Traethau, Cildraethau a Morliniau

Traethau

Yma yn Sir Gaerfyrddin, gallwn ymfalchïo yn ein milltiroedd a milltiroedd o arfordir dilychwin sy'n gartref i draethau tywodlyd hir, dyfroedd clir fel crisial a phentiroedd anhygoel, sef lleoedd delfrydol i fwynhau'r awyr iach ger y môr.

Nid ardaloedd gwledig gleision yn unig mo Sir Gaerfyrddin; mae gennym rai o'r traethau euraidd mwyaf godidog yn Ewrop.

Cafwyd digonedd o ymdrechion anturus ar draethau Sir Gaerfyrddin dros y blynyddoedd - gan gynnwys torri record cyflymder y byd dros dir sawl gwaith ar Draeth Pentywyn ac Amelia Earhart, y fenyw gyntaf i hedfan ar draws yr Iwerydd, yn glanio ym Mhorth Tywyn. Dewch i gael eich antur eich hunain ar arfordir Sir Gaerfyrddin. Gallwch ddewis o blith profiadau gwefreiddiol, teithiau cerdded ar hyd yr arfordir prydferth a hwyl draddodiadol ar lan y môr!

Cefn Sidan

Mae'r traeth godidog hwn, sef y traeth hiraf yng Nghymru sy'n ymestyn am 8 milltir, wedi ennill nifer o wobrau ac mae'n boblogaidd iawn ymhlith y rheiny sydd eisiau bolaheulo, nofio, cerdded ac archwilio. Nid Benidorm mohono. Gan fod cymaint o le, gallwch farcio eich llecyn eich hunain ar gyfer gemau teuluol, a chael picnic yn y twyni tywod rhyfeddol sy'n edrych dros Benrhyn Gŵyr hardd. Cadwch lygad am slefrod môr wrth y marc penllanw a chofiwch nad yw pob rhywogaeth yn pigo. Mae'r un fwyaf cyffredin, sef y slefren gylchog, yn dal plancton yn ei mwcws wrth fynd drwy'r dŵr. Os yw'n ddiwrnod gwyntog, ewch tua'r tir am dro i Barc Gwledig a choedwig Pen-bre , lle mae dewis o fannau chwarae antur awyr agored, safleoedd barbeciw, rheilffordd ager, canolfan sgïo, tobogan, cyfleusterau llogi beiciau a cheffylau, pitsio a phytio, yn ogystal â pharcdir ar gyfer gemau a phicnic. 

Cyfleusterau

  • Toiledau
  • Caffi
  • Parcio
  • Canolfan Ymwelwyr
  • Hygyrchedd
  • Y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
  • Llwybr Arfordir Cymru

Pentywyn

Dyma draeth ac iddo ddwy ran, sydd wedi ennill gwobrau. I gyfeiriad y gorllewin mae clogwyni trawiadol â llwybrau ar hyd eu hymylon ynghyd â llawer o byllau glan môr, sy'n cysylltu â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro (cafodd yr ardal hon ei defnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd i ymarfer ar gyfer glaniadau 'D-Day'!). Am 7 milltir i gyfeiriad y dwyrain y mae traeth tywodlyd godidog, lle bu ymdrechion hanesyddol i dorri record cyflymder y byd dros dir  aYm mhen draw'r traeth hwn mae gwelyau cocos enfawr y mae pobl yn casglu ohonynt drwy'r flwyddyn, a dengys hyn pa mor bur yw dyfroedd Bae Caerfyrddin. Mae'r traeth helaeth yn ddelfrydol ar gyfer hedfan barcutiaid a chasglu cregyn i'ch atgoffa o'ch ymweliad.

Cyfleusterau

  • Parcio
  • Toiledau
  • Caffi
  • Llwybr Arfordir Cymru
  • Hygyrchedd

Glanyfferi

Wrth geg afon Tywi mae Glanyfferi, ac er ei fod yn lle digon tawel mae ganddo ei orsaf reilffordd ei hun (ar y llinell o Lundain i Abergwaun) ac mae'n gartref i Glwb Cychod Hwylio Afon Tywi. Nid yw twristiaid yn heidio i'r llecyn hwn, felly mae'n fan hamddenol sydd â golygfeydd godidog o gastell Llansteffan a'r aber. Roedd y traeth tywodlyd a chul hwn, sydd ag egin-dwyni, yn ganolbwynt diwydiant casglu cocos Bae Caerfyrddin ar un adeg, ac mae'n lle dymunol i'r sawl sydd am gamu oddi ar y trên a throedio'r arfordir. Gan fod Glanyfferi ar Lwybr Arfordir Cymru, mae hefyd yn fan delfrydol i gael hoe fach ar hanner eich taith. Trowch oddi ar yr A484 tuag at Lanyfferi, ac mae'r fynedfa i'r traeth ar draws y groesfan reilffordd.

Cyfleusterau

  • Parcio
  • Hygyrchedd
  • Llwybr Arfordir Cymru
  • Rheilffordd

Llansteffan

Saith milltir i'r de o Gaerfyrddin, mae gan y traeth mawr a thawel hwn, sydd â golygfeydd ar draws Afon Tywi tuag at Lanyfferi, dywod meddal hyfryd i eistedd arno a thywod caled ar gyfer adeiladu cestyll tywod. Mae'r traeth yn llawn cregyn cocos ac mae'r pyllau glan môr yn fyw wrth ichi fentro tuag at Fae Scott. Pwynt gwerthu unigryw: y pysgod a'r sglodion hyfryd sydd ar gael o "gaban" bach ger y traeth. Yn edrych dros y traeth y mae un arall o gestyll enwog Cymru, sef cadarnle a adeiladwyd gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif (Castell Llansteffan) sy'n enwog am ei borthdy enfawr. Roedd y pentref yn gyrchfan wyliau boblogaidd gan bobl y trefi yn y cyfnod Fictoraidd ac Edwardaidd.

Cyfleusterau

  • Toiledau
  • Caffi
  • Parcio
  • Hygyrchedd
  • Llwybr Arfordir Cymru

Bae Scott

Dyma'r trysor pennaf i'r sawl sy'n chwilio am draethau cudd gan fod Bae Scott yn draeth tywodlyd diarffordd sy'n llechu y tu cefn i bentir ger Llansteffan. Cyrhaeddir y man drwy ddilyn Llwybr Arfordir Cymru o draeth Llansteffan gan fynd drwy goetir sy'n gyforiog o flodau gwylltion. Er nad yw'n draeth i nofwyr, mae Bae Scott yn fan delfrydol i fwynhau picnic bach rhamantus neu i'r teulu gael chwarae gan fod yma ehangder o dywod pan fo'r môr ar drai. Ar ben hynny, gan fod y llecyn mor ddiarffordd, mae'n eithaf posibl taw dim ond chi fydd yno, gan olygu y gallwch ymlacio a mwynhau'r golygfeydd godidog o aber afon Taf heb i neb arall darfu ar hedd y bae.

Cyfleusterau

  • Toiledau
  • Caffi
  • Parcio
  • Hygyrchedd
  • Llwybr Arfordir Cymru

Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli

Mewn cyfnod o ychydig dros 10 mlynedd mae rhan o'r arfordir (22 cilometr o hyd) ar hyd aber afon Llwchwr wedi cael ei thrawsnewid i greu amrywiaeth unigryw o atyniadau i dwristiaid, cynefinoedd bywyd gwyllt, a chyfleusterau hamdden. Mae gan y Parc Arfordirol sawl traeth euraidd yn cynnwys Machynys, traeth Llanelli, a thraethau Porth Tywyn (lle mae dau draeth - un bob ochr i'r harbwr!). Mae marina mwyaf newydd Cymru, sydd â lle i 450 o gychod, yn rhan o'r Parc yn ogystal. Mae Marina Porth Tywyn yn cynnig cyfuniad perffaith o gyfleusterau hamdden i berchnogion cychod.

Cyfleusterau

  • Caffi
  • Toiledau
  • Hygyrchedd
  • Parcio
  • Y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
  • Llwybr Arfordir Cymru

Morfa Bychan

Traethell euraidd sy'n llechu rhwng dau bentir i'r gorllewin o Bentywyn yw Morfa Bychan. Y tu cefn i'r draethell y mae marian, sy'n frith o gerrig mân ac sy'n ffinio ar gwm coediog. O'r man hwn mae golygfeydd gwych o Fae Caerfyrddin tuag at Benrhyn Gŵyr a gogledd Gwlad yr Haf, ond gan fod y draethell ar hyd rhan eithaf anghysbell o arfordir Sir Gaerfyrddin mae'n bosibl, os ewch i'r llecyn hyfryd hwn, na fydd neb arall ar gyfyl y lle. Os yw eich bryd ar nofio yn nyfroedd oer yr hydref, mae'n ddiogel ichi wneud hynny ar benllanw. Pan fo'r môr ar drai gellir gweld gweddillion fforest betraidd hynafol a helaeth yn y tywod. Yn ogystal mae olion patrwm caeau canoloesol yn y cyffiniau. Mae mynediad o draeth Pentywyn, drwy ddilyn y llwybr arfordirol dros y pentir. Mae mynediad i gerbydau o'r brif ffordd rhwng Pentywyn a Marros. Cymerwch y troad cyntaf i'r chwith ar ôl y Green Bridge Inn, ar y ffordd allan o Bentywyn.

Trwyn Telpyn

I'r gorllewin o Drwyn Telpyn, ger Amroth, y mae Traeth Telpyn, sy'n draeth tywodlyd helaeth rhwng y clogwyni arfordirol trawiadol a'r marian. Gŵyr y cyfarwydd fod yma lecyn da i nofio a bolaheulo. Mae craig fawr lyfn yn gwahanu Telpyn a Thraeth Marros gan ffurfio llwyfan gwastad sy'n ddelfrydol i'r sawl sy'n hoffi bolaheulo yn haul yr hydref. Mae'r dyfroedd i'r dim i'r nofwyr hynny sy'n mentro i'r môr yn hin yr hydref, ac mae croeso i gŵn ar y traeth drwy gydol y flwyddyn, sy'n golygu bod Traeth Telpyn yn llecyn da i fynd â Pero am dro. Mae mynediad o'r ffordd rhwng Amroth a Phentywyn (arwydd - ‘Traeth Telpyn’).

Traethau'r Parc Arfordirol

2917
Traeth Porth Tywyn

Mae'r traeth newydd sbon yn Harbwr Porth Tywyn yn atyniad mawr i syrffwyr barcud a chanŵyr môr. Mae darn o'r arfordir i'r dwyrain o'r fynedfa i'r harbwr, a oedd yn fflatiau llaid agored ar un adeg, wedi'i orchuddio â thywod euraidd dwfn mewn dim ond tair blynedd.

2918
Traeth Llanelli

Am flynyddoedd lawer roedd y traeth yn gyfrinach fawr gan mai dim ond pobl oedd yn byw yn yr ardal oedd yn gwybod amdano, ond yn sgil creu Parc Arfordirol y Mileniwm, mae bellach yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr o bell ac agos. Mae Traeth Llanelli yng nghanol y parc ac mae'n ymestyn am ryw filltir ar hyd glan ogleddol aber afon Llwchwr. Mae'r Ganolfan Ddarganfod a'r promenâd glan môr trawiadol yn edrych dros y traeth.