Taith Artaith Sir Gâr

- rhiwiau hirion, beiciwr bodlon
Dyma lwybr epig a fydd yn eich tywys o galon ddiwydiannol Sir Gaerfyrddin i wlad dawelach, gan ddod yn ôl dros y Mynydd Du.

Uchafbwyntiau

Y Mynydd Ddu – dringfa anhygoel sy'n nadreddu ei ffordd lan cwm Sawdde ac i dir agored sy'n cynnig golygfeydd godidog, os bydd y tywydd yn deg.

Mynydd y Betws – ffordd dawel, guddiedig bron, sy'n torri cwys drwy'r Mynydd.

Dringfa Heol Gwrhyd – prawf ar gyfer hyd yn oed y beicwyr mwyaf heini a chyflym. Rhiw serth a didostur, ond eich gwobr fydd golygfeydd gwych a thaith braf ar hyd y grib.

Gan ddechrau ym maes parcio Rhydaman, ewch i Stryd y Gwynt (yr A483) ac wrth y goleuadau yng nghanol y dref ewch i'r dde i'r Stryd Fawr. Ar ôl ychydig gannoedd o fetrau trowch i'r chwith i Heol Wern Ddu a dilynwch hon am 9km. 

Mae gan Rydaman a Dyffryn Aman cyfan gysylltiadau agos â'r chwyldro diwydiannol oherwydd cloddiwyd am lo yn yr ardal, ac mae arwyddion yr hanes yn dal i'w gweld. Mae cwmni ifanc Coaltown, sy'n crasu coffi ac yn prysur ehangu, wedi'i leoli yn y dref ac yn enghraifft o gwmni sy'n talu teyrnged i'r hanes hwn.

Efallai nad beicio fyddai'r peth cyntaf fyddai'n dod i'r cof wrth feddwl am y dref, ond mae'r rhiwiau o amgylch y dyffryn yn euraid i feicwyr, er taw'r hen 'aur du' sydd yn y tir. Mae'r llwybr yn pasio drwy ganol y dref ac o fewn cilomedr trown i'r chwith i Heol Wern Ddu, ble mae rhiw gyntaf y diwrnod yn dechrau. Nid yw Wern Ddu yn rhy eithafol, ond mae'n rhoi syniad o'r hyn sydd i ddod ac yn brawf cynnar i'r coesau. O'r top mae'r golygfeydd yn agor o'ch blaen a hynny ar ôl ond ychydig o ddringo. Mae'r golygfeydd tua'r de yn dangos mor brysur a threfol yw'r ardal, ond mae'r llwybr hwn yn anelu am y gogledd a thuag ardaloedd mwy tawel Sir Gâr

 

9470
9474

Wrth ichi ddod i bentref Derwydd trowch i'r dde i Heol Pen Storom ac ewch lan y rhiw ac ymlaen i Ffair-fach. Trowch i'r dde wrth y gyffordd T ac ewch yn eich blaen drwy Ffair-fach ac i Landeilo. Ar y gylchfan ewch yn syth ymlaen i'r A40 a bron yn syth wedyn trowch i'r chwith i'r B4302 (Heol Talyllychau).

Ar ôl ychydig gilomedrau o ddringo a disgyn tua Derwydd ac yna droad siarp i'r dde, gwelir y rhiw nesaf yn glir.  Rhaid taw hen ffordd Rufeinig yw hi achos mae'n berffaith syth ac yn edrych yn fygythiol, ond mewn gwirionedd mae golwg y rhiw yn waeth nag yw hi. Mae'r olygfa o'r top dros dref Llandeilo yn ogoneddus ac mae'r tai lliwgar enwog ar hyd rhiw Stryd y Bont yn amlwg. Mae'r llethr yn mynd â chi at gyrion Ffair-fach a chyn bo hir rydych yn dringo'r union stryd y gwelsoch o bell; mae'n rhipyn bach cas felly nid yw'n hawdd ichi ei fwynhau wrth ichi bedlo. Mae Llandeilo yn llawn siopau diddorol a llefydd bwyta ac mae ambell i le arall ar y cyrion, megis yr Hangout y nodwyd mewn pôl diweddar fod ganddo'r coffi gorau yng Nghymru. Nid yw'n bell o'r llwybr, ar gwr y dref yn fuan ar ôl y llethr gyflym am i lawr o ganol y dref. 

Ewch ymlaen drwy Dalyllychau a 31 cilomedr i mewn i'r daith, trowch i'r dde wrth groesfan cyn dod i bentref Crug-y-bar. Ewch yn eich blaen lan y rhiw, ymunwch â'r A482 gan droi i'r dde a dilynwch y ffordd am 2km, lle mae arwydd yn eich pwyntio ar hyd ffordd fach i gyfeiriad Porth-y-rhyd. Ewch yn eich blaen drwy Borth-y-rhyd a dilynwch y ffordd a'r arwyddion am Lanymddyfri.

Wrth inni ddringo mas o Landeilo ar y ffordd donnog sy'n arwain i Dalyllychau a thu hwnt, nid yw'r tirwedd byth yn teimlo'n wastad gydag ambell i ripyn byr a serth yn ogystal â rhiwiau mwy hirfaith sy'n gwneud ichi deimlo'ch bod yn mynd am yn ôl. Mae'r ffordd droellog hon yn mynd trwy Dalyllychau ac ymlaen i Grug-y-bar lle'r ydym yn troi i'r dde ar groesffordd ac yn cychwyn ar ddringfa hirach. Ond fel arfer mae'r gwynt y tu ôl i chi fan hyn a diolchwch am yr help!

Mae darn byr ond cyflym ar yr A482 cyn ichi droi i'r chwith ar lwybr hollol wych drwy bentrefi bychain Porthyrhyd a Siloh. Mae'r ffordd yn disgyn wedyn tua Llanymddyfri.

Dyma hanner y daith wedi'i wneud felly gallai Llanymddyfri fod yn fan aros defnyddiol – mae amryw o siopau a chaffis ac mae llawer ohonynt yn estyn croeso i feicwyr. 

 

9475
9476 9491

Ar y gyffordd/croesfan ewch yn syth i'r stryd unffordd drwy ganol y dref ac i'r dde ar yr A40. Dilynwch am gwpwl o gannoedd o fetrau cyn troi i'r chwith lle mae'r heol yn gwyro'n siarp i'r dde ar bwys Caffi'r West End. Dilynwch yr A4069 i Langadog, trowch i'r chwith yn y pentref ac ewch dros y Mynydd Du i Frynaman.

Y ffordd mas o'r dref yw'r un hawsaf o bosibl, gan fod yr 8 cilomedr i bentref Llangadog yn weddol wastad, neu yn wastad yn ôl safonau Cymru beth bynnag!

Wrth droi i'r chwith yn Llangadog rydym yn cychwyn ar yr heol dros y Mynydd Du, sef un o ddringfeydd mwyaf trawiadol Cymru a hyd yn oed Prydain gyfan. O bentref Llangadog mae'r 7 cilomedr cyntaf yn raddol iawn ond ar ôl croesi hen bont garreg Pont Aber mae'r dringo go iawn yn dechrau. Y ffordd dros y Mynydd Du, sy'n cyrraedd uchder o 502 o fetrau, yw un o'r ffyrdd uchaf yng Nghymru. Ar y dechrau mae cloddiau wrth ymyl y ffyrdd ac nid yw'r hanner cyntaf yn cynnig golygfeydd mor wych â'r ail hanner. Wrth groesi'r grid gwartheg hanner ffordd i fyny'r ddringfa o 7 cilomedr, byddwch ar dir agored ac mae gweddill y ffordd i'r copa yn droellog ac yn cynnwys “Tro'r Gwcw”, sef troad mwyaf adnabyddus yr ardal.  Wrth i'r ffordd newid cyfeiriad sawl gwaith byddwch yn debygol o deimlo'r gwynt yn eich erbyn o bryd i'w gilydd, yn arbennig ar y darn olaf mwy gwastad wrth i'r ffordd fynd drwy fwlch tuag at y copa.  Gan fod nifer o feysydd parcio a golygfannau byddai'n werth ichi stopio i edmygu'r golygfeydd, yn enwedig os bydd y tywydd yn braf ar y copa a'r wlad yn ymagor o'ch blaen – i'r môr a hyd yn oed Dyfnaint tua'r de, neu'r tu ôl i chi i'r gogledd a Mynyddoedd Cambria a Chanolbarth Cymru.

 

Ym Mrynaman trowch i'r chwith wrth y gylchfan fach ac ewch ymlaen i Gwmllynfell. Trowch i'r dde yn syth ar ôl y groesfan i gerddwyr. Dilynwch y ffordd lan y rhiw a pheidio troi wrth mân gyffyrdd nad ydynt yn pwyntio i fyny'r llethr. Ewch ymlaen dros y mynydd ac i lawr y ffordd gul sy'n disgyn i Ryd-y-fro. Ar y gyffordd T trowch i'r dde a bron yn syth wedyn i'r chwith i Heol y Barran. 

Nid yw'r rhiw i lawr i Frynaman mor dechnegol â'r ochr a ddringwyd, ond mae dal yn hwyl ac yn gwneud yr holl ddringo'n werth chweil. O Frynaman ymlaen mae'r Cymoedd yn ailddechrau ac mae'r gorffennol a'r presennol diwydiannol yn amlwg. Ar ôl peth seibiant drwy bentref Cwmllynfell mae'r llwybr yn dod â dringfa arall i chi ac efallai'r un galetaf oll. Ffordd fach gul yw Heol Gwrhyd sy'n croesi dau gwm; mae'r rhiwiau cyntaf o 10% yn teimlo'n gymharol hamddenol ond mae un darn lle mae'r graddiant yn codi i 20% gan wneud i'r coesau losgi wrth i chi frwydro tua'r copa. Diolch byth, mae'r rhan olaf yn llawer haws wrth i'r ffordd groesi tir agored, heibio Capel Gwrhyd, ac er ei fod yng nghanol unman heddiw byddai'r capel wedi bod yn llawn bwrlwm ar un adeg, gan wasanaethu'r cymunedau bach o gwmpas y mynydd.

Toc wedyn mae'r llwybr lawr i'r dyffryn yn dechrau a phwyll biau oherwydd mae'n serth â throeon cas a wyneb garw. Wrth gyrraedd y gwaelod does dim pall ar y llwybr ac mae'n dechrau dringo eto'n syth. Trwy drugaredd mae'n haws o lawer na Heol Gwrhyd ond mae'n ddringfa hir sydd â dwy ran. Mae'r rhan gyntaf, hirach yn cynnwys y rhan fwyaf o'r dringo ond mae'r golygfeydd o'r golwg am fod cloddiau o boptu'r heol. Mae llethr fer am i lawr yn dod â chi dros bont fach garreg ac yn dynodi dechrau'r ail ran a dringfa olaf y daith.

 

9479 9482
9483

Dilynwch y ffordd dros sawl bryn a throwch i'r dde ar gyffordd T ar bwys copa Mynydd y Betws. Dilynwch hon i lawr i gyffordd T wrth bentref y Betws, lle'r ydych yn troi i'r chwith gan ddilyn yr heol yn ôl i Rydaman.

Mae'r ffordd yn culháu ac mae'r ochrau creigiog ar bob ochr yn bwrw cysgod dros yr heol; mae'n rhan anhygoel o'r llwybr sy'n teimlo'n glawstroffobig ar adegau. Ar y top, mae tyrbinau gwynt Mynydd y Betws yn dod i'r golwg ac yn dynodi rhan olaf y llwybr; lawr rhiw yw hi o hyn ymlaen. Mae'r ffordd yn droellog wrth fynd ar i lawr, yn enwedig ar ôl croesi'r grid gwartheg ac wrth i'r cloddiau ddychwelyd i ochr yr heol. Gall fod yn llethr letchwith ond mae'r gyffordd T ar y gwaelod yn nodi ymyl Rhydaman a dim ond taith fer yw hi wedyn i ganol y dref. Ar ôl dringo 2000m gallwch deimlo'n gwbl fodlon wrth feddwl eich bod wedi dringo un rhan o bump o uchder mynydd Everest, a hynny mewn ychydig oriau hwyliog ar un o lwybrau caletaf Sir Gaerfyrddin a'r cyffiniau.

 

 

Mannau aros

Llandeilo – Yr Hangout, Mary Ellens @ 139, Cafe Braz, Ginhaus Deli
Llandovery – Penygawse, Tafarn a Chaffi'r Bear, Caffi West End
Llangadog – Swyddfa'r Post, Siop y Pentref
Rhydaman – bar coffi Coaltown Espresso, caffi CCMinas

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cranc Cyclesport – Siop Feiciau, Caerfyrddin
Beiciau Hobbs – Siop Feiciau, Caerfyrddin