36 awr yn nhref Caerfyrddin a’r gorllewin

Tref lle mae dau fyd yn dod ynghyd; mae'r dreftadaeth Rufeinig amlwg a chwedlau Arthuraidd yn golygu mai hon yw'r dref hynaf yng Nghymru i bobl fyw ynddi yn barhaus, ond eto mae ganddi ddiwylliant cyfoes, siopau gwych a lleoedd bwyta bywiog.

Pam mynd yno nawr?

Dewch i Gaerfyrddin oherwydd cysylltiadau chwedlonol y dref â’r chwedlau Arthuraidd a Myrddin a’i threftadaeth Rufeinig, ac arhoswch yma i fwynhau’i chymeriad cyfoes. Hon yw’r dref hynaf yng Nghymru y bu pobl yn byw ynddi’n ddi-dor, ond mae yma ddwy ganolfan siopa fodern sy’n cynnig y gorau a geir ar y stryd fawr yn Rhodfa’r Santes Catrin a Maes Myrddin, ynghyd â llu o fannau gwerthu bwyd. Gydag afon Tywi’n rhedeg drwy’r dref i Fae Caerfyrddin, dyma’r man perffaith ichi drochi eich hun yn nathliad Blwyddyn y Môr yng Nghymru yn 2018.

Amcan o’r lleoliad

Gallwch gyrraedd Caerfyrddin, tref sirol Sir Gaerfyrddin, o Gaerdydd mewn llai na 90 munud. Saif ar Afon Tywi, a hi yw enaid y dref; dyma lle mae’r traddodiad pysgota cwrwgl (pysgota am eog a sewin yn y nos) sydd wedi’i drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth am y 1,000 mlynedd diwethaf yn dal yn fyw a lle mae Gŵyl yr Afon yn cael ei dathlu’n flynyddol.

 

Diwrnod 1

Golygfa fendigedig

Dringwch y bryn y mae’r castell Normanaidd o’r 12fed ganrif yn sefyll arno, ym mhentref arfordirol tlws Llansteffan – siwrnai fer 15 munud yn y car o Gaerfyrddin – i gael golygfeydd digymar o afon Tywi tuag at Lanyfferi. Mae’r traeth godidog, hir a llydan yn Llansteffan – un o drysorau cudd gorau Cymru efallai – yn lle poblogaidd i ymweld ag ef gydol y flwyddyn ac yma y deuwch chi ar draws traeth euraidd diarffordd Bae Scott. Ymunwch â rhan o Lwybr Arfordir Cymru yma, sy’n mynd â chi ar gylchdaith 4.5km fendigedig, gan basio safleoedd unigryw fel ffynnon hynafol Antwn Sant.

Mynd am dro hamddenol

Taith fer yw hi o ganol tref Caerfyrddin at lan yr afon ond fe welwch gyfoeth o ryfeddodau hanesyddol a naturiol ar hyd y ffordd. Mae afon Tywi yn Ardal Cadwraeth Arbennig, ac mae’n hawdd gweld pam; mae’n cynnal amrywiaeth gyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid, yn cynnwys eog a sewin, ac mae’r bompren yn fan gwych i sefyll a gwylio adar fel y crëyr glas, y siglen fraith ac elyrch. Mae Caerfyrddin wedi’i bendithio’n arbennig o ran pensaernïaeth; mae adeilad mawreddog Towy Works yn enghraifft ragorol o bensaernïaeth fasnachol dechau’r 20fed ganrif ac mae Neuadd y Sir, adeilad rhestredig ar arddull chateau, yn dominyddu’r dref. Ar gyrion y dref, mae taith gerdded hyfryd, hawdd, o amgylch Cronfa Cwmoernant.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i weld safle olion yr amffitheatr Rufeinig…a chofiwch ymweld â safle Derwen Myrddin. Yn ôl y chwedl, Caerfyrddin oedd man geni’r Myrddin chwedlonol, a’r gred oedd iddo broffwydo y byddai tref Caerfyrddin yn boddi pe bai’r dderwen yn syrthio: ‘Llan-llwch a fu, Caerfyrddin a sudd, Abergwili a saif.’

Cinio bendigedig Os oes awydd bwyd arnoch ar ôl cerdded o amgylch y dref, ewch i Pethau Da a’i giniawau cartref blasus, ei deisennau, sgons a the hufen. Eisiau bwyd llysieuol wedi’i wneud â chynhwysion organig? Mae Caffi lechyd Da yn ddewis da arall.

 

Crwydro’r siopau

Mae Caerfyrddin yn baradwys siopa. Nid yn unig y mae’n gartref i farchnad sy’n gwerthu popeth o emwaith hen a modern a chrefftau i gawsiau, teisennau, ffrwythau, llysiau a chigoedd a gynhyrchwyd yn lleol (rhowch gynnig ar ham Caerfyrddin – ham wedi’i halltu a’i sychu) ond mae yma hefyd ardaloedd siopa bywiog. A pheidiwch ag anghofio galw heibio i Richardson’s Home Baking i gael tamaid o ‘Deisen Frenhinol Etta’; roedd y Tywysog Charles wedi’i mwynhau gymaint nes iddi gael ei gweini yn ei frecwast priodas pan briododd Camilla Parker-Bowles.

Mae Maes Myrddin a Rhodfa Santes Catrin yn llawn o enwau’r stryd fawr a siopau chwaethus. Anelwch am Faes Nott a Heol y Brenin i fwynhau siopa mewn boutiques annibynnol a vintage.

 

Diod i godi archwaeth

Mae dewis eang o goctels safonol, yn cynnwys cosmopolitan, martini a Tom Collins, ar gael ym mar Diablo’s – beth am ddod yn ôl ar ôl eich cinio nos i fwynhau’r sesiynau cerddoriaeth fyw a gynhelir yma bob penwythnos.

Gwledda fel y bobl leol

Pan ddewch chi ar draws bwydlen sy’n cynnwys danteithion fel cregyn gleision o Gymru wedi’u stemio mewn saws gwin gwyn, hufen a pherlysiau, a bola mochyn wedi’i frwysio ar datws stwmp â phwdin gwaed gyda jus seidr, rydych chi’n gwybod eich bod wedi dod o hyd i dŷ bwyta sy’n gwirioni ar gynnyrch a chreadigrwydd. Dyma’r ethos yn The Inn at The Sticks, tafarn hardd yng nghanol Llansteffan.

Yr un yw’r athroniaeth yn Café at No 4 yng Nghaerfyrddin, gyda’r fwydlen yn cynnig bwyd modern Prydeinig gyda dylanwadau Ewropeaidd. Gallwch roi cynnig ar ffiled draenogyn môr wedi’i rostio gyda llyrlys a menyn Café de Paris.

 

 

Diwrnod 2

Brecinio braf?

Mae The Warren yn cynnig bwydlen sydd wedi’i chreu’n gyfan gwbl o gynhwysion a geir gan gyflenwyr lleol, organig neu foesegol, ac mae’r digwyddiadau ‘pop-up’ cyffrous y mae’n eu darparu yn rhoi rhyw afiaith ychwanegol i’r bwyty. Hefyd yn ymfalchïo mewn defnyddio cynhwysion gan gyflenwyr o Gymru mae The New Curiousity.

Mynd am dro yn y parc

Ac yntau wedi swyno pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd am fwy na chanrif, daw Parc Caerfyrddin â glesni a lle agored i ganol y dref. Gallwch alw yn Y Siop De am luniaeth ac edmygu felodrom (trac beiciau) y parc. Cafodd hwn ei ailddatblygu’n ddiweddar ond dyma’r felodrom cyntaf un i gael ei adeiladu yng Nghymru. Ceir yma hefyd le sgrialu ac ardal chwarae i blant, felly mae hwn yn barc lle gallwch dreulio rhai oriau pleserus tu hwnt.

 

Ewch am daith

Beth am fynd am reid ar Reilffordd Stêm Gwili. Bydd y rheilffordd hon, sydd wedi’i chadw’n arbennig o dda, yn mynd â chi yn ôl mewn amser, wrth i’r siwrnai eich tywys drwy bentrefi hyfryd, caeau a bryniau ar hyd afon Gwili. Cadwch eich llygaid ar agor am fywyd gwyllt lleol a gallwch orffen y trip gyda thamaid blasus yn y Gwili Tea Room.

7369

Prynhawn diwylliannol

P’un a ydych chi’n dwlu ar chwedl Myrddin, wrth eich bodd â chestyll neu’n gwerthfawrogi Celf, mae gan Gaerfyrddin y cyfan. Yn ôl y sôn, yma y ganwyd Myrddin – fel mae enw’r dref yn awgrymu. Ewch i fyny Bryn Myrddin ar gyrion y dref lle credir ei fod wedi’i roi i orffwys, ac ewch i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin i weld y darn olaf o Dderwen Myrddin. Yma, fe welwch lu o drysorau hanesyddol, yn cynnwys esgyrn mamoth, arteffactau o’r Aifft ac aur Rhufeinig. Yna ewch i weld yr hyn sy’n weddill o’r Amffitheatr Rufeinig, adfeilion y castell o’r 12fed ganrif, a’r tai hardd o gyfnod y Rhaglywiaeth sydd i’w gweld yn y dref. I’r sawl sy’n hoffi celf gallwch fwynhau’r arddangosfeydd difyr yn Oriel Myrddin a darganfod crefft y crochenwyr yng Nghrochendy Gwili.

7364

Yn goron ar y cyfan

Teimlo’n ddewr? Beth am fynd ar daith ysbrydion yng Nghaerfyrddin – bob haf mae teithiau am ddim yn cychwyn o Dŷ’r Castell, o fewn muriau Castell Caerfyrddin. Byddwch yn ymweld â’r hen garchar sy’n dyddio’n ôl i’r 1530au ac yn clywed am achosion llys a chamweddau’r carcharorion. Ac, os ydych yn ymweld â Chaerfyrddin ym mis Mawrth, dyma’r mis pan fydd Gŵyl Myrddin yn dod i’r dref. Mae’r ŵyl stryd unigryw hon o ornestau hud, academïau dewiniaid, ffeiriau crefftau, perfformiadau dawns ac ail-greu digwyddiadau Arthuraidd yn ddigon i’ch cyfareddu!

 

7370