Wythnos 6

Mae llawer o'r farn mai pen gorllewinol y Bannau, sydd o fewn Sir Gâr, yw'r gwir drysor, ac mae'n gartref i lawer o'r rhannau o'r parc cenedlaethol sydd wedi'u harchwilio lleiaf.

Wythnos 6

Diwrnod 1 AM: Gerddi Aberglasne

Mae Gerddi Aberglasne bellach yn un o'r gerddi sy'n cael y sylw mwyaf yn y DU. Gan lechu ar lethr yng ngogoniant Dyffryn Tywi, mae'r plasty a'r gerddi wedi eu hadfer i'w hen ysblander ar ôl mynd rhwng y cŵn a'r brain ers blynyddoedd.

Diwrnod 1 PM: Plas Dinefwr, Parc a Chastell Dinefwr

Plas Dinefwr yw canolbwynt Parc a Chastell Dinefwr, sef ystad ysblennydd sy'n ymestyn dros 800 erw ac sy'n un o'r safleoedd hanesyddol a diwylliannol pwysicaf yng Nghymru. I orffen, ewch am dro o amgylch y Warchodfa Natur Genedlaethol a'r Castell, sydd mewn cyflwr da.

Diwrnod 2 Drwy'r dydd: Llandeilo

Dyma dref yng nghanol cestyll ac ynddi mae amryw o siopau hen bethau, masnachwyr annibynnol ac orielau celf. Mae Llandeilo gyda'i strydoedd cul a'i hadeiladau hanesyddol hardd wedi cadw ei naws hynafol. Mae tai Sioraidd yn eu lliwiau pastel yn ymestyn ar hyd pont enfawr y dref. Ni allwch fynd i Landeilo heb ymweld â Heavenly, lle mae hufen iâ, siocledi a melysion godidog!

 

Diwrnod 3 AM: Taith gerdded i Lyn y Fan Fach

Cronlyn yw Llyn y Fan Fach ar ffin orllewinol y Mynydd Du, yn rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac fe'i disgrifir yn aml yn un o'r golygfeydd mwyaf hudol a thrawiadol yng Nghymru. Mae chwedl yn gysylltiedig â Llyn y Fan Fach, sef ‘Morwyn y Llyn’.

Diwrnod 3 PM: Canolfan Bwydo Barcudiaid Coch

Mae stori'r aderyn gwych hwn a oedd bron â diflannu yn un eithaf arbennig. Mae cyfle i chi brofi golygfa odidog yng Nghanolfan Bwydo Barcudiaid Coch ym mhentref hynod Llanddeusant.

Diwrnod 4 AM: Mwyngloddiau Aur Dolau Cothi

Beth am gamu'n ôl mewn amser yn y mwyngloddiau aur Rhufeinig hynaf yn y Deyrnas Unedig. Gall y Rhufeiniaid honni mai nhw oedd y twristiaid cyntaf i ymweld â'r rhan hon o'r byd. Heddiw, mae Mwyngloddiau Aur Dolau Cothi yn atyniad Ymddiriedolaeth Genedlaethol gwych, lle gall ymwelwyr fynd ar daith ddifyr dan ddaear neu hyd yn oed gloddio am aur!

Diwrnod 4 PM: Tref a Chastell Llanymddyfri

Mae Llanymddyfri yn dref farchnad bert a thawel dyddiau hyn, ond meddyliwch am y 30,000 o anifeiliaid a arferai basio drwy'r dref bob blwyddyn ar eu ffordd i farchnadoedd pell. Edrychwch i'r bryniau o'ch amgylch ac mae hi bron yn sicr y gwelwch chi olygfa odidog o acrobat yr awyr sef y Barcud Coch.

Diwrnod 5 Drwy'r dydd: Rheilffordd Calon Cymru

Mae Rheilffordd Calon Cymru yn rhedeg am 120 o filltiroedd o Abertawe i'r Amwythig drwy rai o olygfeydd mwyaf prydferth Cymru. Mae'r rheilffordd yn mynd ar hyd ochr ddwyreiniol y sir drwy Rydaman, Llandybïe, Llandeilo, Llangadog, Llanwrda, Llanymddyfri, Cynghordy ac ymlaen i Bowys.

Diwrnod 6 AM: Beicio ym Mrechfa

Rhowch gynnig ar y Gigfran, Gorlech a Derwen - nid creaduriaid chwedlonol ond yr enwau a roddwyd ar lwybrau beicio mynydd cyffrous Coedwig Brechfa.

Diwrnod 6 PM: Crochendy Gwili

Mae crochendy Gwili wedi bod yn creu crochenwaith domestig am dros 35 mlynedd. O fygiau a phlatiau i jygiau, fasys a gwaelod lampau, mae pob darn yn unigryw. Mae popeth yn cael ei lunio a'i baentio â llaw yn y gweithdy a'r oriel groesawgar.

Diwrnod 7 Drwy'r dydd: Cronfa Ddŵr Llyn Brianne a Gwarchodfa Natur Gwenffrwd-Dinas (RSPB)

Heddiw, mae Llanymddyfri yn ganolbwynt ar gyfer cerddwyr, beicwyr, naturiaethwyr a haneswyr. Mae'r rheswm dros boblogrwydd y dref yn amlwg wrth ymweld â gwarchodfeydd natur megis gwarchodfa natur Gwenffrwd-Dinas (RSPB) a chronfa ddŵr Llyn Brianne, sef yr uchaf ym Mhrydain, sy'n 229 troedfedd (91m) o uchder - argae craidd clai mwyaf y byd.