English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Dyffrynnoedd Tywi a Chothi

Llwybr gwyllt a dringfeydd heriol, digon o ffyrdd un lôn tawel a chestyll gwych i’w gweld ar hyd y daith

Cychwyn: Llanymddyfri

Cyfanswm Pellter: 92km/57 milltir

Cyfanswm Dringo: 1542m/5060tr

Lefel Anhawster: 8/10

Amcangyfrif Amser: 3.5 i 6awr

Route map for Towy & Cothi Valley - Llandovery (T4) by Discover Carmarthenshire on plotaroute.com

Cyfarwyddiadau

O Faes Parcio Llanymddyfri ewch allan i’r A40 a’i dilyn am 800 metr. Yn syth wedi croesi’r Afon Tywi trowch i’r dde i is-ffordd, arwydd Cil-y-cwm. Dilynwch y ffordd am 1.3km, ac yna trowch i’r chwith yn y gyffordd-t. Ewch yn eich blaen i fyny i Siloh ac ymlaen i Borth-y-rhyd. 1km wedyn fe ddewch i gyffordd-t, trowch i’r dde i’r A482 a’i dilyn am 2km. Wrth i’r ffordd ddechrau mynd ar i lawr, trowch i’r dde i is-ffordd (diarwydd).

Dilynwch ar i lawr nes ichi gyrraedd croesffordd groesgam. Ewch yn syth ar ei thraws (chwith, yn syth i’r dde), arwydd Llansawel. Ewch yn eich blaen i bentref Llansawel, gan gyrraedd yn y canol ar gyffordd-t a throwch i’r dde i fyny bryn byr ac yna trowch i’r chwith cyn y capel, arwydd Abergorlech. Ewch yn eich blaen ar hyd yr B4310 trwy bentrefi Abergorlech a Brechfa ac ymlaen i Nantgaredig.

Fe gyrhaeddwch groesffordd, ac ewch yn syth yn eich blaen dros yr A40 a thrwy’r pentref. Croeswch y Tywi dros bont garreg ac i fyny bryn byr i gyffordd-t. Trowch i’r dde ac ewch yn eich blaen am 7km, yna trowch i’r dde, arwydd Maes-y-bont i’r B4297. Ewch ymlaen dros y mynydd, trwy bentref Maes-y-bont gan fynd i gyfeiriad mast mawr drwy’r amser. 1km ar ôl pentref Maes-y-bont trowch i’r chwith i is-ffordd (diarwydd), yna trowch i’r dde bron yn syth wedyn (diarwydd).  Ar ôl 1km fe gyrhaeddwch gyffordd ac ewch yn syth ar ei thraws, arwydd Llandybïe. Ewch ymlaen trwy Bentregwenlais ac fe gyrhaeddwch gyffordd-t ar gyrion Llandybïe.

Trowch i’r dde, dilynwch yr A483 i mewn i’r pentref a throwch i’r chwith yn fuan wedyn ac ewch heibio tafarn y Llew Coch. Yn union wedi pasio eglwys trowch i’r chwith i Heol yr Orsaf, arwydd Castell Carreg Cennen ac ewch yn eich blaen am 3km i gyffordd. Trowch i’r dde ac yn fuan wedyn i’r chwith, arwydd Trap / Castell Carreg Cennen ac ewch ymlaen i bentref Trap. Fe gyrhaeddwch gyffordd-t yn y pentref, trowch i’r chwith ac yn syth i’r chwith eto gan ddilyn arwyddion ar gyfer Gwynfe / Castell Carreg Cennen a dilynwch yr is-ffordd am 5km. Wrth i’r ffordd basio capel ar y dde, mae’n troi’n syth i’r chwith, trowch i’r dde, arwydd Gwynfe. Ewch yn eich blaen trwy bentref Gwynfe ac yn fuan wedyn ewch ar i lawr i gyffordd. Trowch i’r chwith i’r A4069, a’i dilyn i Langadog. Ynghanol y pentref trowch i’r dde yn y gyffordd-t i’r A4069, arwydd Llanymddyfri a’i dilyn am 10km yn ôl i Lanymddyfri.

Mewn ardal wledig mae llawer o’r llwybrau beicio o Lanymddyfri yn rhwydd iawn i’w dilyn, ac nid oes gan rai o lwybrau Darganfod Sir Gâr fwy na 3 neu 4 tro o fewn pellter hir, ac er bod rhywbeth braf iawn am symlrwydd o’r fath gan fod technoleg fodern mor ddatblygedig a chan fod cymaint o ffyrdd i’w crwydro, mae angen rhywfaint mwy o arweiniad ar rai llwybrau, ac mae llwybr hirach y Tywi a Chothi yn un o’r rheiny. Gan fod gan lawer o gyfrifiaduron systemau gwe-lywio tro-wrth-dro a llwybro ffeil GPX erbyn hyn, mae’r llwybr hwn yn berffaith ar gyfer eu profi gan fod angen rhywfaint mwy o we-lywio i ddarganfod rhai o’r ffyrdd cuddiedig nac sydd wrth groesi’r sir.

Mae’r llwybr hefyd yn heriol ac mae digon o ddringfeydd arwyddocaol, ac mae’r cyntaf yn dechrau ychydig gilomedrau wedi gadael y dref, i fyny’r hyn a elwir yn lleol yn Henllys, a enwyd ar ôl maenordy ger y gwaelod. Mae’r ddringfa i bentref Siloh yn baratoad da ar gyfer gweddill y daith. Mae’r ffordd yn dal i ddringo wrth iddi fynd trwy Borth-y-rhyd ac un dynfa arall cyn i’r disgyniad cyntaf gwirioneddol gychwyn wrth i’r ffordd fynd ar i lawr oddi ar yr A482.

Mae darn tawelach yn dilyn i Lansawel ac ymlaen tuag at bentref Abergorlech lle y mae’r llwybr yn dechrau dilyn y Cothi i lawr yr afon. Mae’r ardal o gwmpas Abergorlech ac i fyny i Frechfa yn boblogaidd gyda beicwyr sy’n mwynhau beicio mynydd gan fod coedwig Brechfa yn cynnwys nifer o lwybrau ar gyfer pob gallu. Mae’r beicio ffordd trwy’r dyffryn yn dda hefyd, a cheir golygfeydd da a ffordd dawel i’w mwynhau. O Frechfa mae’r dringo’n dechrau eto gyda dringfa hir ond gweddol gyson allan o’r dyffryn, wrth i’r ffordd wyro oddi ar lwybr y Cothi.

Mae’r disgyniad i Nantgaredig yn gyflym ac mae digon o droeon disgynnol i’w mwynhau wrth iddo fynd trwy bentrefi Felin-gwm Isaf ac Uchaf. Croeswch yn syth ar draws yr A40 yn Nantgaredig ac mae’r llwybr yn mynd dros bont garreg hyfryd dros Afon Tywi ac ymlaen i ymuno â’r ffordd gefn dawelach rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin, reid gymharol wastad sy’n boblogaidd gyda reidwyr lleol. Mae’r llwybr yn dilyn y Tywi i fyny’r afon am gyfnod byr, gan fynd heibio’r man lle y daw’r Cothi a’r Tywi ynghyd ac ymlaen trwy bentref  Llanarthne. Uwchlaw’r dref gwelir tŵr o’r enw Tŵr Paxton, ac mae i’w weld o sawl man ar draws y sir. Mae’n ffoli, a godwyd gan Syr William Paxton tua 1805 ac er anrhydedd i’r Arglwydd Nelson. Paxton oedd perchennog Neuadd Middleton, stad gyfagos sydd erbyn hyn yn gartref i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, atyniad anhygoel sy’n cynnig gweithgareddau i’r teulu cyfan.

Wedi mynd trwy Lanarthne mae’r ffordd yn troi, gan ddringo rhiw Maes-y-bont. Mae’n ddringfa hir o fwy na 5km, ond mae’r darn caletaf yn y 2km cyntaf, ac wedi hynny mae’n dringo mewn cyfres o haenau i fyny i’r man uchaf ar tua 250m o uchder. Yna aiff y llwybr ar hyd lonydd llai tuag at Landybïe cyn dringo eto a mynd i gyfeiriad pentref Trap. Mae’r pentref ar ffiniau gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac wedi mynd trwy’r pentref daw trysor nesaf y daith i’r golwg yn fuan iawn.

Mae Castell Carreg Cennen yn guddiedig, ac er nad yw’n atyniad mor brysur â rhai cestyll eraill, gellid dadlau mai hwn yw’r castell mwyaf gweledol drawiadol yng Nghymru oherwydd ei leoliad. Fe’i codwyd ar frigiad creigiog ag iddo glogwyni serth, ac o’r herwydd mae’r mynediad iddo o un cyfeiriad yn unig, a ddylai fod wedi’i wneud yn haws i’w amddiffyn. Canfuwyd olion yn dyddio’n ôl i gyfnodau cynhanesyddol, ond codwyd y castell carreg cyntaf yn y flwyddyn 1197 a safodd tan Ryfel y Rhosynnau pan gafodd ei ddinistrio yn 1462. Castell hudol i ymweld ag ef, ac mae nifer o ogofâu wedi’u cuddio oddi tano a fyddai yn ôl y sôn wedi cael eu defnyddio yn ystod ymosodiadau ar y castell.

Mae’r ffordd sy’n pasio’r Castell yn mynd wedyn trwy bentref Gwynfe, sydd ar dir uchel o fewn Bannau Brycheiniog gan gynnig golygfeydd godidog o’r bryniau cyfagos, gan gynnwys y Mynydd Du a Bannau Sir Gaer. Gan ei fod mor uchel ceir disgyniad hir i ddilyn ac ymlaen i Langadog cyn y 10km olaf o reidio gwastad a chymharol hawdd yn ôl i Lanymddyfri i orffen.

Uchafbwyntiau

Dyffryn Cothi – Mae’r daith yn rhedeg ar hyd y dyffryn cyfan bron ac mae’n arbennig o’r dechrau i’r diwedd

Maes-y-bont – Dringfa hir a heriol allan o ddyffryn Tywi

Trap a Charreg Cennen – Pentref bychan wedi’i amgylchynu gan fryniau a chastell eiconig Carreg Cennen

Gwybodaeth ddefnyddiol

County Cycles – Siop feiciau, Cross Hands

Cycle-tec – Siop feiciau – Llanfair-ym-Muallt

Cyfle am hoe

Brechfa – Forest Arms

Brechfa – Siop y pentre

Llandybie – Siop y Co-op

Llanymddyfri – Ystafelloedd Te Penygawse

Llanymddyfri – Caffi’r Ganolfan Grefftau

Llanymddyfri – West End Cafe