English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Grisiau’r Diafol

Cychwyn: Llanymddyfri

Cyfanswm Pellter: 73km/45 milltir

Cyfanswm Dringo: 1366m/4480tr

Lefel Anhawster: 7/10

Amcangyfrif Amser: 3 i 5awr

Route map for Devils Staircase - Llandovery (T1) by Discover Carmarthenshire on plotaroute.com

Cyfarwyddiadau

O Faes Parcio Llanymddyfri ewch i’r A40 ac ewch ymlaen am 300 metr, ac yna trowch i’r dde (cyn y groesfan reilffordd) i’r A483, arwydd Llanfair-ym-Muallt. Ewch yn eich blaen am 7km ac wrth ichi fynd i mewn i Gynghordy, trowch i’r dde ar gyffordd gas ar ael y bryn, arwydd Tirabad. Ewch yn eich blaen i fyny’r rhiw a thrwy Dirabad i bentref Cefn Gorwydd. Trowch i’r chwith, arwydd Llanwrtyd ac ewch ymlaen i’r dref. Trowch i’r dde yn y gyffordd-t i mewn i ganol y dref, ac yna trowch i’r chwith yn union wedi pont yr afon Irfon, arwydd Abergwesyn.

Dilynwch yr is-ffordd am 8km i Abergwesyn, ac yna trowch i’r chwith, arwydd Llyn Brianne. Dilynwch yr is-ffordd dros Risiau’r Diafol. Wrth i’r disgyniad serth ddod i ben, trowch i’r chwith tuag at Lyn Brianne ac ewch yn eich blaen o gwmpas Llyn Brianne. Ewch yn eich blaen ar ddisgyniad hir ar ôl y gronfa ddŵr ac ychydig gannoedd o fetrau ar ôl y safle gwersylla, trowch i’r dde (diarwydd). Ewch dros afon Tywi i gyffordd-t yn y Towy Bridge Inn.

Trowch i’r chwith ar Bont Tywi, ac ewch yn eich blaen trwy Gil-y-cwm. Wedi’r pentref, ewch yn eich blaen ar y ffordd heb droi oddi arni am tua 1.5km i gyffordd-t yn union wedi pont garreg grwb. Trowch i’r dde, arwydd Llanymddyfri a dilynwch y ffordd am ychydig dros 4km yn ôl i  Lanymddyfri. Ewch yn syth dros y groesffordd tuag at Stryd Cerrig ac ewch ymlaen i gyffordd-t ger y Ganolfan Grefftau. Trowch i’r dde, ac ar ôl 100 metr trowch i’r chwith yn union cyn y Castle

Os oes reid “rhaid ei gwneud” o Lanymddyfri ar gyfer reidwyr sy’n gyfforddus â thirwedd fwy heriol, mae angen rhoi’r llwybr hwn ar ben y rhestr. Mae’n cysylltu ambell ddringfa galed gydag un go enwog, Grisiau’r Diafol. Yna aiff y llwybr o gwmpas Llyn Brianne, un o’r ffyrdd gorau i reidio arni yng Nghymru gyfan.

O Lanymddyfri, am y 7km cyntaf mae’r llwybr yn glynu at ffordd-A brysurach, gan mai hwn yw’r unig lwybr rhesymol allan i’r gogledd ddwyrain. Mae’r A483 yn gallu bod yn brysur ar adegau, ond yn gyffredinol ac o gymharu â’r rhan fwyaf o ffyrdd-A mae’n ddigon derbyniol ac mae’r ymdrech yn talu ar ei chanfed yn ddiweddarach. Ar ôl troi i ffwrdd wrth i’r ffordd fynd i mewn i Gynghordy ac ar ffyrdd culach a thawelach, mae’n dechrau dringo’n syth ac mae gradd a hyd y ddringfa hon yn ei gwneud yn galed, ar gyfartaledd o 6% am 3km. Ar y copa bydd Coedwig Crychan yn dechrau ymddangos o’ch blaen, ac mae’r ffordd yn mynd trwy ddarn o’r goedwig hon ac ymlaen i Dirabad, pentref sy’n eistedd ar gyrion ardal y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhont Senni, ac o gofio fod ardaloedd ymarfer saethu gerllaw peidiwch â phoeni gormod os clywch sŵn gynnau’n tanio!

Ar ôl ychydig gilomedrau eraill yn gwibio ar hyd y ffyrdd yn ardal y goedwig, mae’r llwybr yn cyrraedd pentref bychan Cefn Gorwydd ac oddi yma mae’n troi i’r chwith ac ymlaen i Lanwrtyd. Mae’r dref, sydd ym Mhowys, yn un o’r rhai lleiaf yng ngwledydd Prydain a daeth yn enwog am rai o’r gemau a gwyliau mwy gwahanol sy’n cael eu cynnal yno, gan gynnwys ras Dyn v Ceffyl a Phencampwriaethau Byd Snorclo Corsydd ymhlith llawer eraill!

Mae’r reid o Lanwrtyd ar hyd afon Irfon i Abergwesyn yn reid hyfryd ac mae’n rhoi cyfle ichi baratoi ar gyfer yr heriau llawer caletach sydd o’ch blaenau. Ar ôl troi yn Abergwesyn mae’r ffordd yn dechrau mynd yn anwastad, gydag un ddringfa galed yn syth gydag un o’r darnau dyffryn harddaf a welwch wrth ichi fynd i fyny darn gogleddol afon Irfon. Mae’r olygfa yn anhygoel, ond wrth ichi reidio fe sylwch nad oes ffordd rwydd allan, a’r hyn sydd o’ch blaen yw Grisiau’r Diafol. Erbyn hyn gellir ei gweld o’r gwaelod oherwydd y torrwyd coed yn ddiweddar, ac mae graddiant y ffordd yn mynd i fyny i 25% ac mae’r darnau mwyaf serth ar y gwaelod. Nid yw’r cyfan yn fawr mwy nac 1km ac mae ambell ddarn gwastad neu wastatach ichi gael rhywfaint o hoe, ond yn gyffredinol mae’n rhiw serth gwirioneddol heriol.

Mae’r disgyniad ar yr ochr arall yr un mor serth ac yn un y dylid bod yn ofalus arno, cyn troi i’r chwith wrth i’r graddiant ddechrau lleihau a dilyn y ffordd tuag at Lyn Brianne. Crëwyd y gronfa ddŵr yn yr 1960au a chafodd nifer o ffermydd a thai eu boddi yn y broses. Yn achlysurol iawn, 3 neu 4 gwaith ers iddi gael ei hadeiladu a dim ond mewn cyfnod o dywydd sych iawn, daw un ffermdy i’r golwg, gan roi rhyw syniad o sut fyddai’r dirwedd wedi edrych cyn y gronfa ddŵr a chyn i’r coedwigoedd gael eu plannu. Cafodd llawer o’r coed eu torri yn y blynyddoedd diwethaf, sy’n agor golygfeydd wrth ichi reidio a mynd o gwmpas ymylon y dŵr. Mae’r darn hwn yn un o’r ffyrdd gorau yng Nghymru gyfan, gan ei bod yn dawel ond ei chyflwr yn dda a chyfres ddiddiwedd o fryniau i’w dringo a’u disgyn.

Mae’r reid i weld wal yr argae yn ddargyfeiriad byr oddi ar y llwybr, ond mae’n werth ei gwneud os nad ydych wedi’i weld o’r blaen. Mae disgyniad cyflym yn mynd â chi lawr tuag at Randir-mwyn, gan ymuno â llwybr afon Tywi yr ydych yn ei dilyn trwy bentref Cil-y-cwm ac yn ôl i’r diwedd yn Llanymddyfri i gwblhau taith arbennig iawn.

Uchafbwyntiau

Grisiau’r Diafol – Dringfa heriol, serth yn cynnwys rampiau i fyny at 25%

Llyn Brianne – Diarffordd, ffyrdd tawel a golygfeydd rhyfeddol i bob cyfeiriad

Cwm Irfon – Wrth adael Llanwrtyd ac wrth ddringo’n uwch, mae’r ffordd yn reid ddymunol, ac mae’r darn mwyaf trawiadol yn union cyn Grisiau’r Diafol

 

Cyfle am hoe

Llanwrtyd – Siop gyffredinol Spar

Llanwrtyd – Caffi Sosban Cafe

Rhandirmwyn – Towy Bridge Inn

Cilycwm – Neuadd Fawr Arms

Llanymddyfri – Ystafelloedd Te Penygawse

Llanymddyfri – Caffi’r Ganolfan Grefftau

Llanymddyfri – West End Cafe

Gwybodaeth ddefnyddiol

County Cycles – Siop feiciau, Cross Hands

Cycle-tec – Siop feiciau – Llanfair-ym-Muallt