English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybr Hen Bethau a Nwyddau Ail Law

Os ydych chi'n mwynhau casglu hen bethau, dewch i Sir Gaerfyrddin i ddarganfod pob math o ryfeddodau. Dilynwch ein Llwybr Hen Bethau a Nwyddau Ail Law er mwyn darganfod llefydd nad oeddech chi'n gwybod eu bod yn bodoli o'r blaen gyda'r gobaith y byddwch chi'n dod o hyd i drysorau di-ri cyn diwedd y daith. Ar eich siwrnai, byddwch chi'n siŵr o gasglu atgofion arbennig wrth ichi grwydro'r sir yn chwilio am greadigaethau gwych sy'n aros i gael eu darganfod.

Bydd y llwybr yn eich tywys chi ar hyd y lonydd cefn a'r strydoedd bach er mwyn dod o hyd i'r siopau bach unigryw nad ydynt i'w gweld ar y stryd fawr. Nid yn unig mae'r siopau hyn yn llawn dop o henebion a thrugareddau o'r oes a fu, ond hefyd, ceir yno eitemau sy'n helpu i adrodd stori'r rhan hon o Gymru. Siopau bach annibynnol yw'r rhan fwyaf o'r rhain, yn berchen i bobl sy'n adnabod yr ardal yn dda ac sy'n fwy na hapus i rannu'r straeon hynny gyda chi.

Bydd y man lle ddaethoch o hyd i'ch trysor sbesial yn siŵr o aros yn y cof ond yn fwy na hynny, cewch fynd â darn o Sir Gâr gartref gyda chi.

Lawrlwythwch y map

 

Gwacewch y gist, cydiwch mewn bag, ac ewch i chwilio am y trysor hwnnw sy’n dyheu am gartref newydd.

Mae Sir Gaerfyrddin hefyd yn gefnlen olygfaol ar gyfer casgliad hyfryd o ganolfannau, siopau, ffeiriau ac ocsiynwyr cyffrous, sy’n arddangos y gorau oll mewn hen bethau a marchnadoedd rhad. O Rydaman i Alltyrodyn, o Landeilo i Landysul, o Gaerfyrddin i Gastell-newydd Emlyn, mae ein trefi marchnad cyfeillgar yn ogof Aladin o hen bethau ac eitemau casgladwy.

Gogledd, de, dwyrain, gorllewin, mae Sir Gaerfyrddin yn bot mêl o gelf ac eitemau o’r gorffennol. Beth bynnag fo’ch cyllideb, byddwch wedi gwirioni ar y casgliad helaeth o eitemau sy’n rhan o’r arlwy. O gelf, dodrefn, clociau a chrochenwaith Cymreig o ansawdd i bethau adferedig, eitemau ffasiynol-dlawd yr olwg, a phethau cofiadwy, mae’r cyfan yma’n disgwyl amdanoch.

Chwiliwch am eich darganfyddiad perffaith. Ewch ag ef adref gyda chi. Gwnewch atgofion newydd allan o rywbeth sy’n hen. Byddwch wastad yn cofio ble y daethoch o hyd iddo.