Parc Arfordirol y Mileniwm

Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli (Sustrans 4) tua 22km neu 13 milltir.

Llwybr arfordirol hygyrch sydd heb draffig ac sydd ag wyneb llyfn. Mae'r rhan fwyaf ohono'n wastad ac mae'n dilyn arfordir trawiadol Sir Gaerfyrddin, ar hyd Llwybr Arfordir Cymru am bellter o tua 22km o'r Bynea yn y Dwyrain i Barc Gwledig Pen-bre yn y Gorllewin.

Mae cymaint i'w weld a'i wneud ar hyd y ffordd, rhwng y bywyd gwyllt, y safleoedd o ddiddordeb, y golygfannau a'r llefydd i gael lluniaeth, felly beth am gymryd eich amser a mwynhau'r profiad i'r eithaf.

Dechreuwch ym maes parcio y Bynea, ac oddi yma gallwch feicio dros bont i gyrraedd Parc Arfordirol y Mileniwm. Dilynwch y llwybr wrth iddo fynd ar hyd Aber Afon Llwchwr, sy'n safle o bwysigrwydd amgylcheddol rhyngwladol, a chadwch lygad am adar ar yr aber. Mae'r golygfeydd yn ysblennydd draw tuag at Benrhyn Gŵyr. Cadwch at y llwybr ac fe ddewch chi at Ganolfan y Gwlyptir, sef gwarchodfa adar lle gallwch wylio'r adar amrywiol sy'n byw ar hyd yr arfordir a dysgu amdanynt; mae yno haid o Fflamingos Pinc hyd yn oed!

Ewch ymlaen ar hyd yr arfordir hyd nes cyrraedd y Ganolfan Ddarganfod yn Noc y Gogledd, lle ceir canolfan wybodaeth, caffi, toiledau a digon o le i barcio. Wedyn fe ddewch chi i’r Pwll (mae'r Pafiliwn yn fan gwych am baned) ac yna i Harbwr Porth Tywyn, sy'n llecyn hyfryd.

Ewch o amgylch yr harbwr ac ymlaen i Barc Gwledig Pen-bre lle gallwch roi cynnig ar y llethr sgïo sych, y tobogan neu gerdded yn y goedwig. Mae traeth Cefn Sidan dros wyth milltir o hyd ac yn fan gwych i gerdded neu adeiladu cestyll tywod.

Parcio: Y Bynea, The Gateway Resort, Canolfan y Gwlyptir, y Ganolfan Ddarganfod, y Meysydd Gŵyl, Harbwr Porth Tywyn a Pharc Gwledig Pen-bre.

Llogi beiciau: Doc y Gogledd a Chanolfan Sgïo Parc Gwledig Pen-bre. 

Lluniaeth / toiledau: The Gateway Resort, Canolfan y Gwlyptir, Clwb Golff Machynys, y Ganolfan Ddarganfod yn Noc y Gogledd, Caffi'r Pafiliwn yn y Pwll, Harbwr Porth Tywyn, Parc Gwledig Pen-bre.

Uchafbwyntiau: Y bywyd gwyllt a'r golygfeydd!

Ar gyfer teuluoedd yn enwedig, ond hefyd y rhai y mae'n well ganddynt fynd ar gyflymder ychydig yn fwy hamddenol, mae'r llwybr wedi'i rannu'n bedair rhan fer. Gallwch ddechrau’r naill ben neu gyfuno rhannau.

 

 

 

Pont Llwchwr i Ganolfan y Gwlyptir

Pont Llwchwr i Ganolfan y Gwlyptir, Penclacwydd (4 milltir yno ac yn ôl)

Mae'r llwybr yn dilyn glannau'r aber o'r pen dwyreiniol ym Mhont y Bacas (sy'n las ac yn wyn) dros y ffordd a'r rheilffordd yn y Bynea i Ganolfan y Gwlyptir ym Mhenclacwydd. Wrth ichi ddisgyn i'r rhodfa bren gallwch weld traphont reilffordd Brunel dros afon Llwchwr, ac wrth ichi fynd ar hyd Morfa Bacas cadwch lygad am fywyd gwyllt ar fanciau tywod yr aber, gan gynnwys crehyrod, crehyrod bach, a bwncathod yn cylchu oddi fry. Gellir gweld pentref Penclawdd, sydd ar arfordir gogleddol Penrhyn Gŵyr ac sy'n enwog am gocos, bara lawr a chig oen y glastraeth, ar ochr arall yr aber ac wrth ichi fynd yn eich blaenau mae'r golygfeydd o Benrhyn Gŵyr yn odidog. Mae digon o leoedd ar hyd y llwybr i aros am ennyd, i eistedd ac i fwynhau'r golygfeydd a gwrando ar y bywyd gwyllt.

Cyrraedd yno: Mae gwasanaeth bws 110 First yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Abertawe a Llanelli drwy'r Bynea lle gallwch ymuno â'r parc arfordirol dros Bont y Bacas. Gallwch barcio yn y maes parcio yn y Bynea (ychydig oddi ar y gylchfan), yn y Gateway Resort, neu yng Nghanolfan y Gwlyptir ei hun. Ceir gwasanaeth trên rheolaidd ond nid yw'r orsaf yn Llanelli yn gyfleus iawn ar gyfer y rhan benodol hon o'r llwybr.

Cyfleusterau: Mae'r Gateway Resort ym mhen dwyreiniol y llwybr (lle mae mynediad iddo) ac mewn cerbyd gellir cael mynediad o gylchfan ar yr A484. Mae modd parcio am ddim, ac yn ogystal â darparu prydau bwyd a lluniaeth, mae pwll nofio a maes chwarae antur i blant, sydd ar gael i'r cyhoedd. I gael manylion ewch i www.gatewayresort.co.uk neu ffoniwch 01554 771202. Mae Canolfan y Gwlyptir ym Mhenclacwydd yn caniatâu parcio am ddim a mynediad i gael bwyd a lluniaeth (rhaid talu'r pris mynediad ond gellir cael ad-daliad). Mae gan y ganolfan ei hun amrywiaeth enfawr o adar gwyllt yn ei morlynnoedd a llawer o weithgareddau i'w mwynhau ar ei thiroedd, a chodir tâl am hynny. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wwt.org.uk neu ffoniwch 01554 741087.

Nodyn: Adeg llanwau uchel y gwanwyn mae'r rhan ger y rhodfa bren ym Morfa Bacas yn gallu bod dan ddŵr am gyfnod byr.

Canolfan y Gwlyptir, Penclacwydd i Ddoc y Gogledd

Canolfan y Gwlyptir, Penclacwydd i Ddoc y Gogledd, Llanelli (7 milltir yno ac yn ôl)

Mae'r llwybr yn parhau tua'r gorllewin gan fynd heibio i Ganolfan y Gwlyptir i Benrhyn Gwyn ger Machynys a chyrion Cwrs Golff Jack Nicklaus, ac ar hyd yr arfordir am ddwy filltir i Ddoc y Gogledd, Llanelli.

Wrth fynd tuag at Benrhyn Gwyn mae golygfeydd hyfryd o Arfordir Gogledd Gŵyr gan gynnwys morfeydd Llanrhidian, twyni Llanmadog, a thwyni tywod trawiadol Whitford, lle mae'r goleudy haearn bwrw hanesyddol. Ta ble mae'r llanw a tha beth yw'r golau, mae'r aber yn gefnlen wych i'r traethlin ac mae sawl man lle gallwch aros i fwynhau'r golygfeydd, y bywyd gwyllt a'r awyrgylch.

Gan barhau i gyfeiriad Llanelli ar hyd yr arfordir, fe groeswch afon Lliedi ger mynedfa'r hen ddoc llanw a chyrraedd Doc y Gogledd. Mae'r Ganolfan Ddarganfod yn cynnwys gwybodaeth i dwristiaid, ciosg hufen iâ, caffi/bwyty, toiledau a man llogi beiciau. O'r promenâd anhygoel mae modd mynd i draeth Llanelli a cheir golygfannau a nifer o nodweddion a cherfluniau ar hyd y daith.

Cyrraedd yno: Mae gwasanaeth bws 110 First yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Abertawe a Llanelli drwy'r Bynea a Llwynhendy. Mae'r bws yn stopio tua milltir o'r llwybr ym mhen Canolfan y Gwlyptir a phen Llanelli. Gallwch barcio yn Noc y Gogledd neu yng Nghanolfan y Gwlyptir ei hun. Ceir gwasanaeth trên rheolaidd i Llanelli, lle mae'r orsaf tua 1/4 milltir o'r llwybr yn Seaside ger Doc y Gogledd.

Cyfleusterau: Mae Canolfan y Gwlyptir ym Mhenclacwydd yn caniatâu parcio am ddim a mynediad i gael bwyd a lluniaeth (rhaid talu'r pris mynediad ond gellir cael ad-daliad). Mae gan y ganolfan ei hun amrywiaeth enfawr o adar gwyllt yn ei morlynnoedd a llawer o weithgareddau i'w mwynhau ar ei thiroedd, a chodir tâl am hynny. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wwt.org.uk neu ffoniwch 01554 741087. Mae maes parcio talu ac arddangos yn Noc y Gogledd ac mae'r cyfleusterau yn y Ganolfan Ddarganfod yn cynnwys caffi/bwyty â theras sy'n edrych dros y promenâd a chiosg hufen iâ.

 

 

 

 

North Dock to Burry Port Harbour

Canolfan Ddarganfod Doc y Gogledd, Llanelli i Harbwr Porth Tywyn (7 milltir yno ac yn ôl)

Yn Noc y Gogledd, gallwch fwynhau traeth Llanelli a golygfeydd ardderchog o'r aber draw at Ogledd Penrhyn Gŵyr a Thwyni Tywod Whitford a'r goleudy haearn bwrw hanesyddol. Mae'r Ganolfan Ddarganfod ei hun yn cynnwys gwybodaeth i dwristiaid, ciosg hufen iâ, caffi/bwyty, toiledau a man llogi beiciau. O'r promenâd anhygoel mae modd mynd i'r traeth a cheir golygfannau trawiadol a nifer o nodweddion a cherfluniau ar hyd y daith.

Mae'r llwybr yn dilyn y promenâd am ½ milltir ac wedyn yn dringo dros y bont wedi'i thirlunio sy'n mynd dros y rheilffordd i fyny hyd at yr olygfan wrth Gerflun y Nodwydd, lle mae golygfeydd hynod o'r aber a Phenrhyn Gŵyr a (y tu cefn ichi) Parc Dŵr y Sandy (lle mae'r llwybr yn cysylltu â chanol tref Llanelli a Llwybr Beicio Dyffryn y Swistir). Mae yna seddi a llefydd i fwydo'r hwyaid a'r elyrch wrth ymyl y llyn hyfryd, ac mae'n arwain at dafarn/bwyty y Sandpiper sydd gyferbyn.

Wedyn aiff y llwybr yn ei flaen am ddwy filltir gan fynd heibio i safle a maes parcio'r Meysydd Gŵyl tuag at y Pwll lle mae rhagor o gerfluniau a llynnoedd pysgota o'ch blaen, heibio i Gaffi'r Pafiliwn ac i Borth Tywyn a'i harbwr, marina, traeth a goleudy. Dyma'r man lle glaniodd Amelia Earhart yn 1928, sef y fenyw gyntaf i hedfan dros Gefnfor yr Iwerydd, a cheir cofeb iddi ar yr ochr ddwyreiniol ger gorsaf y bad achub. Yma gallwch chi orffwys a mwynhau'r harbwr neu groesi i'r dref gyfagos.

Mae taith fer heibio i ochr orllewinol y marina yn arwain at y goleudy ac mae golygfeydd gwych o Benrhyn Gŵyr a'r aber, ta ble mae'r llanw arni. I'r dwyrain y tu hwnt i'r clwb cychod y mae traeth Porth Tywyn a'i barc carafanau.

Cyrraedd yno: Mae gwasanaeth bws 110 First yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Abertawe a Llanelli, drwy'r Bynea a Llwynhendy. Mae ganddo derminws tua un filltir o'r llwybr ochr Llanelli. Mae gwasanaeth X11 yn mynd rhwng Llanelli a Chaerfyrddin drwy Borth Tywyn a Phen-bre. Ceir maes parcio yn Noc y Gogledd, y Meysydd Gŵyl, a'r Pwll ar hyd y daith yn ogystal â Harbwr Porth Tywyn. Ceir gwasanaeth trên rheolaidd i Lanelli a Phorth Tywyn, lle mae'r orsaf tua 1/4 milltir o'r llwybr yn Seaside ger Doc y Gogledd, Llanelli a phellter cyffelyb o'r llwybr yn Harbwr Porth Tywyn.

Cyfleusterau: Yn Noc y Gogledd mae maes parcio talu ac arddangos ac ymhlith y cyfleusterau yn y Ganolfan Ddarganfod y mae caffi/bwyty a chiosg hufen iâ. Mae maes parcio talu ac arddangos arhosiad hir yn y Meysydd Gŵyl (mynediad o'r A484) ac ymhellach ar hyd y llwybr mae Caffi'r Pafiliwn lle mae modd ichi barcio hefyd. Yn Harbwr Porth Tywyn mae maes parcio, caffi, toiledau a man gwerthu hufen iâ / diodydd meddal, ac yn y dref ceir detholiad o siopau, caffis/bwytai a thafarndai.

Porth Tywyn i Barc Gwledig Pen-bre

Harbwr Porth Tywyn i Barc Gwledig Pen-bre

Mae Harbwr Porth Tywyn a'i lanfa a'i oleudy yn gefndir hyfryd i'r aber, a gwelir golygfeydd o Ogledd Penrhyn Gŵyr a Goleudy Whitford. Roedd Porth Tywyn yn enwog am fod Amelia Earhart wedi glanio yno yn 1928 (y fenyw gyntaf i hedfan ar draws Cefnfor yr Iwerydd), ac yn ddiweddar mae’r dref a’i gorffennol diwydiannol wedi cael adfywiad sylweddol drwy ddatblygiad y llwybr beicio, y marina, a'r harbwr. Drwy feicio am ychydig heibio i ochr orllewinol y marina, fe ddewch at y goleudy lle mae golygfeydd ysblennydd o Benrhyn Gŵyr a'r aber; tua'r dwyrain y tu hwnt i'r clwb cychod y mae traeth Porth Tywyn a'r parc carafanau.

Gan fynd i'r gorllewin heibio i hen Harbwr Pen-bre a chyrion y twyni gallwch fwynhau profiad anhygoel o wylltir yr aber. Er nad yw'n addas ar gyfer nofio, ceisiwch badlo, gan fod yr aber yn gyforiog o fywyd gwyllt yn y dŵr a'r tu allan i'r dŵr.

Gan barhau ar hyd y llwybr, byddwch wedyn yn cyrraedd Parc Gwledig Pen-bre a'i rwydwaith o ffyrdd a llwybrau beicio sy'n arwain at y traeth a llu o atyniadau eraill.

Cyrraedd yno: Mae gwasanaethau X12, 195 a 196 yn rhedeg rhwng Llanelli a Chaerfyrddin ar yr A484 drwy Borth Tywyn a Phen-bre. Mae gwasanaeth trên rheolaidd o Lanelli i Gaerfyrddin, drwy Borth Tywyn a Phen-bre. Mae'r arhosfan bysiau a'r orsaf drenau tua ¼ milltir o'r llwybr ym Mhorth Tywyn ac un filltir o'r llwybr ym Mhen-bre. Mae maes parcio arhosiad byr ym Mhorth Tywyn ar ochr orllewinol yr harbwr a maes parcio arhosiad hir ar yr ochr ddwyreiniol. Ym Mharc Gwledig Pen-bre, mae llefydd parcio talu ac arddangos ychydig y tu allan i fynedfa'r parc, a chodir tâl ar gartrefi modur am fynediad i'r parc.

Cyfleusterau: Mae yna gaffi yn Harbwr Porth Tywyn, toiledau a man gwerthu hufen iâ / diodydd meddal, a thafliad carreg i ffwrdd, yng nghanol y dref mae dewis o siopau, bwytai a thafarndai. Mae atyniadau lu ym Mharc Gwledig Pen-bre sy'n cynnwys caffis a chanolfan ymwelwyr, traeth Cefn Sidan, milltiroedd o lwybrau beicio, llethr sgïo sych a gweithgareddau niferus yn ystod y flwyddyn.