Gwylltir y Gorllewin

Mae Llyn Brianne a'r ffyrdd o'i amgylch ymhlith y llwybrau mwyaf trawiadol a boddhaus y gallwch chi gael ar wyneb daear.

Uchafbwyntiau

Llyn Brianne – Dringfa anodd lan i'r gronfa ddŵr ac wedyn mae ffordd anhygoel o'i amgylch sy'n cynnig golygfeydd godidog.

Blaenau Tywi – cwm pert, ffyrdd tawel a golygfeydd godidog rhwng llawr y dyffryn a Llyn Brianne.

Soar y Mynydd – capel mwyaf anghysbell Cymru a ffyrdd gwych yn y cyffiniau.


Dechrau: Llanymddyfri
Cyfanswm y Pellter: 105km/65 milltir
Uchder a ddringir: 1700 metr/5500 troedfedd
Lefel Anhawster: 7/10
Amcangyfrif o'r Amser: 4 i 7 awr

Map o'r llwybr

Gan ddechrau o faes parcio Llanymddyfri, ewch ar yr A40 tuag at Landeilo a throwch i'r dde i'r A483 ychydig cyn y groesfan reilffordd; ar ôl 500 metr trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Rhandir-mwyn a Llyn Brianne.

Tref farchnad yw Llanymddyfri sy'n dyddio'n ôl i'r oesoedd canol, fel y tystia'r castell yng nghanol y dref. Bu hefyd yn arosfan bwysig i'r Porthmyn fel y tystia llysenw clwb rygbi'r dref. Saif y dref ar lan sawl afon, gan gynnwys Brân, Gwydderig a Thywi, ac mae ein cylchdaith yn dechrau drwy ddilyn afon Tywi yn erbyn y llif tuag at ei tharddiad. 

Mae'n werth nodi bod y llwybr yn croesi tirwedd gwyllt, anghyfannedd felly byddai'n werth ichi gludo beth bynnag y bydd arnoch ei angen a pheidio â dibynnu ar siopau ar hyd y llwybr. Mae gan Lanymddyfri gaffis a bwytai rhagorol felly mae'n hawdd rhoi 'tanwydd yn y tanc' yn un o'r llefydd niferus sy'n estyn croeso i feicwyr. 

Mae'r cefn gwlad yn amgylchynu Llanymddyfri ac o fewn munudau'n unig ar ôl dechrau rydym yn gadael yr ardal drefol ac yn ymuno â ffyrdd tawel y wlad. Mae'r llwybr yn cynnig cyfle i gynhesu am nad oes bryniau serth i ddechrau, yn hytrach mae'r tir yn codi'n raddol iawn wrth i'r ffordd ddilyn dyffryn Tywi i fyny'r afon. Ar ôl 7 cilomedr bydd y rhiw gyntaf yn dechrau, ond nid yw'n rhy ddrwg, ac ymdrech gymharol hawdd yw cyrraedd pentref Rhandir-mwyn.

 

Dilynwch y ffordd fach drwy Randir-mwyn ac ewch yn eich blaen o amgylch Llyn Brianne. Ar ôl 30km cadwch i'r chwith a dilynwch yr heol i Dregaron, 48km i mewn i'r daith. 

Ychydig gilomedrau ar ôl mynd trwy'r pentref mae'r hwyl yn dechrau! Mae'r ffordd yn dechrau codi fry ac mae'r dringo'n parhau am sawl cilomedr gydag ochrau serth blaenau Tywi yn codi bob ochr. Byddwch yn mynd heibio sawl lle nodedig gan gynnwys gwarchodfa natur yr RSPB yn Ninas, sy'n cynnwys cuddfan honedig yr enwog Twm Siȏn Cati. Wrth ichi basio Dinas mae'r ffordd yn parhau i ddringo ac er bod ein taith yn osgoi wal yr argae yn Llyn Brianne, dim ond ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd yw hi. Mae troad i'r chwith, wrth i'r ffordd fynd yn fwy gwastad, sy'n mynd â chi i dop wal yr argae, a dyma'r un dalaf o'i math yn y Deyrnas Unedig – 91 metr o uchder.

Yn ôl ar y llwybr, mae'r ffordd yn mynd o amgylch y gronfa ddŵr gan ddringo a disgyn bob yn ail a chan gynnig golygfeydd godidog ar bob cornel. Wrth i rannau o'r goedwig gael eu clirio yn ddiweddar mae'r golygfeydd wedi gwella eto ac mae sawl man sy'n haeddu stop fach er mwyn edmygu'r golygfeydd. Crëwyd y gronfa ddŵr yn yr 1960au a bu'n rhaid gwacáu rhai cartrefi a'u boddi dan ddŵr y llyn. Yn ystod hafau twym a sych iawn mae ffermdy'r Fanog wedi ailymddangos, ac mae modd cerdded ato hyd yn oed, ond nid yw'r cyfleoedd hyn wedi codi ond ychydig o weithiau ers i'r argae gael ei godi.

Wrth i'r gronfa ddŵr ddod i ben mae ein llwybr yn gwyro i'r chwith wrth y fforch, dros bont fach wen dros afon Tywi lle mae'r afon yn troi'n gronfa ddŵr. Mae'n dringo'r bryn a throsodd i le nodedig arall sydd bron yn guddiedig, sef capel Soar y Mynydd. Mae'n hawdd methu'r capel ar y chwith ichi wrth fynd lawr y rhiw yn gyflym. Dywedir mai hwn yw capel mwyaf anghysbell Cymru, a hawdd credu hynny o ystyried fod y pentref neu'r dref agosaf 8 milltir o daith i ffwrdd.

Wrth i'r llwybr barhau tua'r gogledd mae'r ardal yn teimlo'n fwy anghysbell eto, gan fynd heibio Mynyddoedd Cambria – 'Anialwch Cymru'. Er nad oes yno dywod mae'r tirwedd yn ddiffaith iawn a phrin fod tai, ffermdai neu geir yn y golwg. Ond gyda'r diffeithwch hwn daw harddwch anhygoel na welir mo'i debyg yn unman arall i'r de o'r Alban.

 

Ar sgwâr Tregaron, trowch i'r chwith a dilynwch y B4343 drwy bentrefi bach Llanddewi-Brefi a Llanfair Clydogau a byddwch yn cyrraedd cyffordd T yng Nghwm-ann. Trowch i'r dde ac yna'n syth wedyn i'r chwith i gyfeiriad Llanybydder.

Nid oes pall ar y dringo mae'n ymddangos, a byddwch yn dringo 1000m yn y 40km cyntaf wrth ichi gyrraedd man uchaf y llwybr, sydd ychydig o dan 500m o uchder. Mae'r ffordd yn igam-ogamu i lawr i Dregaron ac mae'n serth mewn mannau, sy'n sicrhau ei bod yn dechnegol ond hefyd yn llawer o hwyl.  Rydych yn ôl ar dir gwaraidd yn Nhregaron ac mae'r llwybr yn dilyn afon Teifi tua'r de-orllewin, gan fynd trwy bentrefi megis Llanddewi-Brefi, lleoliad un o wyrthiau enwocaf Dewi Sant a chartref 'Daffyd' yn y gyfres gomedi “Little Britain”. Er bod y ffordd yn donnog mae'n gyflymach na'r hyn y buoch arni yn nechrau'r daith ac mae'n cynnig cyfle i godi'r cyflymder cyfartalog wrth fynd trwy Gwm-ann ac ymlaen i Lanybydder. 

 

Ewch yn eich blaen i Lanybydder gan droi i'r chwith ar y sgwâr, wrth y gofeb, i'r B4337 (Heol Llansawel). Dilynwch y ffordd i Lansawel a throwch i'r chwith wrth i'r heol ddisgyn, gan ddilyn yr arwydd i Lanwrda. Dilynwch y ffordd ac ewch yn syth ymlaen drwy'r groesffordd groesgam.

Ar dop y rhiw trowch i'r dde i'r A482 a dilynwch hon am 2 gilomedr cyn ichi droi i'r chwith wrth yr arwydd sy'n pwyntio i Borth-y-rhyd. Ewch yn eich blaen drwy'r pentref a dilynwch yr arwyddion am Lanymddyfri.

Afon Teifi yw'r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn y rhan hon o'r daith ac mae Llanybydder bron â chael ei rhannu wrth i'r afon lifo drwy'r dref fach. Mae siopau a chyfleusterau yma a byddai'n lle defnyddiol i aros am mai hi yw'r dref olaf cyn diwedd y daith. Wrth inni adael Llanybydder mae'r ffordd yn dringo'n raddol unwaith eto gan fynd yn fwyfwy serth. Nid oes enw penodol i'r ddringfa hon ond, a hithau'n 5km o hyd a chyda gwahaniaeth uchder nid ansylweddol rhwng y gwaelod a'r brig, mae'n ddigon anodd. Mae'r goriwaered ochr draw yn fwy serth na'r ddringfa wrth i'r ffordd ddisgyn yn droellog i bentref Rhydcymerau.

Mae'r ffordd goediog i bentref Llansawel yn ogoneddus, yn enwedig ar ddiwrnod twym, gan roi rhywfaint o gysgod ar ôl taith agored iawn hyd yn hyn. Wrth inni ddisgyn i mewn i Lansawel byddai'n hawdd methu'r gyffordd sydd ar riw gyflym. Yn fuan ar ôl mynd drwy'r pentref mae un ddringfa hir yn mynd â ni i'r A482 ac yn ymuno â'r unig ddarn o briffordd sydd ar y daith gyfan, 2 gilomedr ohoni, i gyd lawr rhiw, cyn ichi wyro i'r chwith i gyfeiriad Porth-y-rhyd.

Mae'r darn olaf yn ôl i Lanymddyfri yn un i'w fwynhau, gydag ambell i ripyn i ddechrau a golygfa hyfryd yn y pellter - os yw'r tywydd yn ffafriol - o Fannau Sir Gaer, sef copaon uchaf Sir Gaerfyrddin. Mae rhiw serth olaf y daith ar ôl Siloh, sy'n ymdroelli i'r dyffryn cyn gwastatáu rhyw filltir o gyrion tref Llanymddyfri. Mae yno amryw o gaffis gwych, a'r mwyafrif ohonynt yn estyn croeso i feicwyr, felly bydd digon o lefydd i chi eistedd a hel atgofion am y daith feiciau anhygoel y buoch arni.

Mannau aros

 Llanymddyfri – Penygawse, Tafarn a Chaffi'r Bear, Caffi West End
Rhandir-mwyn – y Royal Oak
Llanybydder – Premier Store


Gwybodaeth ddefnyddiol

Cranc Cyclesport – Siop Feiciau, Caerfyrddin
Beiciau Hobbs – Siop Feiciau, Caerfyrddin