English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybr selogion Un Bore Mercher 'Keeping Faith' yn Sir Gaerfyrddin

Yn galw ar holl selogion y rhaglen Un Bore Mercher... Cydiwch yn eich côt law Joules (lliw aur wrth gwrs) a gwisgwch eich 'sgidiau ymarfer a dilyn ein hoff gyfreithwraig, Faith Howells, ar daith 'mannau ffilmio' Un Bore Mercher yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r llwybr yn cynnwys y prif fannau yn y sir a ddefnyddiwyd yng nghyfres gyntaf y ddrama boblogaidd iawn a ddarlledwyd ar y BBC/S4C. Mae'r ‘Ffyddloniaid', fel rydym wedi enwi selogion y rhaglen, eisoes wedi bod yn heidio i aber hardd Talacharn, sef lleoliad tref ffuglennol 'Abercorran' sy'n gartref i Faith. Yma, maent wedi bod yn tynnu hun-luniau yn eu cotiau glaw ac yn edmygu'r un golygfeydd godidog â'r actores Eve Myles yn y ddrama – aber Afon Taf a'r castell trawiadol.

Ond lle yn union mae'r lleoliadau hardd go iawn? Dewch i weld ar Lwybr Selogion Un Bore Mercher, sydd hefyd yn ymweld ag un neu ddau le newydd a ddefnyddir yn yr ail gyfres, a fydd ar y sgrin fis nesaf (Mai). Ac am hwyl, mae hefyd ychydig o ddyfalu - ble oedd ei gŵr, Evan, yn mynd ar ddiwedd Cyfres 1 er enghraifft. Rydym methu aros am y rhan nesaf o'r dirgelwch cyffrous hwn!

Yn y cyfamser, dewch i fwynhau darganfod cyfrinachau'r gornel fach hon o orllewin Cymru; y trefi llewyrchus a'r pentrefi heddychlon, y tafarndai prysur a'r gwestai gwledig, arfordiroedd dramatig a chefn gwlad heb ei hagru, porthladdoedd prysur a thraethellau cudd...

Talacharn

Bydd y daith yn dechrau yng Ngwesty Brown's. Yn y fan hon dechreuodd Cyfres 1 cyn i'r ddrama gychwyn mewn gwirionedd, lle roedd Faith a'i ffrind gorau, Lisa, yn eistedd wrth y ffenestr yn y bar yn trafod noson allan roeddent wedi bod arni. Y Gwesty Brown's go iawn yw canolbwynt cymdeithasol y dref arfordirol hynod hon, a hwn oedd hoff man yfed bardd ac awdur enwocaf Cymru, Dylan Thomas. Ewch am dro lawr Stryd Cliffton, a ddefnyddiwyd mewn llawer o olygfeydd, ac ewch i Stryd y Farchnad i weld practis Cyfreithwyr Howells.

Ewch lawr Stryd Newbridge i gael golwg ar yr hyfryd Cors Country House, lle cafodd mam a chwaer Evan sgwrs ddofn ym Mhennod 3. Er ei fod bellach ar agor fel bwyty, gall selogion aros am ennyd i gael llun wrth y fynedfa cyn cael yr hun-lun hollbwysig gyda'r castell a'r aber yn y cefndir, lle galwodd Faith yr heddlu gyntaf i roi gwybod bod Evan wedi diflannu. Rydych chi nawr yn ddigon ffodus i gael rhentu'r bwthyn gwyliau hwn.

Nesaf, dilynwch Heol Stoneway i weld tŷ Faith. Mae'r olygfa allanol hon mewn sawl golygfa allweddol, ac mae Faith i'w gweld yn aml ar y teras yn sipian gwin gwyn wrth iddi geisio datgelu'r dirgelwch sy'n amgylchynu ei theulu. (Noder: ffordd breifat a phreswyl yw hon sy'n cynnwys rhiw serth. A fyddech cystal â pharchu preifatrwydd y preswylwyr ac aros ar y llwybr.

Tra byddwch yn yr ardal, ewch i weld cartref gwraig arall sydd wedi bod drwy'r felin! Bu Dylan Thomas a'i wraig Caitlin yn byw yn Y Boathouse gyda'u teulu ifanc am flynyddoedd lawer. Cadwch lygad am Sied Ysgrifennu Dylan hefyd, ar y clogwyn lle cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu peth o'i waith enwocaf.

 

Pentywyn

Ewch i'r arfordir a thraeth gogoneddus Pentywyn, sydd â saith milltir o dywod. Mae'r traeth wedi bod yn ganolog i lawer o brif olygfeydd y gyfres.

Eisteddwch ar y grisiau sy'n arwain i lawr at y traeth – dyma lle roedd Faith yn dal Rhodri, ei baban, wrth edrych allan i'r môr, yn hel atgofion am yr adegau hapus roedd y teulu wedi eu mwynhau yno yn y gorffennol. Yn ogystal â bod yn un o draethau hiraf Cymru, hwn hefyd oedd y man lle cofleidiodd Faith a Baldini am y tro cyntaf, felly mae'n lle perffaith i gael moment ramantus!

Fodd bynnag, y peth enwocaf am yr ardal hon yw record cyflymder y byd dros dir. Torrwyd y record deirgwaith yma gan Syr Malcom Campbell yn yr 1920au a dwywaith gan ei brif elyn, J G Parry. Gall ymwelwyr fentro i'r dŵr i nofio, neu geisio croesi'r traeth ar fad hwylio ar dir neu ar gefn ceffyl.

Os byddwch am gadw o'r golwg am ychydig, fel Evan, mae llawer o 'draethau cudd' yn yr ardal. Mae rhai sy'n hygyrch ar droed yn unig a rhai sy'n hysbys i'r bobl leol yn unig, o Forfa Bychan i Marros a Thrwyn Telpyn.

 

 

Hendy-gwyn ar Daf

Y stop nesaf yw Hendy-gwyn ar Daf. Byddai'r teulu Howells, fel arbenigwyr yn y gyfraith, yn cael eu denu yma am nifer o resymau. Yn gyntaf, yn y 10fed ganrif, dyma lle wnaeth y Brenin Hywel Dda lunio cyfres o gyfreithiau a roddai gyfle cyfartal i ddynion a menywod...ymhell cyn i'r term ddechrau cael ei ddefnyddio yn yr oes sydd ohoni heddiw! Ewch i'r Ganolfan Ddehongli i gael manylion.

Yn ail ychydig i'r gogledd o'r pentref, ar gyrion mynyddoedd y Preseli, mae Jabajak, y winllan arobryn sy'n cynhyrchu gwinoedd White House y byddai ein prif gymeriad yn sicr o'u mwynhau. Stopiwch i gael blas neu hyd yn oed yn well, archebwch ginio ac arhoswch dros nos yn y gwesty.

Yn olaf mae'r parlwr hufen iâ, The Cowshed at Cowpots, yn lle perffaith i oeri ar ddiwrnod poeth neu i gael rhywbeth melys yn gyflym. Sylwch ar fuches Jersi bedigrî wrth ichi adael y dref (y mae ei llaeth top aur yn cael ei ddefnyddio i wneud hufen iâ Cowpots) a mwynhewch hufen iâ cartref blasus, yn ogystal â pizzas wedi eu coginio ar garreg a saladau wrth edmygu harddwch cefn gwlad Sir Gâr.

Sanclêr

Mewn llawer o olygfeydd mae Faith yn gyrru ar hyd lonydd y wlad yn ei Mercedes mawr, yn ystyried yr atebion i'r cwestiynau lawer sydd ganddi. Mae Sanclêr, tref gyfeillgar ar y ffordd o Gaerfyrddin i'r arfordir, yn fan delfrydol i gael hoe fach, cerdded o gwmpas y ganolfan grefftau a chael pei o Deri Page y cigydd efallai?

Byddai Llety Cynin yn ffefryn gyda'r teulu Howells, lle gall Faith ymlacio yn sba a champfa'r gwesty, tra bo'r plant yn mwynhau te prynhawn â thema yn y Penny Bar and Restaurant, a enwyd ar ôl y ceiniogau lawer a ddefnyddiwyd i wneud y top bar unigryw hwn.

 

 

Caerfyrddin

Nesaf ewch tua'r gogledd i dref Caerfyrddin, sedd gyfreithiol y sir, lle mae'r golygfeydd dramatig niferus yn y llys yn rhan bwysig o'r ddrama.

Honnir mai Caerfyrddin yw'r dref hynaf yng Nghymru ac mae'n rhagddyddio dyfodiad y Rhufeiniaid yn yr ail ganrif. Yn ôl y chwedl Arthuraidd, ganwyd Myrddin mewn ogof fechan ychydig y tu allan i'r dref. Dewch i glywed y straeon hyn yn ogystal â llawer o hanesion tywyll o'r dyddiau a fu ar Daith Arswyd drwy'r Dref, a fydd yn ymweld â chell Tŷ'r Castell a'r Hen Garchar. Efallai y bydd yr ysbrydion yn helpu i ddatgloi'r dirgelwch sy'n perthyn i ddiflaniad Evan?

Teimlo'n sychedig? Ewch i Diablos ar Heol y Frenhines i gael gwydraid o Sauvignon Blanc, un o ffefrynnau Faith mae'n siŵr. Neu, os bydd angen cadw pen clir arnoch, beth am baned yn Tea Traders, yn union y tu allan i'r Llys.

Gallwch ddiddori'r plant am ychydig yn Xcel Bowl, y sinema neu'r ganolfan hamdden. Dilynwch ei hesiampl neu, os ydych am guddio eich olion, camwch ar hen Reilffordd Gwili...

 

Llansteffan

Yn olaf ewch tua'r dwyrain, o amgylch un aber ac un arall, cyn cyrraedd Llansteffan. Bydd y lleoliad ffilmio newydd hwn yn rhan o Gyfres 2, er bod y manylion yn dal yn gyfrinachol wrth gwrs! A fydd hwn yn fan cyfarfod cyfrinachol arall i Faith a'i chariad, Baldini? Caiff popeth ei ddatgelu…

Yn y cyfamser mae gan y pentref hudol hwn yn Sir Gaerfyrddin, sydd ar lan aber afon Tywi, yr holl bethau sydd eu hangen ar gyfer diwrnod allan gwych - tafarn bentref 'the Inn at the Sticks', traeth hir euraid, ac un o siopau pysgod a sglodion gorau'r ardal, Florries, yn ogystal â Mansion House, sef gwesty hyfryd ar ben y bryn sy'n fan perffaith i aros y nos a chael eich sbwylio. Mae'n anodd ei golli gan ei fod ar Lwybr Arfordir Cymru, ac mae'n fan gwych i ymwelwyr sy'n gobeithio mynd ar grwydr ar droed.

Os am fynd ar daith gerdded drawiadol arall, cerddwch ar hyd y llwybr heibio i'r Castell Normanaidd trawiadol sydd â golygfeydd ar draws y bae i ddod o hyd i Ffynnon Antwn Sant sydd, yn ôl y goel, â dŵr hud sy'n gallu gwella llawer o waeleddau... gallai fod yn handi i'r teulu Howells!

Neu camwch ar Fferi newydd Bae Caerfyrddin o Lansteffan tuag at draeth hyfryd yng Nglanyfferi - gan weld crehyrod, crehyrod bach copog, mulfrain, dyfrgwn a Pete (morlo llwyd yr Iwerydd) wrth i chi groesi.