36 awr ym y Mynyddoedd Cambria

Darganfyddwch dirwedd hardd Mynyddoedd Cambrian ...

Pam Aros?

Dewch i ddarganfod rhan fwyaf deheuol Mynyddoedd Cambria yn Sir Gaerfyrddin drwy ymweld â phentrefi bach sydd wedi'u cysylltu gan ffyrdd amrywiol a dyffrynnoedd godidog. Byddwch yn dilyn ôl-troed y Rhufeiniaid, y Porthmyn a hefyd yn ymweld â'r dref sydd wedi'i dewis ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2021.O ba gyfeiriad bynnag rydych yn dod, gallwn eich annog i wneud y gorau o'ch amser.

Mae tref Llanymddyfri yn borth i Fynyddoedd Cambria. Ewch tua'r gogledd a byddwch yn pasio pentrefi tawel Cynghordy, Rhandir-mwyn a Chil-y-cwm. Mae Rheilffordd Calon Cymru yn cysylltu Llanymddyfri â Chynghordy a gallwch hyd yn oed gerdded yn ôl i'r dref hanesyddol drwy Lwybr Rheilffordd Calon Cymru. Ewch i weld Traphont Cynghordy hefyd, sef camp beirianyddol anhygoel a fu'n dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed yn ddiweddar. Mae'n strwythur arbennig. Gerllaw, rhowch gynnig ar yrru 4x4 yn Ffarm Llanerchindda

Diwrnod 1

Mynd am dro hamddenol

O bentref Rhandir-mwyn, gellir mynd ar daith fer yn y car ar hyd ffordd safonol i fyny i Ddyffryn Tywi hyd at Argae Llyn Brianne. Cafodd yr argae ei agor yn 1974, ond erbyn heddiw mae'n lle gwych i gael picnic a mwynhau'r olygfa o'r amrywiol ddyffrynnoedd ac isafonydd sy'n cyflenwi'r gronfa honno. Mae'r tair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys, yn cydgyfarfod yng nghanol y 'llyn'. (Mae cynlluniau ar y gweill i greu maes parcio yma ar Safle Darganfod Awyr Dywyll, gan eich galluogi chi i ddarganfod awyr dywyll anhygoel Mynyddoedd Cambria gyda'r nos).

Darganfod cuddfan herwr

Wrth fynd yn ôl i lawr y dyffryn, fe welwch Warchodfa Natur Gwenffrwd-Dinas RSPB. Mae digon o leoedd parcio a chofiwch gadw llygad am y panel gwybodaeth sy'n adrodd hanes Twm Siôn Cai, sef herwr o'r 16eg ganrif. Gellir dod o hyd i'w ogof a'i guddfan ar y llwybr ag arwyddion drwy'r warchodfa. Ewch am wâc ar hyd y rhodfa bren ac mae'r llwybr yn mynd ar hyd glannau Afon Tywi. Yn aml, gall y llwybr fod yn anwastad ac yn llithrig. Mae'r ogof ei hun yn wag ac mae wedi bod yn atyniad ymwelwyr ers mwy na 200 o flynyddoedd. Ewch i weld yr enwau wedi'u hysgythru ar waliau'r ogof.

Ewch o'r ogof yn ôl i lawr i'r llwybr a thrwy'r warchodfa natur er mwyn gweld clychau'r gog sy'n olygfa syfrdanol yn gynnar ym mis Mai.

Ewch i fwyta yn y dafarn wrth ymyl yr afon, y dafarn sydd â chysylltiadau brenhinol neu dafarn yr herwr hanesyddol. 

Mae'r Towy Bridge Inn yn edrych allan ar dirwedd serth Dyffryn Tywi.  Mae'r bwyd yn y dafarn hon yn flasus, fel y mae yn y Royal Oak Inn yn Rhandir-mwyn, sydd ychydig o filltiroedd i lawr y dyffryn. Roedd coeden dderw 600-700 oed gerllaw wedi ennill Coeden Gymreig y Flwyddyn yn ddiweddar. Er y bu ar un adeg yn dwlc mochyn, credir hefyd y bu'n guddfan i frenin.

Mae nifer yn ymweld â phentref Cil-y-cwm. Yma mae'r Neuadd Fawr Arms sydd hefyd yn cynnig peint a phryd o fwyd gwych. I losgi'r calorïau, beth am ddilyn y llwybrau ag arwyddion yn y coetir anghysbell, sef Cwm Rhaeadr. Os oes gennych eich beic gallwch bedlo yma hefyd, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â'r rhaeadr drawiadol cyn i chi adael.

Diwrnod 2

Mae aur yn y bryniau a'r mynyddoedd

Mae nifer o resymau dros ymweld â Mwyngloddiau Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch ag un o'r teithiau tanddaearol sy'n rhoi cyfle i chi wisgo het galed a thortsh ar eich pen ac edrych yn cŵl iawn, cyn mynd i lawr i'r llwybrau tanddaearol oerach fyth. Ar ôl dod yn ôl i'r wyneb gallwch chwilota am aur, archwilio hen siediau a pheiriannau ac ymweld â'r caffi a'r siop. Mae Llwybr y Mwyngloddwyr y gallwch ei ddilyn hefyd. Mae dros 25km o lwybrau troed i godi awydd bwyd arnoch!

Tafarn arobryn gerllaw

Ni allwch ymweld â'r mwyngloddiau heb fynd i'r Dolaucothi Arms. Mae gan y dafarn bentref leol hynod gyfeillgar hon ardd gwrw fawr ac mae'n cynnig bwyd wedi'i wneud o gynnyrch lleol. Yn 2019, cafodd ei phleidleisio fel Tafarn Wledig y Flwyddyn yng ngwobrau Countryfile. Ar ôl mynd i'r dafarn, gallwch ddilyn ôl troed perchennog y dafarn, Claire, a mynd i gopa mynydd lleol lle gallwch werthfawrogi tirwedd anhygoel mynyddoedd Cambria. Roedd dros 25,000 o bobl ar Twitter wedi gwylio'r fideo ohoni'n cerdded ar hyd y llwybr.

Ewch ar hyd Heol yr Abaty

I gwblhau eich taith o dde-orllewin gwyllt mynyddoedd Cambria yn Sir Gaerfyrddin, beth am fynd i'r de o dir y Rhufeiniaid i lannau heddychlon Llyn Talyllychau Uchaf ac olion Abaty Premonstratensaidd. Cafodd Abaty Talyllychau ei sefydlu gan yr Arglwydd Rhys, un o dywysogion mwyaf pwerus a llwyddiannus Cymru. Cafodd yr Arglwydd Rhys ei gladdu yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Erbyn heddiw, mae ymweliad â'r abaty yn cynnig mwy nag edrych yn ôl i'r gorffennol yn unig. Mae'r lleoliad yn arbennig iawn ac mae'r llwybr cerdded byr drwy’r coetir cyfagos yn eich galluogi i ddringo'n uchel uwchben llawr y dyffryn lle gallwch fwynhau golygfeydd panoramig anhygoel o bob cyfeiriad.

Brenin y Castell

Wrth anelu am adref, mae eich 36 awr gyntaf ym mynyddoedd Cambria yn Sir Gaerfyrddin bron â dod i ben. Ond yn gyntaf, mae'n rhaid i chi grwydro tref Llanymddyfri. Mae'r dref a fu'n gartref i dros 50 o dafarndai a gwestai ar un adeg bellach yn borth i ogledd a gorllewin Mynyddoedd Cambria, ac i ddwyrain a de Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae adfeilion y castell sy’n dyddio o’r 13eg Ganrif yn gampwaith eiconig, ac erbyn heddiw mae'n gartref i gofeb Llywelyn ap Gruffydd Fychan. Mae'r cerflun dur gloyw sgleiniog a thrawiadol, sydd yn 16 troedfedd o daldra, yn sefyll ar dwmpath y castell ac yn edrych tua gogledd-orllewin tirwedd odidog Mynyddoedd Cambria, sef tirwedd y byddwch wedi'i darganfod mewn ychydig llai na 36 awr.

 

Amser am baned

Ar ôl darganfod rheilffyrdd, lladron pen ffordd, aur Rhufeinig, abaty a chastell, bydd hyd yn oed y rhai egnïol yn dyheu am baned a hoe fach. Mae Ystafell De Penygawse dafliad carreg o Gastell Llanymddyfri, neu beth am ymweld â'r West End Café (sy'n boblogaidd ymhlith beicwyr) neu hyd yn oed rhoi cynnig ar fwydlen y bar yng Ngwesty'r Castell.

Ymlaciwch.