English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llangamarch ac Epynt

Anialdir a dringfeydd mawr yn arwain at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Cychwyn: Llanymddyfri

Cyfanswm Pellter: 83km/51 milltir

Cyfanswm Dringo: 1345m/4410tr

Lefel Anhawster: 7/10

Amcangyfrif Amser: 3.5 i 5.5awr

Route map for Llangammarch & Epynt - Llandovery (T3) by Discover Carmarthenshire on plotaroute.com

Mae Epynt yn ardal o dir uchel sydd wedi aros bron yn gyfan gwbl wyllt gan fod y rhan fwyaf ohoni yn eiddo’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac yn gaeëdig i’r cyhoedd. Ychydig ffyrdd trwyddi sy’n agored i’r cyhoedd, ac mae’r llwybr hwn yn defnyddio’r ffordd i’r gogledd.

O Lanymddyfri mae’r 10km cyntaf ar yr A483 i Gynghordy yn donnog ond nid yn gas, ond unwaith yr ewch oddi arni i is-ffyrdd mae’r ffordd yn mynd yn fwy serth. Mae’r darn i bentref Tirabad yn ddarn dymunol iawn, y rhan fwyaf ar i fyny ond yn bert iawn wrth i’r ffordd godi. Mae darnau o’r ffordd yng Nghoedwig Crychan, ac ar adegau mae’r coed yn agos iawn at y ffordd.

Mae’r ffordd dawel yn rhedeg yr holl ffordd i Langamarch, un o 4 tref sba yn y Canolbarth, ac yn  Llangamarch mae hynny oherwydd ffynnon bariwm a gaewyd erbyn hyn. Mae’r ffordd yn dechrau dringo ar ôl gadael Llangamarch, ac yn fuan wedyn mae’r ddringfa i fyny Bryn Pennau yn cychwyn. Mae tro neu ddau yn is i lawr y mynydd yn arwain at un darn hir iawn ar i fyny; mae’r faner goch i’w gweld ymhellach i fyny a’r darn hwn yw dechrau ardal hyfforddiant y Weinyddiaeth Amddiffyn ynghyd â darn yn agos at ben y ddringfa. Mae Mynydd Epynt yn ardal llawn pantiau a bryniau, ac mae hynny’n sicr yn wir am y darn gogleddol hwn.

Ewch heibio ambell fan nodedig ar y daith, gan gynnwys y Drovers Arms, sydd erbyn hyn yn gyn dafarn wag gyda’r arwydd yn dal arni, ac mae’n parhau’n fan cyfarfod hyd heddiw, er mai milwyr yn ymarfer sy’n ymgasglu yno erbyn hyn. Tua chilomedr yn ddiweddarach aiff y ffordd heibio’r hyn a fu unwaith yn ffermdy, ond sydd erbyn hyn yn ganolfan sylfaenol yn cynnwys tai bach a rhywfaint o wybodaeth am ardal Epynt.

Mae’r darn o Gapel Uchaf i’r tro i Gradoc yn weddol gyflym gan fod llawer ohono yn ddisgyniad graddol, gydag ôl-wynt y tu cefn ichi, gobeithio. O Gradoc i Aberbrân mae’r llwybr ar ffordd dawel sydd weithiau’n gul, ond mae’r darn hwn yn golygu osgoi Aberhonddu a darn o ffordd prysurach.

Mae’r darn olaf ar ôl ymuno â’r A40 yn fuan wedi Aberbrân yn mynd ymlaen i Bont Senni ac yna i Drecastell. Mae’r A40 yn gefnffordd ac yn un sy’n rhedeg o Lundain i Ddoc Penfro, a’r fan hon, ychydig y tu allan i Drecastell, yw man uchaf y ffordd gyfan. Y newyddion da yw bod y daith gyfan oddi yma i Lanymddyfri yn ddisgyniad graddol, a chan nad oes unrhyw ddringfeydd o bwys i boeni amdanynt, dylai olygu diweddglo didrafferth i’r daith.

Cyfarwyddiadau

O Faes Parcio Llanymddyfri ewch allan i’r A40 a’i dilyn am 300 metr, yna trowch i’r dde (cyn  y groesfan reilffordd) i’r A483, arwydd Llanfair-ym-Muallt. Ewch yn eich blaen am 7km ac wrth ichi ddod i Gynghordy, trowch i’r dde ar gyffordd gas ar ael bryn, arwydd Tirabad. Ewch yn eich blaen ar i fyny trwy Dirabad ac ymlaen i Langamarch. Yn y gyffordd-t, trowch i’r dde a dilynwch y ffordd am 2.5km i fyny at groesffordd. Trowch i’r dde a dilynwch y ffordd i fyny Bryn Pennau ac i Fynydd Epynt. Ewch yn eich blaen dros dir agored ac i Gapel Uchaf.

Wrth i’r ffordd ddod at Gapel Uchaf fe ddewch i gyffordd-t a throwch i’r dde. Dilynwch y ffordd am 12km, trwy Gapel Isaf a Llandefaelog. Yn fuan wedyn, trowch i’r dde, arwydd Cradoc i is-ffordd. Ewch yn eich blaen i Gradoc, trowch i’r dde yn y gyffordd yng Nghradoc ac i’r chwith bron yn syth, arwydd Aberysgir. Ewch yn eich blaen trwy bentrefi Aberysgir ac Aberbrân.

Wrth ichi fynd trwy Aberbrân, croeswch bont garreg gul ac yn fuan wedyn trowch i’r chwith, arwydd Aberhonddu. Ewch yn eich blaen i’r gyffordd-t a throwch i’r dde i’r A40, arwydd Pont Senni. Dilynwch yr A40 yn ôl i Lanymddyfri a throwch i’r chwith yn union cyn y Castle Hotel i fynd i mewn i’r maes parcio.

Uchafbwyntiau

Mynydd Epynt – Mae rhan ogleddol Epynt yn ardal hardd er braidd yn llwm, gan ddibynnu ar y tywydd

Bryn Pennau – Darn syth, hir gyda baner goch fawr ar y brig; dringfa heriol

Tirabad – Pentref bychan a amgylchynir gan ardal y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ffyrdd tonnog, tawel am filltiroedd.

Cyfle am hoe

Llangamarch – Siop y pentref

Pont Senni – Swyddfa Bost a siop y pentref

Pont Senni – Gorsaf betrol Olew Dros Gymru, siop a chaffi

Llanymddyfri – Ystafelloedd Te Penygawse

Llanymddyfri – Caffi’r Ganolfan Grefftau

Llanymddyfri – West End Cafe

Gwybodaeth ddefnyddiol

County Cycles – Siop feiciau, Cross Hands

Cycle-tec – Siop feiciau – Llanfair-ym-Muallt