English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg
Reid i fyny rhannau uchaf godidog Dyffryn Tywi

Cychwyn: Llanymddyfri

Cyfanswm Pellter: 27km/17 milltir

Cyfanswm Dringo: 300m/985tr

Lefel Anhawster: 3/10

Amcangyfrif Amser: 1 i 2 awr

Route map for Tywi Valley - Llandovery (S1) by Discover Carmarthenshire on plotaroute.com

 

Cyfarwyddiadau

O Faes Parcio Llanymddyfri ewch i’r A40 a’i dilyn am 300 metr, yna trowch i’r dde (cyn y groesfan reilffordd) i’r A483, arwydd Llanfair-ym-Muallt. Dilynwch am 400 metr, yna trowch i’r chwith, arwydd Rhandir-mwyn a Chronfa Ddŵr Llyn Brianne.

Dilynwch yr is-ffordd i Randir-mwyn, ewch ymlaen am 2km arall ac yna trowch i’r chwith a mynd ar i lawr yn serth, arwydd Cil-y-cwm. Ewch yn eich blaen dros y bont a throwch i’r chwith yn y gyffordd-t, arwydd Cil-y-cwm. Ewch trwy bentref Cil-y-cwm, ac ar ôl 1km, trowch i ffwrdd (syth ymlaen) wrth i’r ffordd droi o gwmpas coeden dderw fawr (diarwydd). Dilynwch yr is-ffordd am ychydig gilomedrau i gyffordd-t, trowch i’r chwith ac ewch yn eich blaen dros bont Dolauhirion i gyffordd-t yn syth wedyn. Trowch i’r dde ac ewch yn eich blaen yn ôl i Lanymddyfri.

Yn y groesffordd ewch yn syth ymlaen dros yr A483 i Stryd Cerrig. Ewch yn eich blaen i’r gwaelod, ac yn y gyffordd-t trowch i’r dde. Ar ôl 100 metr trowch i’r chwith i’r maes parcio i orffen.

 

I bob beiciwr yn ardal Llanymddyfri, mae’r llwybr hwn i gyfeiriad gogleddol sy’n dilyn darn o afon Tywi yn daith gyfarwydd iawn. Mae’n defnyddio ffyrdd tawelach cefn gwlad, yn ddigon pell o brysurdeb y ffyrdd prifwythiennol sy’n mynd trwy’r dref ac allan i ganol cefn gwlad.

Mae’r llwybr ar ffurfiau amrywiol wedi bod yn rhan o lwybrau beicio, cyrsiau triathlon a darn o ddigwyddiadau sportive ac audax di-rif. O Lanymddyfri mae’r dechrau’n hamddenol, gan ddilyn yr afon heb unrhyw ddringo am sawl cilomedr, sy’n gyfle da i dwymo. Mae’r llwybr yn mynd dros Ddolauhirion, pont garreg hardd, a allai wneud dolen braf, er yn un fer iawn, ynddi’i hun. Wrth symud i gyfeiriad gogleddol nid yw’n hawdd gweld y Tywi, er nad yw fyth fwy nac ychydig fetrau i ffwrdd nes ichi ddod at Bont Newydd, pont garreg grwb arall y mae’r llwybr yn mynd heibio iddi.

O’r fan yma mae’r afon i’w gweld o bryd i’w gilydd a dyma hefyd fan cychwyn rhywfaint o ddringo wrth ichi agosáu at Randir-mwyn. Nid yw’n rhy serth diolch byth, ond mae’r ddringfa’n raddol am ychydig gilomedrau, ac mae’r golygfeydd o’r mannau uwch werth yr ymdrech. O’r man uchel hwn mae’n reid gyflym drwy’r coed, gyda disgyniad cyflym olaf i Randir-mwyn. Mae’r rhan fwyaf o’r pentref yn guddiedig, naill ai o dan neu uwchlaw’r ffordd a hwn yw’r pentref neu bentrefan olaf yn rhan uchaf dyffryn Tywi.

O Randir-mwyn cewch rai cilomedrau rhwydd at y gyffordd lle y mae’r ffordd yn dechrau ar ei ffordd yn ôl. Os ewch yn eich blaen dewch i Lyn Brianne, a dringfa heriol i fyny at yr argae a’r slipffordd i’r sawl sy’n rhoi cynnig arni. Fodd bynnag, ar gyfer y llwybr hwn mae’r ffordd yn troi i groesi’r Tywi am y tro cyntaf ger y dafarn leol o’r enw’r Tywi Bridge.

Mae’r ffordd yn donnog gydag ambell ddringfa fydd yn golygu fod angen rhywfaint o ymdrech, heibio coedwig Cwm Rhaeadr, sy’n fan poblogaidd ac adnabyddus i feicwyr mynydd a cherddwyr, ac ymlaen i Gil-y-cwm. Wedi mynd trwy Gil-y-cwm mae’r llwybr yn troi i ffwrdd, yn mynd yn syth ymlaen ac yn fuan wedyn i mewn i’r coed yn edrych i lawr ar y Tywi oddi tani. Wedi gadael y darn coediog ac ymuno â ffordd letach, mae’n croesi’n ôl dros bont Dolauhirion ac yna’n troi i’r dde, a daw’r daith i ben gydag ychydig gilomedrau cyflym o reidio rhwydd yn ôl i’r dref i orffen.

Uchafbwyntiau

Rhandirmwyn –Pentref hyfryd yn rhannau uchaf Dyffryn Tywi

Pont Dolauhirion – Pont garreg grwb hanesyddol sy’n enwog yn lleol

Rhiw Blwch Ffôn – Yr unig ddringfa o bwys ar y daith, a daeth yr enw o’r ffaith fod blwch ffôn coch eiconig yn agos at y copa.

Gwybodaeth ddefnyddiol

County Cycles – Siop feiciau, Cross Hands

Cycle-tec – Siop feiciau – Llanfair-ym-Muallt

Useful info

County Cycles – Bike shop, Cross Hands