36 awr yn Llanymddyfri

Mae chwedlau a hanes wrth wraidd y dref farchnad hyfryd hon ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n cael ei hamgylchynu gan fynyddoedd mawreddog, coetiroedd deiliog a rhaeadrau hudol gan sicrhau bod golygfa drawiadol ym mhob cyfeiriad.

Pam mynd yno nawr?

Mae Llanymddyfri a’i harddwch yn eang ei hapêl. Yn gorwedd ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r dref yn ganolfan berffaith ar gyfer crwydro rhan orllewinol y parc. A hithau’n agos at y Mynydd Du, Coedwig Crychan, Cwm Rhaeadr, afon Tywi a Chronfa Ddŵr Wysg, mae’n lle delfrydol ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth, ac yn hafan i’r rhai sy’n caru natur.

Bydd y sawl sy’n ymddiddori mewn hanes a chwedloniaeth hefyd yn cael eu denu i’r dref farchnad ddeniadol hon, diolch i’w hetifeddiaeth borthmona, pan fyddai miloedd o anifeiliaid yn cael eu gyrru drwodd bob blwyddyn ar eu ffordd i farchnadoedd ar draws y wlad. Heddiw, gallwch deimlo presenoldeb yr etifeddiaeth honno o amgylch y dref. Ac, yn ogystal â bod yn gartref i adfeilion Castell Llanymddyfri o’r 12fed ganrif, mae hefyd yn gyn gartref Llywelyn ap Gruffydd Fychan, un o brif gefnogwyr Owain Glyndŵr, dewis y bobl fel Tywysog Cymru yn yr Oesoedd Canol.

Amcan o’r lleoliad

A hithau yr un pellter o Gaerdydd, Abergwaun a Henffordd (tua 90 munud yn y car), mae lleoliad Llanymddyfri yn hynod o ffafriol; dyma’r porth gogleddol i Sir Gaerfyrddin a Gorllewin Cymru a’r porth deheuol i Fynyddoedd Cambria. Ac yn gefnlen iddi mae mawredd gerwin y Mynydd Du, sydd o fewn y rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd yn Sir Gaerfyrddin. Yma fe welwch y barcutiaid cyfareddol, y mae eu poblogaeth wedi cynyddu yn sgil mwy o waith gwarchod a’r orsaf fwydo ym mhentref Llanddeusant, hanner awr o Lanymddyfri.

Diwrnod 1

Golygfa fendigedig

Waeth ble bron y gwnewch chi droi yn Llanymddyfri a’r cylch, bydd golygfa anhygoel o’ch blaen. Ond i gael gwledd go iawn i’r llygaid, paciwch bicnic ac ewch allan at argae a chronfa ddŵr Llyn Brianne yn Nyffryn Doethie, sydd wedi’u hamgylchynu gan lesni Coedwig Tywi. Yn 91 metr o uchder, hwn yw argae talaf Prydain a dyma argae craidd clai mwyaf y byd – ond y golygfeydd heb eu hail yw’r hyn fydd yn aros gyda chi.

Mynd am dro hamddenol

Treuliwch fore yn ymchwilio i chwedlau’r Forwyn yn y Llyn a Meddygon Myddfai yng nghanol harddwch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ewch i fyny at Lyn y Fan Fach, llyn arian sy’n gorwedd o dan gopaon Bannau Sir Gaer, lle gallech weld cudyllod coch, barcutiaid a bwncathod yn hedfa uwchben. Mae’r golygfeydd yn ddigon i’ch swyno, ac felly hefyd lawer o’r chwedlau sy’n gysylltiedig â’r llyn. Cred rhai fod un o’r chwedlau hyn wedi arwain at chwedl enwog arall, sef un chwedlau Arthur - Morwyn y Llyn a Chaledfwlch. Cerddwch yn ôl i bentref Myddfai (deg munud o Lanymddyfri), i glywed rhagor o straeon difyr am linach o lysieuwyr a gâi eu hadnabod fel Meddygon Myddfai, a oedd yn byw a gweithio yma yn yr 11eg a’r 12fed ganrif.

Cinio bendigedig

Yn gweini prydau cartref o gynhwysion tymhorol – gyda thrysorau Sioraidd yn cael eu harddangos yn y cefndir - mae’r Old Printing Office yng nghanol Llanymddyfri. Mae’r adeilad yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 18fed ganrif ac roedd yn gartref i un o’r gweisg argraffu cyntaf yng Nghymru, yn cynhyrchu llyfrau hanesyddol fel Brutusiana, sydd i’w weld yma. Erbyn hyn, mae’r caffi’n cynhyrchu sawl pryd tymhorol bob dydd, yn ogystal â theisennau a phwdinau cartref, gan osgoi gwastraff dianghenraid a chan ddefnyddio cynnyrch lleol.

Crwydro’r siopau

Un o atyniadau Llanymddyfri yw’r siopau annibynnol sydd yno. Gallwch chwilio am drysorau yn y siopau vintage, cael tamaid i aros pryd yn The Patisserie sy’n gwerthu bara ffres, teisennau, sgons a thoesenni, ac anelu am sgwâr cobls y farchnad ar Sadwrn olaf pob mis i brynu cynnyrch lleol ffres yn y farchnad ffermwyr. Mae Llanymddyfri yn lle gwych hefyd i ffeindio dodrefn unigryw, wedi’i adfer, mewn arddull wledig, yn Davies&Co, neu anrheg arbennig i fynd adre gyda chi yn stiwdio Red Giraffe yng Ngwesty’r Castell; mae yno deganau, blancedi gwlân, llyfrau a tsieni wedi’u creu gan artistiaid a chrefftwyr lleol.

 

Diod i godi archwaeth

Mwynhewch gwrw go iawn fel Gower Gold a rhowch gynnig ar y gwahanol fathau o gwrw arbennig gan fragwyr lleol, sy’n cynnwys Brecon Brewery neu Glamorgan Brewing Co, yn The Kings Head, tafarn glud yn y dref gyda thrawstiau isel a gwaith brics y tu mewn. Mae gan dafarnau Llanymddyfri hanes arbennig; adeg y porthmyn, arferai fod mwy na 100 yn y dref! Mae ambell un ar ôl heddiw, fel The Whitehall Hotel, The Bluebell Inn, The Greyhound Inn, The Plough Hotel a The Lord Rhys.

Gwledda fel y bobl leol

Mae’r Castle Hotel yn Llanymddyfri yn cyfuno swyn gwledig (tanau coed a soffas cyfforddus) gyda bwydlenni llawn dychymyg o fwyd cyfoes Prydeinig. Mae’n frwd am ddefnyddio cynnyrch lleol, ac fe welwch bysgod a physgod cregyn ar y fwydlen, yn ogystal â helgig lleol, pasteiod a chaserolau yn yr hydref a’r gaeaf. A chithau yn Llanymddyfri, byddai’n bechod peidio â rhoi cynnig ar y Cinio Porthmon y mae’n ei gynnig, o derîn coesgyn ham, ŵy selsig a chaws Cheddar cryf o Gymru wedi’i weini gydag amryw o siytnis gwahanol. Wrth ichi feddwl am y porthmyn a’r holl deithio yr oedd rhaid iddyn nhw ei wneud, ystyriwch mai’r ffordd rhwng y Castle Hotel a Castle Garage yw’r man culaf ar yr A40 ar ei hyd o Lundain i Abergwaun.

 

 

Diwrnod 2

Brecinio braf?

Wedi bod i bentref Myddfai? Beth am gydgerdded ymhellach â’r chwedl a mwynhau brecinio braf yng Nghaffi Myddfai. Mwynhewch y cawl twym, Salad y Meddygon a’r teisennau cartref, gyda diod o un o’r dewis helaeth o fathau o de llysieuol sydd wedi’u seilio ar y perlysiau yr oedd Meddygon Myddfai yn eu defnyddio’n hanesyddol. Mae eu henwau’n ddigon i’ch swyno; dewiswch o blith Bardic Bliss, Ceridwen's Brew, Llyn-y-Fantastic, Myddfai Magic neu Physician's Treasure. Mae prydau bar a bwyty da ar gael hefyd yng nghaffi The Bear yn Llanymddyfri, sydd newydd gael ei adnewyddu, a gallwch fwynhau’r lle eistedd awyr agored yn yr haf yma ac yn Penygawse Tea Room.

Mynd am dro yn y parc

Coetir deiliog a rhaeadrau cain, llên gwerin a chyfoeth o adar – bydd mynd am dro yn y wlad yng nghyffiniau Llanymddyfri yn dod ag asbri i unrhyw ddiwrnod. Dylai’r rhai sy’n hoffi gwylio adar anelu at Warchodfa Natur Dinas i fynd i gerdded wrth ymyl afon Tywi, gan wylio’r barcutiaid, y gwybedog brith, y siglen lwyd a’r tingoch yn hedfan fry uwchben. Dewch yma ym mis Mai i weld ‘hen lesmeiriol baent’ clychau’r gog yn ymledu ar draws y coetir, a pheidiwch ag anghofio dringo’r llwybr i’r ogof lle credir i Twm Sion Cati guddio oddi wrth yr awdurdodau. Opsiwn arall yw mynd â phicnic a dilyn y llwybr at raeadr dramatig Cwm Rhaeadr.

Ewch am daith

Cyfle hyfryd i gyfuno taith gerdded braf ar y mynydd gyda siwrnai trên drwy gefn gwlad gyda’r mwyaf trawiadol yng Nghymru – beth am ddal trên o orsaf rheilffordd Calon Cymru yn Llanymddyfri. Byddwch yn croesi Traphont Cynghordy, wedyn gallwch fynd allan am dro gyda golygfeydd anhygoel o Fannau Brycheiniog o’ch cwmpas, cyn dychwelyd i Lanymddyfri ar y trên ac archebu teisennau a the yng Nghaffi Gorsaf Llanymddyfri a mwynhau’r arddangosfeydd o waith artistiaid lleol. A wyddech chi fod y rheilffordd hon yn croesi’r A40, yr unig le o ddechrau hyd at ddiwedd y ffordd lle caiff ei chroesi gan reilffordd?

Prynhawn diwylliannol

Cerddwch yn ôl traed y porthmyn a wnaeth Lanymddyfri’n enwog; ewch i weld y cerflun yn y dref i’r gweithwyr caled hyn, ymwelwch ag adeilad King’s Head lle’r agorodd Banc yr Eidon yn 1799 er mwyn i’r porthmyn wneud addewidion yn lle delio mewn sofrenni aur, ac arhoswch yn nhŷ llety The Drovers Inn! Mae’r dref hefyd yn gartref i gerflun dur gwrthstaen enfawr o Llywelyn ap Gruffydd Fychan a gallwch ymweld â gorffwysfan olaf un o feibion enwocaf Cymru yn y fynwent yn Llanfair-ar-y-bryn, ychydig y tu allan i Lanymddyfri – yr emynydd a’r bardd William Williams Pantycelyn. Roedd yn un o ffigurau crefyddol mawr Cymru yn yr 19fed ganrif. Ymysg ei emynau mwyaf cyfarwydd mae ‘Arglwydd, arwain trwy’r anialwch’, sy’n fwy adnabyddus fel Bread Of Heaven, sy’n cael ei ganu’n aml gan chwaraewyr rygbi a chefnogwyr fel ei gilydd mewn gemau rhyngwladol.

Bydd Llanymddyfri yn cael ei Phlac Glas ei hun yn ddiweddarach eleni ar dŷ’r Ficer Prichard – y clerigwr o’r 16eg ganrif sy’n cael ei gofio fel awdur Canwyll y Cymry.

 

Yn goron ar y cyfan

Mae’r unig waith aur Rhufeinig y gwyddom amdano yn y Deyrnas Unedig wedi’i leoli 20 munud o siwrnai o Lanymddyfri, sef Mwyngloddiau Aur Dolaucothi. Erbyn hyn cânt eu cynnal gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gall ymwelwyr fynd dan ddaear ar deithiau tywys i ganfod sut y câi gweithfeydd aur eu defnyddio o gyfnod y Rhufeiniaid tan ddechrau’r 20fed ganrif a sut fath o amodau yr oedd y mwynwyr yn gweithio ynddynt. Gallwch hyd yn oed banio am aur! Ac os ydych yn chwilio am bentrefi pert, heb eu difetha, sy’n adlewyrchu gwir fywyd Sir Gaerfyrddin, anelwch am bentref bach Cwm-du –y gwnaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol helpu i’w gadw – a mwynhewch bleserau’r tŷ bwyta yno cyn mynd am dro yng nghefn gwlad.

 

 

Yn dymuno eich bod chi yma?

P’un a ydych eisiau aros mewn lle hunanarlwyo o safon uchel, meysydd gwersylla a meysydd carafanau braf, neu westai a thai llety rhagorol, mae gan Lanymddyfri gymysgedd cyfoethog ac amrywiol i ddewis o’u plith. Mae yma feysydd carafanau hyfryd, fel Abermarlais a Dolbryn, ar safleoedd sydd wedi’u hamgylchynu gan harddwch naturiol Sir Gaeryfyrddin ac yn agos at ei threfi marchnad bywiog, tra mae rhai fel Erwlon hefyd yn darparu profiadau gwârsylla gyda phodiau tebyg i gabanau pren wrth ymyl yr afon. Neu, gallech aros mewn llety sydd, yn llythrennol, yn addas i’r teulu brenhinol, yn Llwynywermod. Yn eiddo i Ddugaeth Cernyw ac yn cael ei ddefnyddio gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a Duges Cernyw pan fyddant yng Nghymru, mae modd archebu’r eiddo fel llety gwyliau o bryd i’w gilydd pan nad yw’r Tywysog a’r Dduges yno.