Chwedlau

Chwedlau Enwog

Gallwch gamu'n ôl mewn amser yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r tir yn gyfoethog o ran treftadaeth - ond ar adegau, ac mewn mannau penodol, mae'r ffeithiau yn plethu â ffuglen. Mae'r dirwedd ganlyniadol yn llawn mythau ac yn gorwedd dan len o chwedlau.

Mae straeon tylwyth teg i'r ifanc ac i bobl hŷn yn dal dychymyg llawer, ac yn ffurfio rhan bwysig o hanes a diwylliant Cymru. Dyma rai o fythau a chwedlau mwyaf enwog Sir Gaerfyrddin

Chwedlau

3978

Myrddin

Dywedir y ganed y Dewin Myrddin mewn ogof ar gyrion Caerfyrddin a'i fod wedi'i gladdu ym Mryn Myrddin (mae'n debyg bod dal modd clywed ei sŵn yno). Yn ôl y rhigwm poblogaidd, "Pan syrthia Derwen Myrddin, syrthio gwnaiff tref Caerfyrddin" ac yn wir, cafwyd y broffwydoliaeth hon yn wir pan dorrwyd y dderwen y swynodd Myrddin ym 1878 a chafwyd y llifogydd gwaethaf y mae'r dref erioed wedi'u gweld y flwyddyn honno! Gallwch weld darn o'r dderwen yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a chofiwch gadw llygad am y cerflun o Myrddin yng nghanol y dref.

2522

Morwyn y Llyn

Straeon y Mabinogion oedd llenyddiaeth gynharaf Prydain ar ffurf rhyddiaith ac yn wir, roedd De-orllewin Cymru yn sail i nifer o'r straeon. Beth am olrhain hanes Morwyn y Llyn a Meddygon Myddfai; mae'r cyntaf o'r rhain wedi'i lleoli yn Llyn y Fan Fach sef llyn hyfryd yng ngorllewin Bannau Brycheiniog ac sy'n enwog am ei hudoles a oedd yn byw yn y llyn a gytunodd i briodi ffermwr, cyn belled ag iddo beidio â'i bwrw tair gwaith. Yn anffodus, tarodd hi dair gwaith felly symudodd yn ôl i'w chartref yn y llyn, ond nid cyn i'r pâr gael tri mab a ddaeth yn enwog am eu gallu i iacháu pobl a chânt eu hadnabod fel Meddygon Myddfai. Mae pentref hyfryd Myddfai yn boblogaidd ymysg y sawl sy'n dwlu ar chwedlau; tafliad carreg i ffwrdd y mae cartref y Tywysog Charles sef Llwynywermod;

3979

Twm Siôn Cati

Beth am fentro i fan arall sy'n enwog am ei chwedloniaeth: Mynydd Dinas. Bellach yn warchodfa natur y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, dyma'r man lle arferai Twm Siôn Cati guddio rhag ei elyn pennaf, Siryf Caerfyrddin, mewn ogof yn llawn o gerfiadau sy'n dyddio'n ôl i 1882.