English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Bae Scott yn Llansteffan

 

Lleoliad picnic  


Ar ôl taith gerdded fer am oddeutu hanner milltir o amgylch y pentir o brif draeth Llansteffan, gallwch ddod o hyd i'r ogof gudd hon, sy'n lleoliad perffaith ar gyfer picnic rhamantus, gan ei fod yn ddiarffordd ac mae castell uwchben y traeth. Pan mae'r llanw'n isel gallwch gerdded ar draws y traeth a phan mae'r llanw'n uchel gallwch ddringo uwch ei ben. Mae'n bosibl iawn y gallech fod ar y traeth tywodlyd hwn ar eich pennau eich hunain felly mae'n werth cario eich picnic ychydig yn bellach. Neu os ydych eisiau'r profiad llawn o fod ar lan y môr, yn ôl ger y maes parcio mae siop sglodion Florries, sy'n gweini bwyd o gaban ac mae'n siŵr o dwymo eich esgyrn! Yn ogystal, yn y gaeaf cewch gasglu hyd at 8kg o gocos er pleser fesul person fesul dydd yma!

Cyngor am bicnic: Ewch am ginio hwyr gan fod machlud yr haul dros y tywod yn hudol yma a chystal ag unrhyw le arall yn y byd.

Sut i gyrraedd: Gallwch barcio eich car am ddim yn y Green sydd ar lan y môr yn Llansteffan...ychydig o gamau yn unig i ffwrdd o'ch picnic ym mharadwys.

Taith gerdded a awgrymir: Llansteffan 

 

 


Blasus Delicatessen


Bydd Basged Gaeaf Blasus yn cynnwys dewis o roliau selsig chorizo, baguettes, tarten ffrwythau frangipane, y cyfan yn cael eu paratoi yn y deli bob dydd yn ogystal â bar o siocled Nom Nom a hyd yn oed ychydig o dryfflau artisan efallai. Maen nhw'n barod i lenwi fflasgiau â choffi twym neu siocled poeth hefyd, a gallant bacio popeth mewn bocs i chi. Mae'r prisiau'n amrywio, yn dibynnu ar y dewis o gynnwys.