byd.

Sut i gyrraedd: Mae Parc Gwledig Pen-bre gerllaw ffordd arfordirol yr A484 Llanelli i Gaerfyrddin ger Porth Tywyn, dilynwch yr arwyddion i'r parc gwledig.

Taith gerdded a awgrymir: Pem-bre

 

Deli gerllaw ar gyfer picnic:


Mae Pantri Lolfa yn canolbwyntio ar Gynnyrch Deli Cymreig Lleol. Mae brechdanau Deli a Bagels yn cael eu paratoi'n ffres bob dydd (gan gynnwys Pastrami, Ham Rhost Mêl, Chorizo ac opsiynau Fegan fel Bresych Chilli a Halen, Bara Lawr a Berwr y Gerddi, Courgette wedi'i grilio, Sbigoglys a Mayonnaise Basil) a'r cyfan oll ar Fara Organig gan Little Valley Bakery, ac mae pob brechdan yn cynnwys salad y busnes (sef cyfuniad o Cous Cous, Salsa, Colslo a phicls melys y busnes).
Gellir ychwanegu ffefrynnau Deli eraill fel Cocos wedi'u Piclo, Wyau, Olifau, Waffls Taffi a Chreision ynghyd ag amrywiaeth o ddiodydd pefriog, Te Iâ neu Goffi. Ac wrth gwrs mae Coffi ar gael, ac mae'r Pantri yn falch o werthu coffi gan Bay Coffee Roasters sydd wedi ennill gwobrau. O ran rhywbeth Melys, mae Cacennau gan y pobyddion lleol Tir a Môr, Pasteiod gan Little Valley Bakery, Toesenni Fegan gan Nonnas a Hufen Iâ gan Mary's Farmhouse.

Pantri Lolfa, Pembre