O Gawl i Gawl Sir Gâr
Mae cawl yn bryd sy'n nodweddiadol o fwyd a lletygarwch Cymru. Dewch i ddarganfod y cawl gwych sydd ar gael ledled y Sir.
O Gawl i Gawl Ledled Sir Gâr
Mae dyffrynnoedd ffrwythlon a thoreithiog ac afonydd chwim Sir Gaerfyrddin wedi golygu bod y rhanbarth yn darparu amrywiaeth eang o gynnyrch lleol gwych sy'n dod o'r tir; ac o ganlyniad, mae prydau blasus traddodiadol wedi cael eu gweini ledled y rhanbarth ers canrifoedd. Un o'r seigiau mwyaf adnabyddus hyn yw cawl, sef stiw sy'n eich twymo yn y gaeaf ac sy'n dal yn un o'r ffefrynnau ar fwydlenni ledled y sir.
Mae cawl, sy'n draddodiadol yn cynnwys cig dafad/oen o'r Mynydd Du, ac sy'n llawn dop o lysiau llesol gan gynnwys gwreiddlysiau, cennin Cymreig a garlleg gwyllt, yn un o ffefrynnau’r sir ymysg bwydgarwyr; ac mae gan bob rysáit ei chynhwysyn cyfrinachol ei hun neu 'wedd newydd' ar hen ffefryn. O'r delis dethol yn nhref farchnad Llandeilo i'r tafarndai to gwellt sy'n dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif, mae llefydd ar draws y sir yn cynnig eu fersiwn eu hunain o'r saig sylweddol sy'n nodweddiadol o seigiau Sir Gaerfyrddin. Er mwyn helpu ymwelwyr i ganfod y cawl campus sy'n cael ei gynnig ledled y sir, mae llwybr 'O Gawl i Gawl' wedi'i lansio: mae'n hoelio sylw ar y llefydd gorau lle gellir gwledda ar y stiw blasus.
Y Sied
Rhodfa Santes Catrin, Caerfyrddin & Yr Egin, Ffordd y Coleg Caerfyrddin
Mae Cawl y Sied yn boblogaidd iawn yn ystod misoedd y gaeaf, a gallwch fwynhau blas melys eu cawl ham yn y gwanwyn hefyd. Wedi'i wneud gyda gwreiddlysiau cawl traddodiadol a pharsli cartref (o ardd yr ysgol goginio), mae'n berffaith ar gyfer dathlu Dydd Gŵyl Dewi mewn caffi sy'n dathlu dreftadaeth Cymru.Nid yw'r rysáit yn gyfrinach, gallwch ddod o hyd iddo yn un o lyfrau coginio Lisa: Blas / Taste, ac mae'n flasus iawn gyda thafell drwchus o fara a darn go fawr o gaws cheddar Cymreig.
Caban
Caban, Marsh Road, Traeth Pentywyn, SA33 4NY
Mae'r Caban ar lan y môr ym Mhentywyn yn edrych dros ei draeth tywodlyd gwych sy'n 7 milltir o hyd. Y Caban yw'r lle perffaith i ymlacio a dadflino, a'r lleoliad perffaith i fwynhau powlen gynnes o gawl ar ôl mynd am dro ar hyd yr arfordir neu ar y traeth.
Mae cawl y Caban wedi'i wneud â chig eidion Cymreig Celtic Pride, a'r hyn sy'n ei wneud mor unigryw yw nid yn unig y ffaith bod y cynhwysion Cymreig yn siarad drostynt eu hunain ond eu bod wedi'u coginio'n araf i adael i'r blasau fwydo'n llawn. Caiff ei weini gyda chaws Cheddar Cymreig blasus a menyn Shirgar. Ond mae cawl y Caban yn arbennig oherwydd gallwch fwynhau eich cawl blasus gyda golygfa hyfryd ar lan y môr.
Carreg Cennen Castle
Trapp, Llandeilo. SA19 6UA
Ar ôl goresgyn y gwynt sy'n chwythu ar dop yr amddiffynfeydd yng Nghastell Carreg Cennen, does dim yn well na basnaid o gawl i dwymo. Credwch neu beidio, does dim cig yn y cawl a weinir yma ond mae'n bryd sydd wedi bod yn boblogaidd ers dros 30 o flynyddoedd a hynny yn bennaf yn sgil y ffacbys coch sy'n cael eu mudferwi'n araf i berffeithrwydd ac sy'n ychwanegu'r melyster perffaith i lwyth o lysiau talpiog. Gweinir y cawl gyda thafell drwchus o fara a darn go fawr o gaws cheddar Cymreig.
carregcennencastle.com 01558822291
The Plough Rhosmaen
Rhosmaen. SA19 6NP
Y Plough yw un o'r tafarndai hynaf yn Llandeilo ac mae'n dyddio'n ôl mor bell ag 1858 pan oedd yn un o'r 23 o dafarndai yn y dref oedd â 290 o dai yn unig. Ers hynny, mae'r Plough wedi tyfu mewn maint a statws ac erbyn heddiw, mae'n westy bwtîc 4 seren. Fodd bynnag, maent yn gweini cawl traddodiadol sy'n cynnwys cig oen a llysiau lleol ffres gyda chaws o Gymru a bara crystiog.
ploughrhosmaen.com 01558 823431
Bragdy a Thafarn To Gwellt y White Hart
Llanddarog, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA32 8NT
Mae tafarn y White Hart, sydd ym mhentref Llanddarog, yn un o dafarndai to gwellt hynaf Cymru, ac yma ceir awyrgylch braf, cartrefol ac mae'r tu mewn yn draddodiadol; gan gynnwys trawstiau derw traddodiadol a thân coed cartrefol. Mae'r dafarn hyd yn oed yn bragu ei chwrw a'i seidr ei hun ar y safle, a bydd distyllfa newydd yn agor yno'n hwyrach eleni, a fydd yn ddistyllfa grefft fwyaf Cymru. Mae cawl ar gael yn y White Hart drwy gydol misoedd y gaeaf ac mae'r dafarn yn gofalu bod rhywfaint o'i chwrw unigryw ei hun yn cael ei roi ynddo gyda'r cynhwysion traddodiadol sef cig oen Cymreig, llysiau a haidd perlog. Gyda'r cawl cynhesol, ceir bara pob twym a chaws Cymreig.
www.coles.wales 01267 275395
Wright’s Food Emporium
Golden Grove Arms, Llanarthne. SA32 8JU.
Oddi ar ddiwedd y 18fed ganrif, mae'r dafarn goets draddodiadol hon wedi paratoi lluniaeth a bwyd lleol, traddodiadol. Â'r dafarn bellach yn gartref i Wright's Food Emporium, mae'r caffi gwahanol, steil bistro hwn yn paratoi llu o gynnyrch lleol a seigiau cartref, ffres, sydd ychydig bach yn wahanol; mae'r pwyslais ar nwyddau lleol gan grefftwyr bwyd, a hanfodion blasus y deli. Mae eu cawl yn sicr yn un o hoff brydau eu cwsmeriaid ac mae'r cawl yn cynnwys cig coesgyn mochyn, cig ysgwydd oen a digonedd o lysiau. Gyda'r cawl rhoddir caws llaeth amrwd Gorwydd Caerphilly, a bara graneri cartref.
wrightsfood.co.uk 01558 668929
Gwesty Boars Head
120 Heol Awst, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 3AE
Mae gwesty Boars Head, sy'n dyddio'n ôl i ddechrau'r 17eg ganrif, yn hen dafarn goets sydd â chyfoeth o hanes. Mae'r hen dafarn goets, sydd yng nghanol tref farchnad ffyniannus Caerfyrddin, yn cynnig awyrgylch cartrefol a chroesawgar i'w gwesteion - ac mae ganddi 16 o ystafelloedd en suite cyfforddus. Cawl yw un o seigiau mwyaf poblogaidd y dafarn a chaiff ei baratoi gan ddilyn rysáit draddodiadol. Gyda’r cawl, rhoddir rhôl grystiog ffres a thalp o gaws Cymreig. Efallai y bydd angen ichi archebu lle yma, gan fod llond bysiau o ymwelwyr yn galw heibio'n rheolaidd i gael blasu pryd mwyaf adnabyddus y dafarn!
boarsheadhotel.net 01267 222789
Rhagor o'n ffefrynnau ...
Teatraders
15 Y Clos Mawr, Caerfyrddin, SA31 1PR
Siop de arbenigol yw Tea Traders a leolir yn y Clos Mawr yng nghanol tref Caerfyrddin. Mae'r siop yn cadw dros 100 o wahanol fathau o de dail rhydd, yn ogystal â gweini coffi Masnach Deg a byrbrydau a chacennau wedi'u paratoi'n ffres. Defnyddir cynnyrch lleol yn eu cawl llysiau ffres a wneir o gennin a gwreiddlysiau Cymreig, a chaiff ei weini gyda baguette gwerinwr a darn o gaws aeddfed Cymreig. Bwyd syml da. Gallwch gael tebotaid o de i fynd gyda'r pryd, a beth am orffen trwy gael un o'u sgonau wedi'u pobi'n ffres, sleisen o Fara Brith, neu gwbl o bice bach.
Teatraders.co.uk 01267237101
Siop Goffi Daisy
Mae'r caffi hynod hwn sydd wedi'i leoli ychydig cyn Parc Gwledig Pen-bre yn cynnig cawl cartref. Mae cymaint o alw am y cawl cig eidion fel bod cwsmeriaid yn cael eu cynghori i archebu mewn da bryd i sicrhau nad yw wedi mynd. Caiff ei weini gyda chaws a bara ffermdy a menyn.
Y Waunydd, Heol y Ffatri, Porth Tywyn, SA16 0DZ
Plas Dinefwr
Dim ond un o'r prydau a weinir yng nghaffi hanesyddol yr Ystafell Filiards ym Mhlas Dinefwr yw cawl.
Gallwch fwynhau dewis o ddiodydd, hufen iâ, danteithion melys, brechdanau, byrbrydau sawrus, pasteiod cynnes a rholiau selsig.
Mae'r coffi masnach deg yn dod o ffynonellau moesegol ac wedi'i gyfuno'n benodol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Os yw'n well gennych eistedd y tu allan, gallwch ymlacio yn y cwrt awyr agored o flaen Plas Dinefwr.
Cegin Stacey
Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JG
Mae'r caffi ym Mharc yr Esgob. Yn ogystal â'r cawl cartref hyfryd, mae Cegin Stacey yn darparu ciniawau ysgafn, cacennau, te, coffi, a hefyd yn cynnig byrddau pori a the prynhawn y gellir eu harchebu ymlaen llaw.
Cegin Diod
Mae Diod wedi'i leoli yng nghanol Llandeilo ac mae'n lle gwych i gwrdd â ffrindiau, mwynhau powlen o gawl, cael paned mewn heddwch neu ymgolli mewn llyfr.
Mae Diod ar agor 6 diwrnod yr wythnos ac mae'n cynnig awyrgylch sgandi Cymreig hamddenol.
Mae cadw pethau'n lleol yn allweddol a byddwch yn gallu mwynhau bwyd a diod o Gymru gan gynhyrchwyr fel Gower Coffee, Tea Traders Cymru, Gwinoedd Llaethliw, Siocledi Sarah Bunton a mwy.
Inn at the Sticks
Tafarn yn dyddio o’r 18fed ganrif ym mhentref hardd Llansteffan, Sir Gaerfyrddin. Mwynhewch bowlen flasus o gawl wedi’i wneud gyda gwddwg oen lleol wedi’i frwysio am oriau yn yr isgell a ddefnyddir ar gyfer y cawl. Caiff hyn ei goginio’n araf gyda rhosmari, haidd gwyn, moron, tato, cennin, pannas a phys hollt i ychwanegu blas. Y cyfan wedi’i weini gyda surdoes cartref arbennig, menyn Cymreig a chaws cheddar Hafod.
Marchnad Llanelli
Mae nifer o gaffis ym marchnad Llanelli yn gweini cawl. Ewch i’r Welsh Diner a’r Teapot sy’n cynnig cawl wedi’i wneud yn ffres ar y safle gan ddefnyddio cig oen gan gigydd y farchnad ei hun. Caiff y cawl ei wneud gyda gwreiddlysiau a chennin ffres a’i weini gyda bara crystiog a menyn a darn o gaws cheddar Cymreig.
SYLWCHl Mae'n bosibl nad yw rhai o'r llefydd yn gweini cawl yn ddyddiol.