Anturiaethau ar yr Afon
Mae Sir Gaerfyrddin wedi’i nodweddu gan afonydd niferus. Mae mwy nag ugain afon yn nadreddu drwy’r sir, gan gynnwys dwy afon hiraf Cymru – Teifi a Thywi.
Oes arnoch awydd gwyliau dyfrllyd i’ch dihuno yn Sir Gaerfyrddin? Dyma sut, pryd a ble i gael penwythnos perffaith. Os ydych yn hoff o bopeth H2O, wedyn Sir Gaerfyrddin, gyda’i chefn gwlad godidog, yw’r lle i chi. Ac os nad yw mynd am dro ar hyd glan llyn at eich dant, mae yma lawer o gwmnïau a wnaiff roi’r cyfle ichi fynd am sblash yn afonydd y sir. Felly rhowch eich siwt ddŵr yn barod: dyma eich rhestr o weithgareddau i gael antur afon berffaith.
Nofio Afon
Afon hiraf Cymru, Teifi, yw hefyd un o’r goreuon o ran hwyl. Gall yr afon fod yn fan chwarae godidog ar ddiwrnod o antur gyda Phadlwyr Llandysul. Gallwch drefnu sesiwn hanner diwrnod o nofio afon, sy’n golygu neidio, tin yn gyntaf, i’r dŵr gwyn islaw (o dan oruchwyliaeth arbenigol). Credwch ni, byddwch yn gaeth i’r wefr ymhen eiliadau. Gallwch hefyd dasgu i lawr drwy’r dŵr gwyn ar rafft neu gaiac. Neu os oes arnoch awydd rhywbeth tamaid yn llai gwyllt, mae’r cwmni’n cynnig pedair awr o daith afon ar ddŵr gwastad. Bob haf, bydd Padlwyr Llandysul yn trefnu gŵyl afon flynyddol: deuddydd o hyfforddiant caiac ar yr afon, wedyn digwyddiad slalom, lle byddwch yn rhoi cynnig ar eich sgiliau newydd. Maent hefyd yn cyd-drefnu Taith Teifi, sef penwythnos o badlo a phartïon, sy’n cael ei gynnal fel arfer ar y penwythnos y caiff y cloc ei droi’n ôl yn yr hydref.
Anturiaeth Croesi Afon
Oes arnoch awydd dynwared Indiana Jones? Ewch ar anturiaeth croesi afon gyda Hawk Adventures. Bydd angen tîm da a digon o bwyll arnoch: y nod yw creu system raffau 5 i 15 metr uwch yr afonydd gwyllt, ac wedyn dringo ar eu traws. Gall eich creadigaeth fod yn system syml, neu’n orchest beirianyddol - ond mae’n rhaid iddi eich cludo i’r ochr arall!
Cerdded Glan yr Afon
Mae’r afonydd yn golygu dyffrynnoedd gwyrdd a bywyd gwyllt diddorol, felly cofiwch ddod â’ch ysbienddrych a’ch esgidiau cerdded er mwyn darganfod tirwedd unigryw Sir Gaerfyrddin ar droed
Cerdded Glan yr Afon
Mae’r afonydd yn golygu dyffrynnoedd gwyrdd a bywyd gwyllt diddorol, felly cofiwch ddod â’ch ysbienddrych a’ch esgidiau cerdded er mwyn darganfod tirwedd unigryw Sir Gaerfyrddin ar droed
Crwydro’r sir ar lan yr afonydd
Cewch ddarganfod y trefi marchnad a’r cofebion eiconig ar hyd afonydd Sir Gaerfyrddin, a hynny ar ddwy olwyn. Mae’r rhan hon o’r byd wedi’i bendithio â golygfeydd godidog. Mae afon Tywi yn rhedeg wrth droed tref hynod Llandeilo, a thref hynaf Cymru, Caerfyrddin, a gallwch ddilyn afon Gwendraeth ar droed nes cyrraedd Castell Cydweli a’i naws afaelgar Mae afon Taf yn llifo ger Sied Ysgrifennu Dylan Thomas yn nhref Talacharn; cewch gip i mewn i’r stiwdio sy’n edrych fel petai’r bardd adnabyddus newydd bicio allan am dro. Mae Castellnewydd Emlyn, a godwyd ar safle caer Gymreig, yn eistedd ar ddolen yn afon Teifi. Cewch brofi tafarndai hanesyddol y dref, cyn dilyn yr afon tua’r gorllewin i Raeadr Cenarth. Yn gynnar yn yr hydref, cewch ddod ynghyd â rhai eraill sy’n ymddiddori ym myd natur i gael golwg ar yr eogiaid yn llamu; mae’n ymddangos fel petai’r pysgod yn mynd yn groes i ddisgyrchiant wrth fynd drwy’r dŵr gwyllt ac i fyny’r afon.
Llên Gwerin yr Afonydd
Beth am fentro i fan arall sy'n enwog am ei chwedloniaeth: Mynydd Dinas. Bellach yn warchodfa natur y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, dyma'r man lle arferai Twm Siôn Cati guddio rhag ei elyn pennaf, Siryf Caerfyrddin, mewn ogof yn llawn o gerfiadau sy'n dyddio'n ôl i 1882.