Taith o amgylch cestyll Dyffryn Tywi

Dyffryn Tywi yw un o'r dyffrynnoedd mwyaf trawiadol yng Nghymru, ac mae'n frith o gestyll.

Uchafbwyntiau

Dyffryn Tywi Isaf – Llwybr trawiadol sy'n dilyn yr afon o Gaerfyrddin yr holl ffordd i Lanymddyfri, lle mae digonedd o fywyd gwyllt i'w weld.

Dyffryn Cothi – Dyffryn mwy diarffordd sydd â llethrau mwy serth a ffyrdd tawelach.

Dringfa Brechfa – Y ddringfa barhaus hiraf ar y daith, sydd â graddiant cymedrol o 5% ond sy'n parhau am bron 3 cilometr, sy'n golygu ei bod yn ddringfa heriol.

Dechrau: Caerfyrddin
Pellter: 95 Km/59 milltir
Uchder: 1155 metr/3789 troedfedd
Lefel Anhawster: 5/10
Amcangyfrif o'r Amser: 4 i 7 awr

Map o'r llwybr

Gan ddechrau yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin, lle mae llefydd parcio ar gael ar benwythnosau, croeswch Afon Tywi ac ewch o amgylch y cylchfannau i ymuno â'r B4300, gan ddilyn yr arwyddion i Langynnwr. Ar ôl llai nag 1 cilometr, trowch i'r chwith gan barhau i deithio ar hyd y B4300 tuag at Lanarthne.

Mae Caerfyrddin yn dref sydd â hanes rhyfeddol ac mae llawer o bobl yn credu mai hon oedd y dref gyntaf yng Nghymru. Honnir yn aml mai dyma fan geni Myrddin, y dewin o'r chwedlau Arthuraidd. Drwy gydol yr hanes, mae Afon Tywi wedi chwarae rhan hollbwysig ac mae'n parhau i fod yn rhan ganolog o'r dref a'r sir. Dyma'r afon hiraf sy'n llifo'n gyfan gwbl yng Nghymru, o'i ffynhonnell ym Mynyddoedd Cambria i'r aber a'r môr ger Llansteffan.

Mae ein taith yn dilyn llwybr yr afon, o Gaerfyrddin i fyny'r afon, gan fynd heibio i nifer o gestyll a safleoedd hanesyddol. O ganol y dref, nid yw'n cymryd yn hir i fynd allan o'r ardaloedd trefol ac i'r ffyrdd tawelach. Ar ôl croesi'r A40 ac ymuno â'r B4300, gallwch weld yr afon ar y chwith a'r troeon hir. Yn ogystal â bod yn eithaf tawel, mae'r ffordd yn eithaf gwastad, sy'n golygu ei bod yn wych ar gyfer taith gynhesu neu'n gyfle i fwynhau taith haws.

Wrth i'r ffordd fynd drwy bentref Llanarthne, mae un o safleoedd mwyaf nodedig y sir i'w weld yn glir. Yn sefyll ar ben y bryn mae Tŵr Paxton, sef ffug-dŵr a adeiladwyd i anrhydeddu'r Arglwydd Nelson yn 1806. Mae Llanarthne hefyd yn gartref i fwyty enwog, Wright's Food Emporium, ac er bod y daith newydd ddechrau, bydd y man aros hwn sy'n croesawu beiciau yn denu llawer o bobl. O'r pentref, mae'r ffordd yn parhau i ddilyn yr afon, a gellir gweld adfeilion Castell Dryslwyn o'r 13eg Ganrif ar fryncyn uwchlaw'r afon, ac yn fuan wedyn gwelir Castell Dinefwr, sy'n fwy cyfan ac ysblennydd, yn y pellter. Mae ganddo safle trawiadol ar ben clogwyn a golygfeydd ar draws yr holl ddyffryn.

 

Ewch yn eich blaen am 20 cilometr, hyd at y gyffordd T, yna trowch i'r chwith tuag at Ffair-fach. Ewch yn eich blaen am 1 cilometr, yna ewch ar draws y gylchfan fach tuag at Fethlehem. Ewch yn eich blaen ar hyd y ffordd hon am 10 cilometr i Langadog, yna dilynwch yr A4069 i Lanymddyfri.

Mae'r daith yn mynd drwy Ffair-fach yn gyflym, ond yn fuan bydd yn dilyn ffyrdd trac sengl sydd hyd yn oed yn dawelach. Mae'r tir yn mynd ychydig yn fwy heriol ac yn codi'n uwch, ac mae golygfeydd gwych o'r dyffryn a'r afon islaw. Ar ôl 30 cilometr, ceir dringfa heriol gyntaf y daith, i fyny'r llwybr i Fethlehem, sydd â graddiant o dros 10% wrth i'r ffordd godi i'r pentref bach. Wedyn, byddwch yn dilyn llwybr cyflym a throellog i lawr i bentref Llangadog, cyn teithio am 12 cilometr arall ar hyd llwybr cymedrol i dref Llanymddyfri. Gan ei bod tua hanner ffordd, gallai'r dref fod yn fan aros defnyddiol, gan fod sawl caffi yma, gan gynnwys Penygawse, lle cewch un o'r paneidiau gorau o goffi yn y wlad. Hefyd, mae castell yn sefyll yn y maes parcio yng nghanol y dref, ac wrth ei ochr y mae cerflun dur gloyw trawiadol o Llywelyn ap Gruffydd Fychan, sy'n edrych dros y dirwedd islaw.

Dilynwch y ffyrdd bach o'r dref drwy bentrefi Siloh a Phorthyrhyd, ac yna ewch ar hyd darn byr o'r A485, cyn troi i'r chwith am i lawr wrth gyffordd heb arwyddion. Ewch ar draws y groesffordd groesgam i Lansawel. Wrth y gyffordd T yn y pentref, ewch i fyny'r rhiw cyn troi i'r chwith ychydig cyn y capel tuag at Abergorlech. Ewch yn eich blaen ar hyd y ffordd hon, drwy Abergorlech, Brechfa ac ymlaen i Nantgaredig.

Wrth adael Llanymddyfri, mae'r daith gynhesu a'r tir gwastad yn dod i ben a byddwch yn gadael Afon Tywi, gan ddringo Bryn Henllys i bentref Siloh, lle cewch olygfeydd godidog o'r ardal gyfagos yn wobr am y daith ddewr i fyny. Os byddwch yn lwcus, fe welwch Fannau Sir Gaer yn y pellter. Mae'r llwybr yn parhau i godi drwy bentref bychan Porthyrhyd a byddwch yn ymuno â'r A485 yn gyflym am 2 gilometr cyn troi i'r chwith a phlymio i lawr llwybr â throeon ysgubol i galon Sir Gaerfyrddin. Yn fuan, byddwch yn croesi Afon Cothi, sef afon y byddwch yn ei gweld eto wedyn. Am y 30 cilometr nesaf, mae'r cerbydau'n brin, mae bryniau agored ac mae golygfeydd hyfryd o'r mannau gwyrdd o'ch amgylch. Mae pentref Abergorlech mewn man hyfryd ac yn swatio ar lannau Afon Gorlech ac Afon Cothi, ac mae'n fan cychwyn ar gyfer rhai o'r llwybrau beicio mynydd poblogaidd iawn yn Fforest Brechfa. Dyffryn Cothi yw un o'r ardaloedd mwyaf prydferth yn Sir Gaerfyrddin. Wrth i'r ffordd ymdroelli wrth ochr yr afon, mae'r tir yn fryniog ac mae ychydig o ddringfeydd bach, ond dim byd rhy flinderus.

Mae tref fach Brechfa yn gyfuniad o'r hen a'r newydd, a gall fod yn fan aros defnyddiol. Mae yma siop gymunedol fach, yn ogystal â'r Forest Arms, lle gallwch gael coffi neu bryd mwy i'ch paratoi ar gyfer y ddringfa sydd o'ch blaen. Er nad yw'n debyg i Alpe d'Huez, y ddringfa o Frechfa yw'r hiraf ar y daith, a byddwch yn dringo'n barhaus am gyfanswm o 4 cilometr. Y dechrau yw'r darn mwyaf serth â graddiant o hyd at 10% mewn mannau cyn i'r llwybr wastatáu, ac felly mae ychydig dros 4% ar gyfartaledd. Os byddwch yn llwyddo i gyrraedd y copa mewn llai na 10 munud, byddwch wedi gwneud yn dda, a chan mai dyma'r ddringfa hir olaf ar y daith, gallwch fforddio eich gwthio eich hun ychydig yn galetach.

 

Ewch yn syth ar draws ffordd brysur yr A40 wrth y groesffordd, dilynwch y ffordd am 2 gilometr gan groesi'r dref a mynd yn ôl i'r B4300. Trowch i'r dde wrth y gyffordd T, yna dilynwch y ffordd yr holl ffordd yn ôl i Gaerfyrddin.

O'r copa, byddwch yn dilyn llwybr cymedrol i lawr â throeon ysgubol ac yn disgyn i Ddyffryn Tywi, gan deithio drwy bentrefi bychan Felingwm Uchaf a Felingwm Isaf. Ar ôl y darn olaf i lawr, byddwch yn cyrraedd Nantgaredig a chroesffordd dros yr A40. Gan osgoi'r ffordd brysurach a dilyn y ffordd drwy'r dref, byddwch yn croesi Afon Tywi yn fuan, dros hen bont gul â bylchau, sy'n lle defnyddiol i feicwyr aros a mwynhau'r olygfa.

Ar ôl croesi'r afon ac un ddringfa fer ond serth arall, bydd y darn olaf yn mynd ar hyd y darn cyntaf i'r cyfeiriad arall. Dim ond 10 cilometr yw'r darn hwn ac mae'n wastad yn bennaf, ond fel arfer bydd teithio tua'r gorllewin yn teimlo'n galetach nag y dylai yn erbyn y prifwynt. Bydd tref Caerfyrddin yn ymddangos yn fuan drwy'r perthi sydd ar hyd y ffordd, ac fe welwch adeilad mawreddog Neuadd y Sir. Mae'n sefyll uwchlaw'r afon ac yn edrych drosti. Arferai fod yn garchar a chafodd ei adeiladu ar safle Castell Caerfyrddin y mae ei adfeilion i'w gweld o hyd, ac yn y pen draw, yn y 1950au, crëwyd yr adeilad a welwn heddiw.

 

Mannau aros

Llanarthne – Wright's Food Emporium
Llanymddyfri - Penygawse
Abergorlech – Black Lion. Mae bwyd a choffi ar gael.
Brechfa – Forest Arms. Mae bwyd a choffi ar gael.
Caerfyrddin – Caffi Cranc Cyclesport

Gwybodaeth defnyddiol

Cranc Cyclesport – Siop Feiciau, Caerfyrddin
Beiciau Hobbs – Siop Feiciau, Caerfyrddin