English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Mynydd Epynt

Taith dros ardal o weundir y Weinyddiaeth Amddiffyn gyda golygfeydd anhygoel i bell ac agos

Cychwyn: Llanymddyfri

Cyfanswm Pellter: 43km/27 milltir

Cyfanswm Dringo: 700m/2296tr

Lefel Anhawster: 5/10

Amcangyfrif Amser: 2.5 i 3.5awr

Route map for Epynt - Llandovery (M3) by Discover Carmarthenshire on plotaroute.com

Cyfarwyddiadau

O Faes Parcio Llanymddyfri ewch allan i’r A40 i gyfeiriad dwyreiniol allan o’r dref, ac wedi bron i 14km, trowch i’r chwith wrth reidio ar ddarn hir, syth o’r ffordd, arwydd Tirabad. Ewch i fyny’r rhiw a thros ardal y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan aros ar y briffordd ar hyd y daith i bentref Tirabad. Wrth y gyffordd-t trowch i’r chwith ac ewch ymlaen am 8km. Ar ôl disgyniad cyflym i gyffordd-t, trowch i’r chwith, arwydd Llanymddyfri a’i dilyn am 6km yn ôl i’r dref. Wrth ichi ddod i mewn i Lanymddyfri, trowch i’r chwith yn fuan ar ôl pasio’r ysgol. Wedi 400 metr, dewch i gyffordd-t a throwch i’r dde. Yn union cyn y Castle Hotel trowch i’r chwith ac yn ôl i’r maes parcio.

Ddim yn bell o Lanymddyfri ac yn agos at ffin Sir Gaerfyrddin mae’r ardal a elwir yn Epynt. Mae’n ardal o ucheldir mynyddig a brynwyd i’w defnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 1939 ac mae’n parhau felly hyd heddiw, ac mae’n un o’r ardaloedd hyfforddi mwyaf yng ngwledydd Prydain. Er bod y rhan fwyaf o’r ardal ar gau i’r cyhoedd, mae ambell ffordd sydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer, ac mae’r llwybr hwn yn enghraifft o un ffordd odidog ar draws yr ardal.

O Lanymddyfri ewch i gyfeiriad de-ddwyreiniol tuag at Drecastell ar yr A483, ac mae’r ffordd yn dringo’n raddol am bron i 10 cilomedr, ond er ei bod yn ffordd-A , mae’r ardal o’i chwmpas a natur y ffordd wrth iddi ymdroelli trwy ddyffrynnoedd bychain yn ei gwneud yn reid ddymunol ac yn ddechrau da.

Mae’r hwyl yn dechrau wrth i’r ffordd droi i’r chwith oddi ar y ffordd-A ym mhentref Llywel. Mae’r ffordd yn dringo’n syth, ac mae’r graddiant yn serth ar y cychwyn. Yr hyn sy’n gwneud y ffordd hon yn wahanol yw ei bod yn ffordd ddeuol un lôn, sydd bron yn sicr yn ei gwneud yn un o’r ychydig rai o’i math yng ngwledydd Prydain. Pwrpas ffordd o’r math yma yw galluogi traffig milwrol i fynd i fyny i’r ardal fynyddig o’i blaen. Mae’r ddringfa yn un heriol, sef 2km ar 7%, ond mae’r darn cyntaf dros 15% a gall fod yn wirioneddol anodd.

O’r copa mae’r faner goch sy’n cyhwfan yn eich croesawu i ardal y Weinyddiaeth Amddiffyn ac mae arwyddion rhybudd i’w gweld ymhobman. Er hynny, mae’r ffordd hon ar agor i’r cyhoedd bron drwy’r amser, ond mae popeth arall ar gau. Yr hyn sy’n ei gwneud mor dda yw cymysgedd o olygfeydd gwych draw i Fannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria ac ansawdd gwych wyneb y ffordd. Mae’r cyfan yn dir agored, a chan ei bod ar dir gweddol uchel mae gwynt yn gallu bod yn ffactor, felly gobeithiwch am ôl-wynt!

Wedi pasio ardal a elwir yn Dixes Corner mae’r ffordd yn dechrau disgyn, ac os edrychwch i’r dde bydd y pentref Almaenaidd i’w weld yn glir. Nid yw’n rhywbeth y byddech yn disgwyl ei weld yng nghanolbarth Cymru! Nid oes neb yn byw ynddo ac fe godwyd y ffug bentref hwn yn ystod cyfnod y rhyfel oer ac mae’n ardal hyfforddi fyw i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer ymladd agos. Mae nifer o lecynnau ymarfer saethu yn agos at y ffordd, felly peidiwch â phoeni gormod os clywch sŵn gynnau’n tanio wrth ichi reidio.

Mae’r ffordd yn troelli ac yna’n disgyn i bentref Tirabad, ar ymyl ardal hyfforddi’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae’r daith yn parhau’n un ddymunol wrth iddi dorri trwy ardal coedwig Crychan cyn mynd ar i lawr i’r A483. Mae’r ychydig gilomedrau olaf yn ddarn cymharol rwydd yn ôl i Lanymddyfri

Uchafbwyntiau

Dringfa Llywel – Dringfa fileinig i fyny ffordd ddeuol un lôn

Mynydd Epynt – Darn prydferth dros dirwedd agored a golygfeydd godidog, ac os oes gennych lygaid barcud, chwiliwch am y pentref Almaenaidd

Cyfle am hoe

Llanymddyfri – Ystafelloedd Te Penygawse

Llanymddyfri – Caffi’r Ganolfan Grefftau

Llanymddyfri – West End Cafe

 

Gwybodaeth ddefnyddiol

County Cycles – Siop feiciau, Cross Hands

Cycle-tec – Siop feiciau – Llanfair-ym-Muallt