Llandeilo

Llandeilo a Pharc Dinefwr

Mae gan hanes diddorol yr ardal hon gysylltiadau milwrol, gwleidyddol, crefyddol, a masnachol ers dros 2000 o flynyddoedd. Mae’r teithiau yn ymweld â’r holl safleoedd allweddol yn hanes hir a chyffrous yr ardal, sydd yn cynnwys hanes y tair bwrdeistref a safai yn yr ardal hon ar un adeg - Llandeilo Fawr, Dinefwr (ger Castell Dinefwr) a Newton (ger Tŷ Newton).

Mae tystiolaeth bod bryngaer hynafol o’r Oes Haearn wedi bodoli ym Mharc Dinefwr, a bod byddin Rhufain wedi sefydlu caer filitaraidd gerllaw tua’r flwyddyn 70 AD. Enwyd y dref ar ôl Eglwys Sant Teilo, ac mae’n debyg mai Teilo Sant ei hunan a’i sefydlodd yn ystod y 5ed ganrif AD. Roedd yr eglwys hon yn un o’r canolfannau eglwysig pwysicaf yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Tywyll, ac yn y Canol Oesoedd roedd yn stad bwysig o eiddo Esgob Tyddewi, a oedd yn cynnal marchnadoedd a ffeiriau yma yn rheolaidd.

Datblygodd Dinefwr yn ganolfan frenhinol bwysig ac iddi gysylltiadau â thywysogion dylanwadol teyrnas y Deheubarth. Tywysog enwocaf y Deheubarth oedd Rhys ap Gruffudd, yr Arglwydd Rhys (a fu farw yn 1197), a lwyddodd i atal concwest y Normaniaid. Mae gweddillion trawiadol Castell Dinefwr ar agor i’r cyhoedd, ac mae safle tref Dinefwr wedi ei gladdu o dan y coed sydd o amgylch y castell.

Daeth disgynyddion y tywysogion i amlygrwydd yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Adeiladodd Syr Rhys ap Thomas y plasty cyntaf yn Newton ar safle’r fwrdeistref ganoloesol o’r un enw. Roedd yn un o gefnogwyr pennaf Henry Tudor, ac fe frwydrodd wrth ei ochr yn Bosworth. Adnabuwyd ei ddisgynyddion fel Arglwyddi Dinefwr, un o’r teuluoedd mwyaf eu bri yn Ne Cymru, ac roeddynt yn byw yn Nhŷ Newton. Bellach mae’r Tŷ a’i diroedd ysblennydd yn nwylo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

     

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

 

Lawrlwytho taith gerdded                   Plotaroute 

 

Pam Cerdded?

Taith odidog drwy'r dref a'r wlad. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys Eglwys Teilo Sant, Castell Dinefwr a Phlas Dinefwr. Ym mis Mai, gallwch weld Coed y Castell yn frith o glychau'r gog.

Pa mor Hir?

Mae'r llwybrau niferus ar yr ystâd yn golygu y gellir mynd am daith hir, ganolig neu fer.

Pa mor Anodd?

Mae'r daith gerdded gylchol allanol ym Mharcdir Dinefwr tua 6 chilometr o hyd dros dir cymysg. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau yn y parc o raddiant rhesymol, ac mae arwyneb da ar lawer ohonynt, sy'n golygu eu bod yn ddelfrydol i'r cerddwr llai abl neu'r sawl sydd am fynd am dro hamddenol. Prin yw'r rhannau serth ac mae modd eu hosgoi gan amlaf. Gan fwyaf, llwybrau di-wyneb drwy gaeau yw'r llwybr gogleddol.

Man Cychwyn / Maes Parcio - Canol Tref Llandeilo neu Gastell a Pharc Dinefwr (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) 

Mae llefydd parcio i bobl anabl ar gael yn agos i'r Castell, Plas Dinefwr a Pharc y Ceirw.

Trafnidiaeth Gyhoeddus - ✔

Lluniaeth - ✔

 

 

Colourful houses overlooking the river Tywi

Tai lliwgar yn edrych dros yr afon Tywi

Dinefwr Park & Castle

Parc Dinefwr & Castell Dinefwr

Mannau o Ddiddordeb

1. Mae Eglwys Teilo Sant, sydd wedi rhoi ei henw i'r dref, yn sefyll ar safle mynachlog ac eglwys y dywedir iddynt gael eu sefydlu gan Teilo Sant yn y bumed ganrif. Yn y canol oesoedd roedd Dinefwr yn ystâd bwysig i Esgob Tyddewi, a chynhelid marchnadoedd a ffeiriau rheolaidd yn Heol y Brenin. Rhannwyd mynwent fawr eglwys blwyfol Teilo Sant yn ei hanner gan welliannau i'r ffordd yn yr 1850au.


2. Mae Plas Dinefwr yn dyddio'n ôl i 1660 ond cafodd ei newid yn sylweddol yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd y tiroedd o amgylch y Plas eu tirweddu gan Capability Brown. Yn ystod cyfnod y Tuduriaid adeiladodd Syr Rhys ap Thomas, un o brif gefnogwyr Harri Tudur, y plasty cyntaf yno ar safle'r fwrdeistref ganoloesol. Daeth ei ddisgynyddion yn Arglwyddi Dinefwr, un o deuluoedd tirfeddiannol mwyaf nodedig de Cymru. Mae Plas Dinefwr a'i barcdir hardd yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac, fel adfeilion trawiadol Castell Dinefwr, ar agor i'r cyhoedd.

3. Daeth Castell Dinefwr yn ganolfan i rym brenhinol tywysogion teyrnas y Deheubarth. Tywysog enwocaf y deyrnas honno oedd Rhys ap Gruffudd, a lwyddodd i arafu'r Goncwest Normanaidd, a bu'r castell yn gadarnle i dywysogion y Deheubarth tan iddynt gael eu gorchfygu ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Defnyddid y castell gan ddisgynyddion y tywysogion, y teulu Rice o Blas Dinefwr, fel adfail rhamantaidd ac ychwanegwyd hafdy at y gorthwr cylchol.

4. Ceir tystiolaeth ym Mharc Dinefwr o Fryngaer Oes Haearn gynhanesyddol, a sefydlodd y fyddin Rufeinig gaer filwrol yno. Darganfuwyd dwy Gaer Rufeinig, y naill yn gorchuddio'r llall, yma yn 2003 a chawsant eu cloddio gan archeolegwyr.

5. Rhoddwyd y gorau i addoli yn eglwys Llandyfeisant yn 1961. Hon unwaith oedd man addoli Arglwyddi Dinefwr, a chafodd ei hailadeiladu'n llwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn lle eglwys ganoloesol. Credir iddi gael ei chodi ar sylfeini teml Rufeinig.

6. Fferm Plas Dinefwr oedd prif fferm yr ystâd. Byddai ei gardd furiog fawr wedi cyflenwi llysiau a ffrwythau ffres i Blas Dinefwr.

7. Gellir gweld yr Hydd Brith a brid hynafol y Gwartheg Gwynion o diroedd Plas Dinefwr neu o lwybrau'r parcdir.

8. Mae dolydd Dyffryn Tywi yn llefydd da i weld amrywiaeth o adar coetir a gwlypdir.

9. Gwarchodfa Natur ym mherchnogaeth a than reolaeth Ymddiriedolaeth Natur Gorllewin Cymru yw Coed y Castell. Enghraifft hyfryd yw hon o goetir hynafol, cynefin prin, a chartref i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid. Gorwedd olion hen dref Dinefwr yn y coetiroedd cyfagos.

 

 

St. Teilo's church

Eglwys Sant Teilo

Newton House

Plas Dinefwr

Llansteffan

Llansteffan walk