English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Siopau Hen Bethau

Chwiliwch am eich darganfyddiad perffaith. Ewch ag ef adref gyda chi. Gwnewch atgofion newydd allan o rywbeth sy’n hen. Byddwch wastad yn cofio ble y daethoch o hyd iddo.

Ammanford Antiques Centre

Hen bethau, pethau o’r oes a fu a phethau adferedig

Mae Ammanford Antiques yn ganolfan newydd ar gyfer pob math o bethau ail law o’r gorffennol. A hithau wedi agor yn 2016, mae’n ganolfan gyffrous sy’n newid yn gyson yng nghanol y dref. Os mai chi yw’r ailgylchwr eithaf a bod gennych ddiddordeb mewn gwarchod, ailddefnyddio, addasu ac ailgylchu, yna hwn yw’r lle i chi. Dan 1 to, dros 2 lawr, mae 12 o werthwyr balch a gwybodus yn arddangos hen bethau, pethau o’r oes a fu, eitemau casgladwy ac eitemau adferedig y maent wedi’u cael o ystod amrywiol o ffynonellau o dafarndai i eglwysi, o byllau glo i’r fyddin. Maent i gyd yn hapus i helpu gydag unrhyw gymorth y mae ei angen arnoch i ddod o hyd i’r trysor arbennig hwnnw i gael lle amlwg yn eich cartref.

16b Stryd y Gwynt Rhydaman SA18 3DN

01269 593172

www.ammanfordantiquescentre.co.uk

 

Sage Antiques

Hen bethau ac Addurniadau Mewnol

Mae Sage Antiques wedi bod yng nghanol Rhydaman ers dros ddeng mlynedd. Mae’r enw’n gwbl gymwys. Mae Sage wedi adeiladu enw da sy’n seiliedig ar ddoethineb, chwaeth a phrofiad ei berchnogion mewn hen bethau ac addurniadau mewnol. Dyna pam y byddwch mwy na thebyg yn dychwelyd dro ar ôl tro. Cewch bori trwy eu chwe ystafell arddangos yn llawn hen bethau o ansawdd a dodrefn ail law mwy modern sydd ar werth am brisiau cystadleuol. Bydd digonedd o ddewis yma i chi – mae Sage yn cynnig derw, mahogani, pinwydd o’r 18fed, y 19eg a’r 20fed ganrif a thacsidermi o ansawdd da! Ac os na welwch chi’r hyn yr ydych yn chwilio amdano ar unwaith, heb os bydd yno’n disgwyl i gael ei adfer â thynerwch yn y gweithdy ar eich cyfer.

38 a 40 Stryd y Coleg Rhydaman SA18 3AF

01269 596007

www.sage-antiques.business.site

James and Patricia Ash Antiques

Mae’r amser wastad yn iawn 

Mae unrhyw amser yn amser da i ymweld â James and Patricia Ash Antiques. Parciwch reit tu fas. Camwch i mewn ac fe welwch ystafell arddangos yn llawn dodrefn ac ategolion eraill Cymreig, Seisnig, Ewropeaidd a hwyrach o ansawdd, a’r rheiny wedi’u gwneud mewn pren megis derw, mahogani a phren collen Ffrengig. Os mai clociau sy’n mynd â’ch bryd, yna hwn yw’r lle i chi. Fel arfer mae 20-30 yn tician yn disgwyl i chi eu darganfod gan gynnwys clociau casys hir Cymreig – sy’n arbenigedd – yn ogystal â llawer o glociau waliau a mentyll. Mae pob cloc a werthir yn gweithio’n iawn a chânt eu gosod ble bynnag y mae angen iddynt fod. Fe gewch hefyd eitemau arian a chrochenwaith. Ffordd dda o dreulio eich amser.

The Warehouse Heol yr Orsaf Llandeilo SA19 6NG

01558 823726

Works Antique Centre

Popeth dan haul

Boed glaw neu hindda, fe ddewch chi o hyd i bopeth dan haul yma dan yr unto yn y ganolfan hen bethau fwyaf yn Ne-orllewin Cymru – 55 o werthwyr yn cynnig ystod enfawr a bythol newidiol o hen bethau ac eitemau casgladwy. Rydych yn siŵr o gael croeso cynnes, gan staff sy’n barod iawn i helpu a digonedd o le i anadlu. Felly cymerwch eich amser yn pori mewn lle sy’n ymestyn dros 7,000 troedfedd sgwâr ymysg hen ddodrefn a dodrefn cyfnod, dodrefn wedi’u peintio o’r oes a fu, tsieni, peintiadau, printiau, llyfrau a mapiau, dillad a gemwaith o’r oes a fu, teganau a thaclau cegin. Neu os ydych yn chwilio am ddarn bach o Gymru, cewch ddewis o gasgliad o ddodrefn derw, tsieni a phlancedi Cymreig ac eitemau eraill o ddiddordeb Cymreig.

Heol yr Orsaf Llandeilo SA19 6NH

01558 823964

www.worksantiques.co.uk

 

Tim Bowen Antiques

Ystafell â golygfa

Mae Tim Bowen Antiques yn ymgorffori ‘Cymru cŵl’ gan roi ichi ddehongliad newydd o hen bethau. Yn yr oriel gyfoes yng Nglanyfferi, cewch gymryd eich amser yn edrych ar ddodrefn gwledig a chelf werin hardd o Gymru a Phrydain mewn 1,500 troedfedd sgwâr o amgylchoedd tawel, anffurfiol a hamddenol. Cewch fwynhau’r golygfeydd o’r foryd ar yr un pryd. Fe welwch lawer o frwdfrydedd gan y perchnogion ac ymrwymiad i warchod cyfanrwydd yr eitemau sydd ar werth. Cewch ymweld yn y cnawd neu’n rhithwir. Peidiwch â cholli eu harddangosfeydd a gynhelir 4 gwaith y flwyddyn ac y mae cryn sôn amdanynt a’r catalogau sy’n cyd-fynd â’r rhain. Os ydych wir yn chwilio am bethau sy’n unigryw, yn hanesyddol ac yn gwella bywyd, mae hyn i chi.

The Galley Ivy House Glanyfferi SA17 5SS

01267 267122

www.timbownantiques.co.uk

Richard Bebb Welsh Antiques

Lle amlwg

Cydnabyddir mai Richard Bebb yw’r awdurdod blaenaf yn y wlad ar Hen Ddodrefn o Gymru. Mae ei gasgliad cain yn amrywiol iawn ac mae galw mawr amdano. Beth bynnag fo’r eitem, mae’r pwyslais wastad ar fod ddiddordeb Cymreig. Efallai na fydd yn syndod o gwbl bod casgliad o’r fath yn cael lle amlwg yn lleoliad hyfryd Melin yr Hen Gastell yng Nghydweli. Yma gallwch fwynhau moethusrwydd lle sy’n arddangos enghreifftiau eithriadol o grefftwaith sy’n nodweddiadol o ddodrefn Cymreig. O ddreselau i fyrddau, o gistiau i goffrau bach, o gadeiriau syml unigol i gypyrddau cerfiedig cymhleth, mae gan bob un ohonynt stori unigryw i’w hadrodd ac maent yn cynrychioli rhannau amrywiol o Gymru.

Castle Mill, Cydweli SA17 5AJ

01554 890534

www.welshantiques.com

Curiosity Antique Centre

Mwy a mwy hynod

Curiosity Antiques Centre yw canolfan hen bethau fwyaf Gorllewin Cymru. Yma fe gewch 40+ o werthwyr oll ar un lefel dan yr un to yn Stryd y Brenin, canolbwynt byd celf a chrefft a hen bethau Caerfyrddin. Os ydych chi’n rhywun chwilfrydig ac yn hoffi dim byd yn fwy na threulio amser yn chwilio am eitemau casgladwy anarferol yna croeso i’r nefoedd! Os mai clociau ac oriorau sy’n mynd â’ch bryd, dyma’r lle i chi. Os ydych yn chwilio am befriadau, dyma ben eich taith ar gyfer gemwaith arbenigol. Mwy na thebyg, mae rhywbeth yma o’r 18fed-20fed ganrif ar gyfer pob llythyren yn yr wyddor: celf, llyfrau (hen lyfrau, llyfrau ail law a llyfrau Cymraeg), cerameg...mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

19 Heol y Brenin, Caerfyrddin SA31 1BW

01267 231600

Canolfan Antîcs Caerfyrddin

Ecsentrig ac eclectig

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl cyn gynted ag y byddwch yn mynd i mewn i Ganolfan Antîcs Caerfyrddin. A hithau dan ei sang gyda phob math o hen bethau, eitemau casgladwy, pethau sy’n efelychu ffasiynau’r gorffennol a phethau o’r oes a fu, effemera, hen bethau sy’n apelio at ddynion yn bennaf a phopeth ac unrhyw beth sy’n hynod neu’n anarferol, mae’n brawf byw o nod y Ganolfan i ‘amgylchynu’ch hun â phethau yr ydych yn dwlu arnynt’. Ac rydych yn siŵr o ddod ar draws rhywbeth y byddwch yn dwlu arno ac yn ei drysori gan un o’r 40 o werthwyr y maent i gyd yn masnachu yma dan yr un to. Mae stoc newydd o hen bethau hyfryd yn cyrraedd yn ddyddiol ac mae ar agor ar gyfer busnes 7 diwrnod yr wythnos. Felly mae unrhyw amser wastad yn amser da.

56-57 Heol y Prior, Caerfyrddin SA31 1NU

01267222006

https://www.facebook.com/carmarthenantiquescentre/

Audrey Bull Antiques

I’w drysori am byth

Mae gan Audrey Bull enw gwych am fod ag un o’r casgliadau mwyaf o hen emwaith, gemwaith o’r oes a fu, gemwaith ail law a gemwaith cerrig yn yr ardal. Ond mae llawer mwy na hynny yma. Yn Lôn Jackson byddwch wrth eich bodd i weld amrywiaeth dda o ddodrefn cyfnod a dodrefn gwledig Cymreig o ansawdd da, a hen bethau cyffredinol gan gynnwys paentiadau, porslen ac arian. Felly os ydych chi’n chwilio am y rhodd arbennig honno ar gyfer pen-blwydd, priodas neu ben-blwydd priodas rhywun, neu hyd yn oed os ydych yn dymuno eich tretio’ch hun neu addurno eich cartref, mae rhywbeth yma ar gyfer pob achlysur a phob mympwy. Beth am ddifetha rhywun arall neu, o’r gorau, eich difetha chi eich hun.

Lôn Jackson, Caerfyrddin SA31 1QD

01267 222655

www.audreybull.co.uk

Canolfan Antîcs Llanymddyfri

Hela Trysor

Os ydych yn hoff o arogl cwyr celfi a phethau unigryw, ewch i Antîcs Llanymddyfri. Mae'r siop fawr hon yn llawn dop â hen drugareddau ac eitemau o'r oes a fu, mae detholiad difyr o; hen bethau, crochenwaith, celfi, eitemau milwrol, llyfrau, hen offer, blancedi Cymreig, gemwaith, gwaith cerameg, hen ddillad, teganau retro, oll wedi'u cadw a'u gwarchod. Mae gennym beth bynnag y mynnwch chi i fynd adref gyda chi.


Ffordd y Frenhines, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, SA20 0BH
01550 938192

https://www.facebook.com/llandoveryantiques/

 

Emlyn Antiques Centre

Rhywbeth hen yn Heol Newydd

Os ydych chi’n gasglwr, yn un sy’n frwd dros hen bethau neu’n heliwr trysorau’r oes fodern, dyma’r lleoliad i chi. Mae’n cynnig ystod lawn o hen bethau, eitemau casgladwy, pethau cofiadwy, tsieni cain, dillad o’r oes a fu a gemwaith. Neu os ydych yn chwilio am hen bethau diddorol ar gyfer y tu allan, cymerwch eich amser i bori trwy gasgliad o eitemau adferedig ar gyfer yr ardd gyda staff cyfeillgar wrth law i gynnig cyngor a chymorth. Mae stoc newydd yn cyrraedd yn ddyddiol yn Heol Newydd felly mae syrpreis yn eich disgwyl bob amser. Gallwch hefyd brynu talebau rhodd i chi neu ffrind eu gwario yn y Ganolfan, felly dyma’r lle bob amser i gael syniadau ar gyfer anrhegion.

Heol Newydd Castellnewydd Emlyn SA38 9BA

01239 712991

www.facebook.com/Emlyn-Antiques-Centre

Antîcs Halfway

Nefoedd i gasglwyr

Mae Antîcs Halfway, sy'n arbenigo yn y pethau anghyffredin a rhyfeddol, yn stocio amrywiaeth eang o antîcs a hen gelfi o safon o'r oes a fu, pethau casgladwy a hen drugareddau. Hwn yw cartref yr hen bethau gan gynnwys pethau casgladwy hynod a rhyfeddol, o bob oes a lle. Mae ganddynt hefyd warws masnachu fawr a gweithdy yn Llanelli y gellir eu gweld drwy drefnu apwyntiad ymlaen llaw.

2 Teras Glyncoed, Llanelli SA15 1EZ
07759 111891

https://www.facebook.com/halfwayantiques/