Taith Afon Teifi

Mae'r daith anodd hon yn mynd i fyny'r afon cyn dringo dros fynydd trawiadol Llanllwni i bentref Brechfa ac yna dychwelyd drwy lonydd tawel y wlad.

Uchafbwyntau

Mynydd Llanllwni – mae'r ddringfa i'r top yn hir a chaled ond mae'r golygfeydd a'r rhiw am i lawr yn gwneud y cyfan yn werth chweil.

Brechfa – mae'r llethr i lawr i Frechfa ymhlith y gorau yng Nghymru. Troeon mawr, cyflym o'r top i'r gwaelod.

Dringo mas o Lanpumsaint – ychydig dros 3km ar raddiant o 5% ar gyfartaledd, ond mae bron i gyd lawr rhiw ar ôl cyrraedd y top

Dechrau: Castellnewydd Emlyn
Cyfanswm y Pellter: 90km/56 milltir
Uchder a ddringir: 1740 metr/5700 troedfedd
Lefel Anhawster: 7/10
Amcangyfrif o'r Amser: 3.5 i 7 awr

Map o'r llwybr

Gan ddechrau yng Nghastellnewydd Emlyn, ewch ar yr A484 i gyfeiriad Caerfyrddin. Ar ôl 6.5km trowch i'r chwith tua Llandysul. Dilynwch hon am ychydig gilomedrau ac yna trowch i'r chwith wrth y gyffordd T i gyfeiriad Llandysul. Ewch yn eich blaen i'r gylchfan a chymerwch yr ail allanfa i'r B4624 a dilyn y ffordd am 5km i Lanfihangel-ar-arth lle byddwch yn troi i'r chwith i'r B4459 i gyfeiriad Capel Dewi. Ar waelod y rhiw croeswch afon Teifi ac yn syth wedyn trowch i'r dde ar ffordd ddiddosbarth.

Saif Castell Newydd Emlyn ar lan afon Teifi, sef un o afonydd hiraf Cymru, ac am ran helaeth ohoni dyma'r ffin rhwng siroedd Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Yr afon yw'r rheswm dros leoliad y dref, ac mae ei hanes yn mynd yn ôl dros fil o flynyddoedd; mae'r mannau hanesyddol o gwmpas y dref, gan gynnwys gweddillion y castell nepell o'r stryd fawr, yn tystio i'r hanes hwn.

O ystyried dylanwad yr afon, mae'n briodol fod y daith hon yn dechrau yng Nghastellnewydd Emlyn ac yn olrhain afon Teifi i gyfeiriad ei tharddiad. Wrth gwrs, golyga hyn y bydd yn rhaid dringo, yn raddol bach i ddechrau. Ar ôl gadael y dref mae'r llwybr yn mynd ar briffordd gymharol dawel sy'n cynnig ambell i olwg o'r afon ar y chwith wrth ichi fynd tua'r gogledd. Daw'r prifwynt o'r de-orllewin ac mae siawns go dda y bydd y gwynt wrth eich cefn i gyflymu dechrau'r daith.

Mae'r llwybr yn ymlwybro tua Llandysul, tref arall sy'n sefyll ar lan afon Teifi ac sy'n adnabyddus am ei chlwb canŵio sy'n gwneud defnydd da o'r afon ewynnog. Mae'r llwybr yn osgoi Llandysul ei hun ond os oes angen ichi roi 'tanwydd yn y tanc' byddai'n lle defnyddiol i stopio.

Ar gwr y dref mae rhiw fawr gyntaf y daith, ond dim ond rhipyn yw e o gymharu â rhai o'r rhiwiau yn nes ymlaen – 3km o hyd â graddiant cyfartalog o 4%, ond mae'r llethr gychwynnol yn teimlo'n fwy serth o lawer na hynny. Ar ôl darn graddol ar y top sydd â golygfeydd gwych o fynydd Llanllwni yn y pellter, mae'r ffordd yn disgyn yn gyflym i Lanfihangel-ar-arth – erbyn ichi ynganu'r enw byddwch wedi mynd drwy'r pentref! Trowch i'r chwith ar y sgwâr a disgyn i lawr llethr gulach y tro hwn, felly pwyll biau.

 

Dilynwch y ffordd ddiddosbarth am 6km i gyffordd T, trowch i'r dde ac ar ôl pellter byr i'r gylchfan, trowch i'r dde eto. Ewch yn eich blaen drwy Lanybydder i'r groesfan ac ewch yn syth ymlaen i'r B4337. Ar ôl 500 metr trowch i'r dde lle mae'r arwydd yn pwyntio at Lidiadnennog. Dilynwch hon am 5km a throi i'r dde ar y groesffordd a dilyn yr heol i dop y mynydd.

Mae'r ffordd yn croesi afon Teifi dros bont garreg hardd cyn dringo eto a dilyn yr afon ar y lan ochr draw. Mae'r heolydd yn llai o faint ac yn dawelach ac mae modd rhodio'n hamddenol arnynt. Mae Mynydd Llanllwni yn dal ar y gorwel, gyda'i grib hir yn dilyn llwybr yr afon. Gallwch weld tri mast ar gopa'r mynydd ac i fyny at y rhain y bo'r nod, a fydd yn destun llawenydd neu'n destun arswyd!

Byddwch yn croesi yn ôl i lan arall yr afon ac i mewn i dref fach Llanybydder, sydd hefyd wedi'i rhannu gan afon Teifi, a fan hyn y bydd dringfa fwyaf y diwrnod yn dechrau. Wrth i'r llwybr ddringo mas o'r dref byddwch yn troi i'r dde i ffordd fach sy'n anelu fry. Nid yw'r rhiw byth yn rhy serth, ond a hithau'n 6km o hyd a heb fawr o seibiant, mae angen ei pharchu hefyd!

 

Ewch dros y copa ac i lawr rhiw cyn troi yn siarp i'r chwith lle mae'r arwydd yn dynodi 'Brechfa', ychydig cyn pentref Llanllwni. Ewch yn eich blaen i Frechfa, troi i'r dde ar y gyffordd T ac ar ôl dau gan metr trowch i'r dde eto gan ddilyn yr arwydd am Lanllawddog.  Ewch yn eich blaen am 10 cilometr, hyd at y gyffordd T, gan droi i'r chwith ar yr A485. Dilynwch hon am 500 metr a throi i'r dde ar y B4301 i gyfeiriad Bronwydd.

O dop Mynydd Llanllwni ar ddiwrnod braf fe gewch rhai o olygfeydd gorau'r sir. Y grib yw un o'r mannau uchaf am filltiroedd lawer, ac mae modd gweld y môr tua'r de a Bannau Brycheiniog tua'r dwyrain. Mae'r goriwaered o'r copa yn gyflym ond mae anifeiliaid o gwmpas, felly mae'n werth dal yn ôl a chofio bod y troad siarp i'r chwith yn hawdd i'w fethu – bydd hwn ar ddarn syth a chyflym ychydig cyn pentref Llanllwni.

Nid yw'r ddringfa nesaf mor hir ond mae'n teimlo yr un mor galed diolch i'r darnau byr ond serth ar ei dechrau. Wrth i'r tirwedd ymagor mae'r rhiw'n llai serth ac o'r top mae'r llethr lawr i bentref Brechfa ymhlith y gorau yng Nghymru gyfan. 6km o droeon mawr, golygfeydd godidog a gwên o glust i glust ar wyneb y beiciwr bodlon! Mae Brechfa yn arosfan ddefnyddiol sydd â siop gymunedol dda ynghyd â thafarn y Forest Arms sy'n cynnig coffi a chacennau blasus

 

Dilynwch y B4301 am 3km a throi i'r dde wrth dŷ gwyn i gyfeiriad Llanpumsaint. Ewch drwy'r pentref ac ar ôl 6km ochr draw i'r pentref trowch i'r chwith ar ffordd ddiddosbarth. Ewch i lawr rhiw i gyffordd T; trowch i'r chwith ac yn fuan wedyn i'r dde lle mae'r arwydd yn dynodi Drefach-Felindre ac Amgueddfa Wlân Cymru. Dilynwch y ffordd ddiddosbarth i gyffordd T wrth y B4333; trowch i'r dde ac ewch i lawr y rhiw yn ôl i Gastellnewydd Emlyn. 

Ar ôl gadael Brechfa mae'r darn nesaf yn fwy graddol, ond heb fod yn wastad chwaith, wrth iddi ymlwybro am 10km ar hyd ffordd dawel a digynnwrf. Mae darn byr ar briffordd cyn troi bant am bentref Llanpumsaint lle mae dringfa fawr olaf y daith. Mae'r rhiw yn amrywio o ran ei serthder ac mae ambell i ddarn llai serth am yn ail â dringfeydd sy'n profi'r coesau.

O'r top gallwch gysuro'ch hun fod y darnau caletaf y tu ôl i chi – o'ch blaen mae'r ffordd yn ymlwybro'n fwy graddol am 6km tuag at y tyrbinau gwynt sy'n britho copa'r bryn. Pan fyddwch yn ymuno â'r B4333 ar y top, bydd y darn olaf i gyd lawr rhiw ac mae'n ffordd ddelfrydol o orffen; troeon cyflym i ddechrau cyn bod y ffordd yn plymio i'r coed gan ddod mas ar gwr y dref. Er bod y dref ar derfyn Sir Gaerfyrddin, mae'r golygfeydd a'r cymal dros Fynydd Llanllwni yn rhoi'r teimlad fod hon yn daith fawreddog, ac mae'r sir yn feistr ar gynnig teithiau o'r fath.

 

Mannau aros

Castellnewydd Emlyn – Y Cwtch Coffi
Castellnewydd Emlyn – y Riverside Cafe
Llanybydder – Siop y Bont
Llanybydder – Siop bentref Premier
Brechfa – Siop Gymunedol
Brechfa – Forest Arms

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cranc Cyclesport – Siop Feiciau, Caerfyrddin
Beiciau Hobbs – Siop Feiciau, Caerfyrddin