Coronafeirws (COVID-19)

Darganfod Sir Gâr o 6 Gorffennaf

Y newyddion da yw y gallwch ddod i ymweld â ni yn Sir Gaerfyrddin o 6 Gorffennaf wrth i'r cyfyngiadau teithio 5 milltir gael eu codi gan Lywodraeth Cymru. Byddwch yn gallu ymweld â rhai o'n hatyniadau awyr agored megis Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Pharc Gwledig Pen-bre, yn ogystal ag aros yn un o'n nifer o ddarparwyr llety am wyliau hir-ddisgwyliedig o 11 Gorffennaf* a mwynhau lletygarwch yn ein bwytai, tafarndai a chaffis o 13 Gorffennaf **

Efallai nad yw'r wybodaeth ar y tudalennau hyn yn adlewyrchu statws presennol lleoedd i ymweld â nhw a'r hyn y gallwch ei wneud. Cofiwch wirio â'r lleoedd yr ydych yn bwriadu ymweld â nhw cyn teithio.

Ewch i'n Newyddion Diweddaraf i weld y canllawiau a'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook a Twitter.

Talacharn

Talacharn

Sefydlodd y Normaniaid lawer o gestyll pridd a choed ar ddiwedd yr 11eg ganrif, gan ennill troedle ar diroedd newydd. Nid oedd Lacharn – neu Abercoran bryd hynny – yn eithriad. Sefydlwyd tref fechan wedi’i hamddiffyn a chafodd ei gwladychu yn bennaf gan bobl o Dde-orllewin Lloegr, a oedd yn dilyn cyfreithiau ac arferion gwahanol – ‘Arglwyddiaeth y Gororau’ nodweddiadol. Roedd y Cymry yn dal i wladychu’r ardal, ond gwladychwyr Seisnig oedd craidd yr Arglwyddiaeth.

Yn 1247 derbyniodd y teulu de Brian, a oedd yn dal llawer or dir yn Nyfnaint, arglwyddiaeth ‘Talachar’ gan y brenin a bu’r teulu hwn yn rheoli’r dref trwy gydol y Canol Oesoedd. Dyfarnwyd breintiau arbennig ganddynt i’r trigolion yn eu Siartr enwog, er mwyn ennyn eu teyrngarwch pan fyddai’r Cymry yn ymosod ar y dref. Yr ymraniad a’r ddeuoliaeth hon sy’n gyfrifol am gymeriad a thraddodiadau arbennig Lacharn. Cynhelir taith gerdded enwog Lacharn bob tair blynedd ar y Llungwyn. Yn rhan o’r daith hon sydd dros 20 milltir o hyd, mae’r seremoni ‘curo’r terfynau’ ac arweinir y daith gan Borthfaer a Henaduriaid y Gorfforaeth. Caiff amryw o’r mannau a enwir yn Siartir 1291 Syr Guy de Brian eu holrhain.
Yn ystod yr 16eg ganrif ymsefydlodd per-chnogion llongau a masnachwyr cyfoethog yn Lacharn, a dyna pam fod cymaint o adeiladau ysblennydd yn y dref a gerllaw. Roedd yn lle poblogaidd gan gapteiniaid llong i ymeddeol. Roedd cludo nwyddau trwm ar y mor yn haws ac yn rhatach na defnyddio ffyrdd tyrpeg a rheilffyrdd – roedd llongau bychan yn dal i ddefnyddio’r porthladd hyd ddechrau’r 20fed ganrif. Wrth i’r aber lenwi a llaid trosglwyddwyd llwythi ar gychod i’w cludo i fyny’r afon i Sancler.

Mae Lacharn wedi ysbrydoli beirdd ac artistiaid er amser maith - gan gynnwys William Turner a dynnodd ddyfrlliw o Gastell Lacharn sy’n dangos tonnau gwyllt yn torri dros y Grist a phobl yn casglu malurion. Felly rhan yn unig or draddodiad maith yw Dylan Thomas. Ceir rhagor o lwybrau yno.

     

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

 

Lawrlwytho taith gerdded                   Plotaroute 

 

Pam Dewis Cerdded?
Mae paneli gwybodaeth a golygfannau ar hyd y ffordd ac mae rhannau o'r ddwy daith gerdded yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru sy'n cynnig golygfeydd godidog dros y bae. Mae gan y ddwy daith gerdded gysylltiadau cryf â Dylan Thomas.

Pa mor bell?
Mae Llwybr Sir John's Hill yn 2.6km o hyd (ychydig dros 1½ milltir).
Mae Llwybr Dylan yn 4.6km o hyd. (tua 3 milltir).

Pa mor anodd?
Mae Llwybr Dylan i'r gogledd-ddwyrain ar dir cymharol wastad am y rhan fwyaf o'r ffordd. Mae arwyneb i'r llwybr hyd at sied ysgrifennu a Chartref Dylan Thomas. Ymhellach ymlaen y mae caeau a rhannau byr i fyny rhiw ar draciau fferm garw.
Mae taith gerdded Sir John's Hill yn fwy bryniog, gyda rhes fer o risiau, traciau glaswelltog, caeau i'w croesi a rhan fer ar hyd lôn wledig.

Y Man Cychwyn/Y Maes Parcio: Maes Parcio'r Castell - Rhybudd: Mae llifogydd yn gallu digwydd yn y maes parcio hwn pan fydd y llanw'n uchel.

Trafnidiaeth Gyhoeddus - ✔      Lluniaeth - ✔

Castell Talacharn

Mannau o ddiddordeb

Llwybr Dylan:

1. Castell Talacharn - sefydlwyd gyntaf yn 1116 ond mae'r waliau aruthrol yn dyddio o'r 15fed a'r 16eg ganrif fel tŷ gwledig caerog. Mae'r morfeydd heli wedi datblygu o ran arwynebedd dros y 100 mlynedd diwethaf - yn y Canol Oesoedd, gallai cychod ddod i fyny hyd at waliau'r castell.

2. Bu Cartref Dylan Thomas yn gartref iddo rhwng 1949 ac 1953. Tafarn oedd yma yn 1880au, sef The Ferry House Inn, ac yna roedd iard atgyweirio ac adeiladu cychod yma. Y llwybr sy'n dilyn ochr y clogwyn - hyd nes y 1950au roedd bad o 'Ferry Point' i Dalacharn yn cael ei weithredu yn ôl y llanw gan un cychwr.

3. Llongau Fferi a Chroesi'r Afon - Mae llongau fferi sy'n croesi Aber Afon Taf ers y Canol Oesoedd wedi cael eu defnyddio gan frenhinoedd, esgobion, pererinion, masnachwyr a nifer eraill. Llwybr Arfordir Cymru - Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cysylltu Talacharn â Sanclêr i'r gogledd ac yn cysylltu â Phentywyn i'r gorllewin.

4. Eglwys Sant Martin - eglwys sy'n dyddio o'r 13eg ganrif. Mae Dylan Thomas wedi cael ei gladdu yn y fynwent newydd, wedi'i nodi â chroes wen syml.

 

Dylan Thomas Boathouse

Cartref Dylan Thomas

 

Taith 'Sir John's Hill':

5. Ffin y Gorfforaeth - Wrth y gamfa, chwiliwch am yr arysgrif ar y garreg. Mae golygfeydd gwych i'w gweld ar hyd aber Taf a thua'r môr i Drwyn Wharley sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, 'Cover Cliff' a 'Black Scar Ferry'.

6. Corsydd Talacharn - Tir sydd wedi cael ei adennill oddi wrth y môr ers y Canol Oesoedd. Allan tua Thrwyn Ginst gallwch weld y ddau forglawdd 'The Freething' a 'The Saltings'. Gellir gweld olion rhychau wedi'u haredig o adeg diwedd y 18fed ganrif yn glir hyd heddiw.

7. 'The Lees' - tir comin isel (40 stribed bach neu gyfranddaliadau) sy'n perthyn i Gorfforaeth Talacharn, a ganiatawyd gan Syr Guy de Brian yn 1291, ac mae pileri haearn yn nodi'r ffiniau.

8. Chwarel Coygan - Gellir gweld calchfaen carbonifferaidd yn brigo i'r wyneb yn y pellter, sydd â system ogofâu helaeth. Tua 38,000 o flynyddoedd yn ôl roedd yr ogof yn ffau ar gyfer hienas. Hefyd daethpwyd o hyd i offer llaw o gerrig crai a ddefnyddiwyd gan ddynion Neanderthalaidd.

9. Y Lôn Gefn - Yn ôl Mary Curtis, bu llawer o ladd ar hyd y llwybr pan oedd milwyr Cromwell wedi ymosod ar y Castell.

 

Golygfa tuag at Sir John's Hill a Thrwyn Ginst

Llansteffen

Llansteffan walk