Cyfyngiadau lleol newydd - Ardal Llanelli

Os ydych eisoes yn Sir Gaerfyrddin neu'n bwriadu ymweld â'r sir cyn bo hir, darganfyddwch sut y gallai'r cyfyngiadau lleol yn ardal Llanelli effeithio arnoch chi. Lawrlwythwch fap o'r ardal neu defnyddiwch y gwiriwr cod post i weld a yw lle rydych yn aros / ymweld ag ef wedi'i gynnwys yn yr ardal iechyd cyhoeddus.

Ewch i dudalen newyddion y Cyngor i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Cwmdu

Cwmdu

Mae ymweliad â’r gornel dawel hon o Sir Gaerfyrddin yn werth chweil gan fod yma gyfoeth o safleoedd diddorol i’w harchwilio. Mae yma dystiolaeth o anheddfan cynhanesyddol ac roedd llawer o’r ardal wedi’i chynnwys o fewn tiroedd Abaty Talyllychau yn ystod y canol oesoedd. Mae olion trawiadol o’r abaty i’w gweld i’r gogledd o’r ardal y mae’r daflen hon yn ymwneud â hi.

Ffermydd a bythynnod bychan gwasgaredig yng nghanol caeau twt sy’n nodweddu’r ardal hon yng nghysgod bryn Gaer Fawr a dyffryn Nant Llwyd.

Dylanwadwyd yn fawr ar yr ardal o gwmpas Gaer Fawr gan ddatblygiad ystad Taliaris, a fu’n gyfrifol am blanhigfeydd hardd y coetiroedd a’r parcdir agored o gwmpas plasty Taliaris. Er bod Taliaris yn hanu o’r oesoedd canol, y teulu Peel oedd y trigolion mwyaf adnabyddus. Prynwyd yr ystad yn 1831 gan Robert Peel, gwr busnes o Swydd Gaerhirfryn a chefnder i Syr Robert Peel, a sefydlodd y llu heddlu modern. Bu Taliaris ym mherchnogaeth teulu Peel tan 1954, ac mae beddau nifer o’r teulu i’w gweld ym mynwent eglwys Taliaris.

Cwmdu a Salem yw’r unig bentrefi yn yr ardal hon ac mae’r ddau yn meddu ar dafarn a chapel. Pentref hynod Cwmdu yw’r hynaf o’r ddau. Y tebygolrwydd yw mai tyfu o amgylch y capel Bedyddwyr a adeiladwyd yma yn 1789, wnaeth y pentref ac mae wedi llwyddo i gadw nodweddion pentref bychan gwledig o’r 19eg ganrif. Saif pentref Salem ar dir a arferai ffurfio comin bach Mynydd Bach. Tyfodd clwstwr bychan o fythynnod yma ar ôl i’r comin gael ei amgáu yn 1814. Adeiladwyd capel Salem, yr enwyd y pentref ar ei ôl, yn fuan iawn wedyn.

     

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

 

Lawrlwytho taith gerdded       Plotaroute 

 

Pam Dewis Cerdded?
Yng nghanol y pentref hardd hwn y mae'r dafarn a'r siop leol sydd wedi cael eu rhedeg gan y gymuned ers 2000. Mae'r daith gerdded hon yn hanfodol i unrhyw fotanegydd newydd neu broffesiynol yn y sir, gan fod y llwybrau'n mynd drwy'r dolydd prydferth sy'n llawn amrywiaeth eang o flodau gwyllt, sy'n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Pa mor bell?
Mae'n bosibl mwynhau taith gerdded fer sy'n parhau am awr yn unig neu daith gerdded hirach sy'n parhau am y diwrnod cyfan. Mae'r teithiau cerdded yn amrywio rhwng 2km a 7.3km.

Pa mor anodd?
Mae'r daith gerdded fer drwy'r dolydd ychydig dros 2km (1¼ milltir) ac mae'r daith yn mynd dros dir cymharol wastad.
Mae'r daith gerdded ganolig, yn union i'r de o'r pentref, yn 3.7km (2⅓ milltir).
Mae'r daith gerdded hir o bentref Cwm-du sy'n mynd heibio i'r fryngaer a pharcdir Taliaris tua 7.3 km (4½ milltir) ac mae rhannau hir o'r daith yn fryniog (tua 250 metr neu 820 troedfedd o ddringo).
Noder fod rhai o'r llwybrau yn yr ardal yn gallu parhau'n wlyb hyd yn oed yn yr haf.

Y Man Cychwyn/Y Maes Parcio - pentref Cwm-du

Trafnidiaeth Gyhoeddus - i gael y wybodaeth ddiweddaraf ewch i'r wefan http://www.cymraeg.traveline.cymru/

Lluniaeth - ✔

Golygfa o'r dirwedd

 

Mannau o ddiddordeb

1. Mae Capel Providence y Bedyddwyr yn enghraifft fendigedig o gapel yr anghydffurfwyr yn yr 19eg ganrif. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar y rhes o dai teras wrth ei ymyl, sy'n cynnwys y swyddfa bost/siop a thafarn y pentref.

2. Roedd y fferm yng Nghapel Hir yn cael ei ddefnyddio fel tŷ cwrdd gan anghydffurfwyr yn y 17eg a'r 18fed ganrif.

3. Mae'r daith gron fer i'r gogledd o'r pentref yn hanfodol i unrhyw fotanegydd. Mae'r llwybrau'n mynd drwy ddolydd sy'n llawn blodau ac sy'n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae'r dolydd hyn wedi osgoi "gwelliannau" amaethyddol modern o ran cael eu haredig yn ddwfn, eu hail-hau a chael gwrtaith.

Yn ogystal, mae'r dolydd yn hafan i amrywiaeth o bili-palod gan gynnwys iâr fach fodrwyog sy'n lliw brown tebyg i siocled. Cofiwch fod codi'r blodau yn anghyfreithlon.

4. Mae Maes y Castell, sef bryngaer Oes Haearn sydd wedi'i chadw mewn cyflwr da, dros 2,000 mlwydd oed ac mae'n ein hatgoffa am yr adeg pan oedd penaethiaid rhyfelgar yn rheoli Cymru. Mae'r fryngaer yn Heneb Gofrestredig ac mae llwybr caniataol yn arwain ati.

5. Credir bod sylfeini plasty Taliaris yn dyddio o'r cyfnod canoloesol, a'r grisiau derw crand a'r plastr addurnedig ar y nenfwd yn yr ystafell fyw yn dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif. Bellach mae plasty Taliaris yn faes gwyliau, ac nid yw ar agor ar gyfer y cyhoedd.

6. O flaen plasty Taliaris mae'r llwybr cerdded yn croesi rhan o'r parcdir a gafodd ei ddylunio yn y 19eg ganrif i roi golygfa ddymunol a lle i'r trigolion gerdded. Cafodd y coed mawr yng nghanol y caeau eu plannu fel nodweddion addurnol.

7. Y tu ôl i blasty Taliaris y mae tiroedd gweithio'r ystâd. Efallai fod enw'r lle 'The Warren' yn gysylltiedig â ffermio cwningod yn y cyfnod canoloesol neu yn Oes y Tuduriaid. Mae'r goedwig yn y fan hon o ganlyniad i blanhigfa'r ystâd ac mae'r coed yn cael eu hamgylchynu gan wal fawr.

8. Mae'r amrywiaeth hyfryd o redyn, blodau, llwyni a choed sy'n tyfu yn y perthi naill ochr a'r llall i'r llwybr yn dangos bod y perthi yn y fan hon yn gannoedd o flynyddoedd oed. Mae marchredynen fenyw, rhedyn y cadno a hopys gwyllt yn ffynnu yn y fan hon ynghyd â'r blodau bysedd y cŵn, fioled ac erwain.

Cwmdu village

Pentref Cwmdu 

Tegeirian llydanwyrdd