Llwybr sy’n cynnwys un o’r ffyrdd uchaf yng Nghymru

Cychwyn: Llanymddyfri

Cyfanswm Pellter: 67km/41 milltir

Cyfanswm Dringo: 1150m/3775tr

Lefel Anhawster: 6/10

Amcangyfrif Amser: 3 i 5awr

Route map for Black Mountain - Llandovery (M4) by Discover Carmarthenshire on plotaroute.com

 

Cyfarwyddiadau

O Faes Parcio Llanymddyfri ewch allan i’r A40 a throwch bron yn syth i’r A4069, arwydd Llangadog. Dilynwch i Langadog, yna trowch i’r dde, arwydd Brynaman ynghanol y pentref. Dilynwch y ffordd dros y Mynydd Du i Frynaman ac yn y gylchfan fach trowch i’r dde. Ewch ymlaen i gyffordd-t yng Ngwauncaegurwen a throwch i’r dde.

Dilynwch am 3.5km i bentref Glanaman, trowch i’r dde i Ffordd y Nant, arwydd Swyddfeydd Cyngor.  Ewch ymlaen ar y ffordd a dringwch i fyny i Heol y Mynydd. Wedi cyrraedd y copa, ewch yn eich blaen at gyffordd-t a throwch i’r dde ac yna ewch drwy bentref bychan ac ewch ymlaen am 4.5km cyn cyrraedd pentref Derwydd. Wrth ichi ddod i mewn i'r pentref a chyn y gyffordd-t, trowch i’r dde i is-ffordd. Dringwch i fyny bryn bychan ac yna i lawr i gyffordd-t yn Ffair-fach. Trowch i’r dde yn y gyffordd-t, ewch ymlaen i’r gylchfan fach a throwch i’r dde.

Dilynwch yr is-ffordd trwy Fethlehem ac i gyrion Llangadog. Yn y gyffordd-t yn fuan ar ôl croesiad afon, trowch i’r chwith i bentref Llangadog ac yn y gyffordd-t ynghanol y pentref trowch i’r dde. Dilynwch am 100 metr, yna trowch i’r dde i is-ffordd. Ar ôl 5km mae’r ffordd yn troi 90 gradd i’r dde gyda chyffordd a ffordd yn mynd yn syth yn ei blaen ac ar i fyny. Cymerwch y ffordd hon, ewch ymlaen i fyny’r bryn ac i lawr i gyffordd-t a throwch i’r dde. Dilynwch y ffordd yn ôl i Lanymddyfri.

Os mai taith dawel trwy un o berlau cudd Cymru yw eich syniad chi o reid berffaith bydd y daith hon i fyny’r Tywi ac i mewn i ddyffryn Cothi yn un a gofiwch am amser maith.

Mae Llanymddyfri yn dref lle y mae afonydd yn rhan bwysig o’i bywyd gan fod dim llai na 4 afon yn rhedeg drwyddi. Y fwyaf ohonynt yw Afon Tywi, sy’n un o’r afonydd hiraf yng Nghymru a’r hiraf o blith afonydd sy’n aros yn gyfan gwbl yng Nghymru; mae ei tharddiad ym Mynyddoedd Cambria i’r Gogledd ac aiff i mewn i’r môr yn Llansteffan.

Wedi gadael Llanymddyfri mae’r daith yn dilyn llwybr yr afon gan gynnig golygfeydd o’r rhaeadrau sy’n llifo’n sianeli dwfn yn y graig a phontydd gwych sydd i’w gweld yma a thraw. Mae’n daith ddymunol, hamddenol trwy Gil-y-cwm ac i fyny i Bont Tywi, ac yno mae’r reid yn dechrau newid wrth iddi adael y Tywi a chrwydro i dirweddau mwy gwyllt.

Mae’r ffordd yn dringo’n raddol, ac er nad yw fyth yn cyrraedd uchelfannau, mae natur a thawelwch y ffordd yn gwneud iddi deimlo’n uwch a mwy gwyllt. O fan ucha’r daith mae’n dechrau dilyn Afon Cothi, afon llawer llai sy’n llifo yn y pendraw i’r Tywi ger Caerfyrddin a’r dyffryn sy’n cynnig golygfeydd ar hyd y daith i lawr yr afon. Wrth i’r ffordd fynd ar i lawr, gan groesi’r afon fwy nac unwaith a thrwy goetiroedd hynafol, aiff heibio Dolaucothi, un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a lleoliad cyn fwynglawdd aur sy’n dyddio’n ôl dros 2000 o flynyddoedd i gyfnod y Rhufeiniaid. Mae’n gyrchfan wych i’r teulu cyfan, gan gynnwys ogofáu i’w harchwilio ac aur i’w ddarganfod.

O Ddolaucothi, ger Pumsaint mae’r llwybr yn ail-ymuno â ffyrdd lletach am beth amser ac un ddringfa fawr cyn dianc i ffyrdd tawelach yn fuan wedi dechrau mynd ar i lawr. Wrth basio trwy bentref Porth-y-rhyd mae’r ffordd yn dechrau mynd ar i lawr, ac felly y mae bron yr holl ffordd yn ôl i Lanymddyfri. Disgyniad troellog, tonnog sy’n dechrau gyda golygfeydd draw i Fannau Brycheiniog, trwy goetiroedd bychain ac yn gorffen trwy groesi Afon Tywi unwaith eto cyn dilyn y filltir olaf yn ôl i Lanymddyfri. Taith wych i unrhyw un sy’n hoff o grwydro’r anialdir.

Uchafbwyntiau

Mynydd Du – Dringfa hir, drawiadol y gallai pob beiciwr ei mwynhau

Dringfa Heol y Mynydd – O dref Glanaman mae dringfa 2km @ 7% yn her

Bethlehem - Poblogaidd adeg y Nadolig gan fod y gyn swyddfa bost yn dal i stampio cardiau, ac mae hefyd yn ddringfa fer ond serth sy’n cael ei chynnwys mewn nifer o rasys proffesiynol.

 

Cyfle am hoe

Llangadog – Swyddfa Bost a Siop y Pentref

Llangadog – Siop bentref Mace

Brynaman – Canolfan y Mynydd Du a Chaffi (ar y gylchfan fach)

Llanymddyfri – Ystafelloedd Te Penygawse

Llanymddyfri – Caffi’r Ganolfan Grefftau

Llanymddyfri – West End Cafe

Gwybodaeth ddefnyddiol

County Cycles – Siop feiciau, Cross Hands

Cycle-tec – Siop feiciau – Llanfair-ym-Muallt