Coronafeirws (COVID-19)

Darganfod Sir Gâr o 6 Gorffennaf

Y newyddion da yw y gallwch ddod i ymweld â ni yn Sir Gaerfyrddin o 6 Gorffennaf wrth i'r cyfyngiadau teithio 5 milltir gael eu codi gan Lywodraeth Cymru. Byddwch yn gallu ymweld â rhai o'n hatyniadau awyr agored megis Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Pharc Gwledig Pen-bre, yn ogystal ag aros yn un o'n nifer o ddarparwyr llety am wyliau hir-ddisgwyliedig o 11 Gorffennaf* a mwynhau lletygarwch yn ein bwytai, tafarndai a chaffis o 13 Gorffennaf **

Efallai nad yw'r wybodaeth ar y tudalennau hyn yn adlewyrchu statws presennol lleoedd i ymweld â nhw a'r hyn y gallwch ei wneud. Cofiwch wirio â'r lleoedd yr ydych yn bwriadu ymweld â nhw cyn teithio.

Ewch i'n Newyddion Diweddaraf i weld y canllawiau a'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook a Twitter.

Drefach Felindre

Drefach Felindre

O’r oesoedd canol hyd ganol y 19eg ganrif, yr oedd cynhyrchu gwlân ymhlith y diwydiannau pwysicaf yng Nghymru. Yn y 19eg ganrif yr oedd pentrefi Drefach Felindre, Waungilwen, Drefelin, Pentrecagal, Cwmpengraig, a Chwmhiraeth yn gilfach ddiwydiannol yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru, gyda bandiau pres, corau meibion ac undeb llafur cryf. Slawer dydd adwaenid yr ardal fel Huddersfield Cymru, ac yr oedd yn ôl pob tebyg yn cynhyrchu mwy o wlanen nag unrhyw blwyf arall yng Nghymru. Defnyddid y wlanen yn bennaf i ddilladu’r gweithwyr ym maes glo a gweithfeydd dur De Cymru, yn ogystal â milwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd ymwelwyr a chanddynt ddiddordeb mewn treftadaeth ddiwydiannol yn cael eu hatgoffa’n gyson o oes aur yr ardal yng nghanol dauddegau’r ugeinfed ganrif, pan oedd dros 50 o felinau yn gweithio. Mae’r mwyafrif o’r gwyddiau wedi mynd bellach, ond mae’r adeiladau yn dal i sefyll. Mae’r hen felinau a’r gweithdai yno fyth ar hyd afonydd Bargod, Brân ac Esgair, fu unwaith yn darparu’r pŵer ar gyfer y peiriannau.

Ceir rhwydwaith helaeth o lwybrau, lonydd a ffyrdd porthmyn hynafol trwy goetiroedd y dyffrynnoedd, ar hyd glannau’r nentydd a thros dir amaethyddol, yn cysylltu’r melinau a’r ffermydd â’r pentrefi. Maent yn tywys y cerddwr trwy ardal wledig a chanddi gyfoeth o nodweddion archeolegol, cymdeithasol a byd natur.

Mae’r coetiroedd yn wyllt a digyffwrdd eu naws, heb olion amlwg o ymyrraeth dyn. Trwy gydol y flwyddyn, mae’r llawr yn frith o redyn toreithiog, ac yn y gwanwyn, cyn i’r canopi gau, yn llachar o dan y coed y mae llygad Ebrill , clychau’r gog, a blodau coetir lliwgar eraill. Mae’r rhan fwyaf o’r tir amaethyddol ar dir uwch rhwng y dyffrynnoedd coediog. Mae’r llwybrau agored dros y caeau yn rhoi golygfeydd gwych o Ddyffryn Teifi a thu hwnt.

     

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

 

 

 

Lawrlwytho taith gerdded             Plotaroute 

Pam Dewis Cerdded?
Mae'r ardal wledig o amgylch Dre-fach Felindre'n gyfuniad deniadol iawn o goetir hynafol, perthi sy'n gyforiog o flodau a chaeau agored sy'n rhoi golygfeydd gwych dros y dirwedd leol ac allan tuag at brydferthwch Dyffryn Teifi.
Mae rhwydwaith helaeth o lwybrau, traciau a ffyrdd porthmyn hynafol yn rhan o goetir y dyffryn, ar hyd nentydd a thros dir amaethyddol, gan gysylltu'r melinau a'r ffermydd â'r pentrefi. Maent yn arwain y cerddwr drwy gefn gwlad sy'n llawn mannau o ddiddordeb archeolegol, cymdeithasol a bywyd gwyllt.
Mae angen i grwpiau o deuluoedd ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes fynd i Amgueddfa Wlân Cymru.

Pa mor bell?
Mae'r daith yn 5km o hyd (3.2 milltir) gyda 126 metr yn codi (413 troedfedd).

Pa mor anodd?
Mae'r daith yn bennaf ar hyd llwybrau sydd wedi'u dylunio'n dda ac sy'n gymharol wastad, ond mae mannau mwy serth a all fod yn anodd i rai cerddwyr. Argymhellir eich bod yn defnyddio esgidiau cerdded neu esgidiau cadarn. Caniatewch 2-3 awr.

Y Man Cychwyn: Amgueddfa Wlân Cymru.

Y Maes Parcio: Maes parcio'r amgueddfa neu yng nghanol y pentref.

Trafnidiaeth Gyhoeddus: - ✔        Lluniaeth: - ✔

Waterfall 

Mannau o ddiddordeb

1. Saif Amgueddfa Wlân Cymru yn lleoliad hen Felinau'r Cambrian. Mae'n adrodd hanes a phwysigrwydd y diwydiant gwehyddu i'r ardal a'r bobl oedd yn byw ac yn gweithio yma.

2. Ym misoedd y gwanwyn a'r haf y mae'r lôn hon yn wledd i'r llygaid gyda thrwch o flodau lliwgar yn y perthi.

3. Yr anheddiad cynharaf yn yr ardal yw Dinas Brân sef bryngaer oes haearn, sy'n goruchwylio'r uchelderau dros ddyffryn serth Afon Brân. Yn anffodus, dros y canrifoedd mae gweddillion y gaer wedi erydu i ffwrdd.

4. O fis Mai i fis Medi gellir gweld blodau melyn golau y biwlith melyn ynghyd â charped o glychau'r gog. Mae'r blodau hyn ynghyd â phlanhigion brodorol eraill yn helpu i ddangos bod y coetir hwn yn hynafol, ac yn dyddio'n ôl i 1600 o leiaf. Nid yw llethrau serth y dyffrynnoedd yn addas iawn ar gyfer amaethyddiaeth ac felly mae'r goedwig wedi parhau'n nodwedd gyson yn y dirwedd am gannoedd o flynyddoedd. Mae gan nifer o'r coed lawer o wreiddiau sy'n dangos eu bod ar un adeg wedi cael eu bôn-docio.

5. Yn anterth y diwydiant gwlân, roedd 'Cwm Cottage', ynghyd ag eraill yn yr ardal, yn weithdy gwehyddion â gwŷdd llaw.

6. Gan mlynedd yn ôl, roedd Cwmhiraeth yn bentref diwydiannol prysur â melinau a siopau gwehyddu.

Bluebells along the route in May

Cottages once a hand-loom weavers' workshop

Llansteffen

Taith cerdded Llansteffan